"Ym mhle, fyddech chi'n dweud,
ydych chi hapusaf? Allwn i ddim
dweud yn siwr, ond mae cael sefyll
yn chwarel gynoesol Carn Menyn,
ger Trefdraeth, yn go agos i fi.
I lawer,
fodd bynnag, does dim lle tebyg
i gartref pan fyddwch chi eisiau
teimlo'n fodlon. Mae'n hen ystrydeb,
ond tu hwnt i hynny, mae cartrefi ,
dim ots pa mor fyr eu hoedl, yn
gallu bod yn llawn gwrthrychau a
storïau diddorol, neu drysorau coll
sy'n golygu bron dim, ar yr olwg
gyntaf.
Meddyliwch, er enghraifft,
am gynnwys un o'r drariau 'na yn
y gegin, sydd wedi'i lenwi gydag
allweddi i gesys coll, hen sbectolau
haul a bandiau elastig. Tra bod
archaeolgyddion yn lloffa trwy'r
hyn sydd wedi'i adael ar ôl mewn ôl
troed adeilad neu feddrod arbennig,
mae hanes cymdeithasol (neu hanes
diwylliannol, os hoffech chi), yn
edrych ar yr hyn mae pobl yn ei
gadw o'u cwmpas o ddydd i ddydd,
boed yn souvenirs, twls, dillad, neu
offerynnau cerddorol.
Bydd raid i fi gyfaddau, yn fan hyn,
fy mod i'n gweithio yn amgueddfa
Sain Ffagan, ac felly'n cael y pleser
achlysurol o gael ymchwilio i
fywydau bob dydd pobl Cymru,
weithiau - rhaid dweud - i lefel
syfrdanol o fanwl.
Nid syfrdanol am
y rhesymau gorau bob tro, chwaith!
Mae'r casgliad ar gael i ymchwilwyr
o bob math, beth bynnag yw
eu maes - offer deintydd, hetiau,
neuaddau pentre', neu hyd yn oed
fathodynnau, trwy yr oesoedd.
Mae'n rhyfedd cyrraedd adre' ar ôl
diwrnod wedi'i dreulio'n edrych
ar, a siarad am lwyau, a dim ond
llwyau. Dro arall, treulio pnawn yng
yn llofft dywyll castell Sain Ffagan,
yn didoli doliau cwyr Fictorianaidd;
rhai ohonynt â'u llygaid led y pen
yn agored, wedi'u cadw dan glychau
gwydr a gwe pry cop.
Neu'r casgliad
o hen boteli melltith, sydd, yn ôl
coel gwerin, wedi'u llenwi â hoelion
a dãr gwrach (alla i ddim cadarhnau
hyn - dwi ddim yn credu bod neb
erioed wedi bod yn ddigon dewr
i agor un o'r poteli!).
Dyw'r rhan
fwyaf o'r amgueddfa, a'r ardal o'i
hamgylch, ddim mor llwm a lloft y
castell, chwaith. Mae cael bod yn agos
at dro'r tymhorau yn beth moethus
iawn, o ystyried fy mod yn gallu
clywed cerddoriaeth a sgrialu'r ddinas
wrth ysgrifennu, 'nawr, mewn atig ty
teras tal, ar un o briffyrdd Caerdydd.
Rwyf wedi bod yn byw yma ers
tair blynedd, nawr, ac mae'n ddinas
ddymunol, er bod rhannau mawr
o'i chanol dal yng nghanol gwaith
adeiladu a datblygu enfawr.
Mae pensaernïaeth, a hanes ffurfiol
adeiladau, yn un o'r meysydd gaiff
ei ystyried yn un o'r lleia hygyrch
yng Nghymru, a thu hwnt. Byddwn
yn gosod y pwnc yn ail o dan gelf
gysyniaethol yn ei allu i gorddi
golygyddion diwylliannol papurau
ceidwadol fel y Telegraph a'r Mail.
Serch hyn, mae gennym ni i gyd
ddealltwriaeth ohono, os ydym
ni'n gwybod hynny ai peidio.
Rydym ni i gyd yn ymddwyn yn
wahanol mewn canolfan siopa
foethus, o'i gymharu â'r stryd fawr
leol, er enghraifft, er mai 'r un yw'r
gwasanaethau sy'n cael eu cynnig.
Mae rhaglenni am bensaenïaeth
wastad yn dibynnu ar wyneb
cyfelligar, diddorol i'w cyflwyno -
cymeriadau fel John Davies, neu
Fred Dibnah hyd yn oed. Heb stori,
neu ôl pobl, mae pensaernïaeth
uchegeisiol yn gallu ymddangos yn
ymwthiol a di-enaid, ac mae'n gallu
corddi teimladau cryfi on iawn.Cefais
fy atgoffa o'r cynllun diffrwyth
luniwyd i adeiladu ty opera
uchelgeisiol, dan law Zaha Hadid,
yma yng Nghaerdydd, a'r ymateb
chwyrn a theimladwy gafodd ei
gyflwyno yn erbyn y prosiect yn y
cyfryngau ar y pryd.
Mae ty opera 'da
ni nawr yn y Bae; un pert, a gallwch
chi weld perfformiad o opera safon
rhyngwladol am bumpunt yno.
Nid adeiladau 'bob dydd' sydd i'w
canfod yn y Bae erbyn hyn. Bu
newid enfawr yn amgylchedd Tre
Biwt yn y ddwy ddegawd ddiwethaf.
Mae'n ddiddorol i nodi mai tynged
adeiladau mewn cymunedau isel
eu braint yw difodiant - maent
yn cael eu dymchwel i wneud lle i
bethau gwell.Does dim ond llond
llaw o'r hen adeiladau diwydiannol
ar ôl yn y Bae; llai fyth sydd yn
goroesi o dai y teuluoedd oedd yn
gweithio gerllaw.Mae hyn yn achosi
penbleth i'r hanesydd, gan gynnwys
ni yn Sain Ffagan - mae'r tai ar y
safl e bron oll yn cynrychioli ffordd
o fyw gyfforddus, o'i chymharu
â gwir amgylchiadau'r werin yng
Nghymru.
Does dim llawer yn
goroesi o'u cartrefi nhw, na'u ffordd
o fyw. Mae'r hyn sydd yn goroesi yn
brin, yn bryfoclyd a phwysig. Maent
hefyd ar gof a chadw ar gyrion y
brifddinas: galwch draw i'w gweld
rywdro.
Neu'n well fyth, ewch i
chwilota'n y drâr 'na'n y gegin am
eich hanes cudd chi..."