I ben Disgwylfa Fawr, ger
Ponterwyd, yr aeth taith Edward
Llwyd, ddydd Sadwrn Medi 20fed.
Daeth rhyw ugain ohonom
ynghyd dan heulwen braf haf
bach Mihangel ger Hirnant,
Ponterwyd, i ddechrau ar y daith
a addawai fod rhwng chwech ac
wyth milltir.
Yno'n disgwyl amdanom roedd
Gwyn Jones, Llys Maelgwyn, Bow
Street, ein harweinydd am y dydd.
Yn ôl ei drefnusrwydd arferol
roedd wedi paratoi nodiadau
manwl ar ein cyfer. I ategu'r rheiny
byddai'n ein galw at ein gilydd
bob hyn a hyn i rannu rhagor o'i
stôr ddihysbydd o wybodaeth am
y mynydd a'i bobl, yn ffermwyr a
bugeiliaid.
Clywsom am Thomas Richards
a anwyd yn Hirnant ac a aeth yn
ficer Darowen ym Maldwyn; yna
wrth fynd ymlaen at yr argae
clywsom am Hyddgen a cherrig
cyfamod Owain Glyndãr; am
waith y Dr C.S. Briggs, yn 1984,
yn darganfod 32 o safleoedd
o ddiddordeb hanesyddol, yn
garneddau o Oes yr Efydd ac yn
dai a chytiau hir canoloesol, a
hynny'n profi bod poblogaeth
uwch ar y yr ucheldir nag a
feddyliwyd erioed o'r blaen; ac am
y cloddio ger Aber Camddwr yn
1986 pryd cafwyd pwll yn llawn
golosg a darnau o lestri o Oes yr
Efydd.
Esboniodd Gwyn Jones fel
roedd llwyfandir Blaenrheidol
gynt wedi ei rannu rhwng
cymydau Perfedd a Genau'r-glyn
yng Ngheredigion a Chyfeiliog ym
Maldwyn. Yn sãn yr hanesion
am y lluestau a'r cysylltiad rhwng
y mwynwyr a'r bugeiliaid - y
mwynwyr yn llochesu mewn
lluestau a'r bugeiliaid yn cael
marchnad i'w nwyddau yn
y gweithiau mwyn, - a sylwi
mewn rhyfeddod ar harddwch
yr ehangder o dir agored o'n
hamgylch, cyrhaeddwyd pen y
mynydd, rai ohonom gyda mwy o
ymdrech nag eraill!
Does dim profiad brafiach na
chyrraedd copa, yn enwedig yng
nghwmni rhywun sy'n gallu
esbonio yr hyn sydd i'w weld
oddi yno. Dyna sy'n dda yn
nheithiau Cymdeithas Edward
Llwyd ble bynnag maen nhw'n
digwydd, maen nhw'n llawn
gwybodaeth leol a diddorol. Ar
ôl seiat fer ar gopa Disgwylfa
dyma ddisgyn yn ôl at y ceir
ger Hirnant, a darganfod, ar
ddiwedd y daith, diolch i beiriant
GPS un o'r cerddwyr, ein bod
wedi cerdded 9.8 milltir, ac wedi
mwynhau pob troedfedd o'r
daith!
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |