"Kenavo! Dyna chi un o'r
pump gair Llydaweg dwi 'di'u
dysgu ar ôl bron i chwe mis o
fyw yn Roazhon (Rennes i'r
Ffrancwyr) yn Llydaw.
Tipyn
o warth i Gymro Cymraeg,
mae'n siwr, ond ar hyn o bryd
dwi'n dal i ga'l digon o drwbwl
yn meistroli'r Ffrangeg i fod yn
hollol onest!
Nid yr ieithoedd (ma 'na
drydedd yng nghyffiniau
Roazhon hefyd: Gallo, ond
p'idwch â gofyn am honno!)
yw'r unig beth sy'n peri
penbleth chwaith!
Mae 'na arferion beunyddiol di-rif y
mae'n rhaid eu cofi o rhag i chi
gael eich ystyried yn wehil
cymdeithasol.
Mae mynd i'r
dafarn wedi troi'n her gusanol
ddifrifol gyda rhesi o fochau
i'w cusanu cyn cyrraedd y
bar.
A glywaf rai o ddynion
ardal y Tincer yn grwgnach
yn genfigennus? Peidied. Am
bob boch fenywaidd bert mae
dwy foch ddynol farfog!
Dyna
chi beth arall - mae 'na farfau
a mwstashys ym mhobman!
Mae fel cerdded i mewn i lyfr
Asterix. Nid Gavin Henson
fyddai'r Cymro mwyaf rhywiol
i'r Llydawyr, ond Rowan
Williams.
Hefyd, mae'r Llydawyr
annwyl yn gwgu arna i'n grac
i gyd gan 'mod i'n dueddol o
lymeitio peint cynta'r noson
heb ddweud "Yaec'h Mad!"
(Iechyd Da!) a thinclan fy
ngwydr â'm cyfeillion.
Yn wir,
hyd yn oed os cofi a i ddweud
y geiriau hollbwysig a thinclan
fy ngwydr, pur anaml dwi'n
llwyddo i wneud hynny yn
y ffordd briodol: mae'n rhaid
tinclan pob gwydr o fewn
golwg (gall hyn olygu taith
gusanog arall i ochr bellaf y
bar i dinclan gwydr hen foi
sydd ar fi n cwmpo i gysgu
rhag ofn iddo deimlo ei fod yn
cael ei hepgor) a thra byddwch
yn dymuno iechyd da, mae'n
rhaid syllu'n ddwys i lygaid
eich cyd-dinclwr nes bod eich
llygaid yn pefrio.
Canlyniad
hyn yw llond tafarn o bobl
a'u llygaid fel soseri, fel pe bai'r
cyntaf i flincio'n gorfod prynu
rownd i'r dafarn gyfan.
Ond dyna ddigon o gwyno!
Dwi'n dechre swnio fel
fersiwn Ceredigion o Jeremy
Clarkson. Mae'n rhaid dweud,
er nad yw'r Llydaweg mor
amlwg yma â'r Gymraeg yng
Nghymru, mae eu diwylliant
cerddorol yn fywiocach o
gryn dipyn.
Dwi 'di clywed
yn ddiweddar na fydd 'na
Sesiwn Fawr yn Nolgellau
eleni oherwydd blwyddyn
aflwyddiannus y llynedd:
dim problemau o'r fath yma!
Dwi 'di bod i amryw Festoù
Noz (cyngherddau i chi a fi )
mawreddog lle mae miloedd
o Lydawyr chwil-hapus yn
dawnsio'n ddi-stop am oriau.
Dries i ymuno â nhw ond,
diawl, ma'n waith caled! Mae'r
coesau'n symud ffwl pelt a
does dim gobaith am seibiant
a chithau'n sownd rhwng dau
Lydawr chwyslyd sy'n dawnsio
fel pe bai'r byd ar fi n dod i ben!
Rhoies i'r ffidil yn y to pan
bwyntiodd merch fach ata i a
dweud wrth ei thad: "Edrycha
ar hwnna, 'sdim siâp arno fe, le
pauvre."
Efallai nad yw'r bobl leol
yn gwerthfawrogi fy sgiliau
dawnsio ond, er gwaetha fy
nhrafferthion, ma'n rhaid
gweud mai dim ond ffwl
fyddai'n methu â mwynhau
byw yng nghwmni'r Llydawyr
mewn tref cyn brydferthed â
Roazhon... nawr ma' angen i
fi ddysgu gweud hynny yn y
Llydaweg!
Kenavo!"