91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Tincer
Cwpan Y Coliseum, Aberystwyth 1905 - 2005
Mawrth 2005
Dathlu canmlwyddiant Y Coliseum, Aberystwyth.
Er mwyn dathlu 100fed pen blwydd y Coliseum, Aberystwyth, bydd Amgueddfa Ceredigion, sydd yn awr wedi ei leoli yn y Coliseum, yn cynnal amrediad eang o berfformiadau cyhoeddus drwy gydol y flwyddyn.

Esboniodd Gwenllian Ashley, curadur cynorthwyol yn yr amgueddfa.
'Drwy ddathlu'r can mlynedd cyntaf o'r Coliseum, yr ydym am annog cynifer o bobl leol ac ymwelwyr ag sydd yn bosibl i ymuno â ni. Yr ydym am iddynt fwynhau yr adeilad eithriadol hwn. Fel rhan o'r dathliad hwnnw cynhelir rhaglen lawn o ddigwyddiadau. Bydd y perfformiadau hyn yn adlewyrchu'r amrywiaeth o ddefnydd o'r Coliseum a'i hanes hir yn ogystal â dathlu harddwch yr adeilad ei hun. Mae nifer o ymwelwyr i'r amgueddfa yn dweud wrthom mor hyfryd yw'r adeilad. Yr ydym yn bwriadu gwneud 2005 yn flwyddyn i gofio am y Coliseum."

Dathlir mewn nifer o ffyrdd. Cynhyrchwyd nifer cyfyngedig o fygiau tsieina wedi eu haddurno. Caiff cynllun gwreiddiol y ddwy oriel haearn bwrw yr adeilad Edwardaidd eu cynnwys ar y myg a stampiwyd y dyddiadau ar y gwaelod.

Ychwanegodd Gwenllian, Yr oeddem am ddewis nodwedd addurniadol o'r adeilad i'w arddangos ar y tsieina. Roedd y patrwm Edwardaidd ar yr orielau gwreiddiol yn ymddangos yn fotif addas iawn. Mae rhimyn aur yn rhoi lliw ac yn ychwanegu cyffyrddiad o swyn theatraidd i'r myg. Mae eitemau eraill sydd ar werth yn y siop yn cynnwys pwysau papur, gyda'r poster gwreiddiol ar gyfer y Coliseum, ac wrth gwrs ceir llyfryn yn dweud wrthoch am yr adeilad, a ysgrifennwyd gan Michael Freeman'.

Yn ystod y flwyddyn 2005, bydd grwpiau theatr lleol, amatur a phroffesiynol yn cymryd rhan yn y dathliad, gan gynnig amrediad eang o sioeau wedi eu hanelu ar gyfer plant ac oedolion. Bydd Archifdy Cenedlaethol Ffilm a Theledu a leolir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth hefyd yn cymryd rhan, gan sgrinio ffilmiau cynnar, rhai wedi eu gwneud gan bobl leol.

Adeiladwyd y Coliseum rhwng 1904-1905 yn lle Neuadd Phillips a'r stablau, a losgodd i'r llawr ar ŵyl San Steffan, 1903. Dyma un o'r adeiladau harddaf a mwyaf anghyffredin yn Aberystwyth.

Agorwyd ef ar Fehefin 9fed 1905 gyda Chyngerdd Mawreddog. Ychwanegodd Gwenllian, 'Roedd yn ddigwyddiad crand iawn ac yn cynnwys perfformiadau gan Miss Maggie Davies, soprano Miss Juanita Jones, contralto: Mr Tom Thomas, tenor, Tom Richards bariton, Mr Bertie Ollerhand, ffidil a Mr Caradog Roberts, piano. Roedd y maer yn anhwylus, felly llywyddwyd gan yr archddiacon Williams.

Lleolwyd o leiaf 5,000 o ddigwyddiadau yno cyn 1932. Roedd y rhain yn cynnwys 760 o ddramâu, neuadd gerdd, perfformiadau amrywiol a chabaret, operâu ac operetas, pantomeim, gornestau paffio, ffilmiau cynnar, Eisteddfodau, cynyrchiadau amatur, cyfarfodyd gwleidyddol a chyngherddau, hyd yn oed Nosau Sadwrn Dymunol (pan fyddai grwpiau eglwysi lleol yn trefnu cyngherddau er mwyn cadw pobl ifanc oddi ar y strydoedd).

Gallai'r gynulleidfa fod hyd at 1,4000 a chynhaliwyd oddeutu 1,200 o wahanol gynyrchiadau rhwng 1905 a 1932, pan gaewyd y lle.' Yn 1982 agorwyd y Coliseum unwaith eto, fel amgueddfa ar gyfer Ceredigion.

Dywedodd Gwenllian, "Adeiladwyd y Coliseum yn wreiddiol gan David Phillips ar safle Neuadd Phillips a ddinistriwyd gan dân yn 1903. Roedd yr adeilad newydd crand yn cynnwys awditoriwm bendigedig gydag arcêd o siopau oddi tano. Er ein bod yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen yn y cyngerdd agoriadol hoffem ddod o hyd i raglen wreiddiol.Felly os oes gan unrhyw un o'ch darllenwyr un, hoffem ei gweld."

Dros y blynyddoedd gwnaethpwyd amrywiol newidiadau. Roedd yno oleuadau trydan ond roedd cynulleidfaoedd yn cwyno ei bod yn rhy oer ac eithrio yn ystod cyfarfodydd gwleidyddol! Erbyn 1910 roedd system wresogi yno.

Roedd enwogion y cyfnod yn cynnwys Mrs Pankhurst, a siaradodd yma ddwywaith yn 1911. Bu Lloyd George yn cyfarch cynulleidfa ar yr Ymgyrch Gymreig yn 1905 a siaradodd y Prif Weinidog Mr Asquith yng nghyfarfod y Rhyddfrydwyr yn 1919.

Pan gymrwyd drosodd yr adeilad gan Amgueddfa Ceredigion yn 1978 daethpwyd o hyd i amrywiol bosteri gwreiddiol yn yr atig uwch ben y llwyfan. Roedd nifer ohonynt wedi eu gliwio i'r trawstiau ac maent yn dal i fod yno. Mae'r adloniant a hysbysebir ar y posteri hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o berfformiadau byw, gan gynnwys rhai eitemau diddorol megis Mddle Bartenelli ar ei Cholofn Aur! Cafwyd Cystadleuaeth Harddwch mawreddog hefyd, gydag oriawr aur gain i'r enillydd. Y gynulleidfa oedd y beirniaid.

Perfformiwyd dramâu gan gwmnïau proffesiynol yn ystod misoedd yr haf tra bod grwpiau amatur yn perfformio yn y gaeaf. Cafwyd cyngherddau ysgol ac Eisteddfodau lleol yn ystod y dydd a dangoswyd ffilmiau byr rhwng perfformiadau byw gyda'r nosau pan berfformiwyd sioeau amrywiol.

Cadwyd cofnod manwl yn ystod y dyddiau cynnar pan oedd sinema yno nodwyd teitl y ffilm, nifer y rhai a oedd yn bresennol a'r arian a gymrwyd am y sioeau. Tua diwedd y 70au nid oedd cofnodion mor fanwl yn cael eu cadw a dirywiodd y fusnes. Roedd yr adeilad mewn cyflwr gwael.

Cymrwyd drosodd adeilad y Coliseum gan Amgueddfa Ceredigion, ac ar ôl adnewyddu, agorwyd ef i'r cyhoedd ym 1982. Ers yr adeg honno, mae ymwelwyr wedi medru mwynhau yr adeilad crand unwaith eto. Amcangyfrifir bod tri chwarter miliwn o bobl wedi ymweld ag Amgueddfa Ceredigion yn y Coliseum.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý