Croesawyd dwy aelod newydd yn ein cyfarfod ym mis Tachwedd. Mrs. Bet Davies o Gwmann oedd ein gwraig wadd ac fe'i croesawyd gan ein llywydd, Mrs. Liz Collison. Clywsom ganddi beth oedd Reiki ac fel y cafodd ei ail ddarganfod ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf yn Japan. Soniodd wrthym am brofiadau Mrs Takata o Hawaii a aeth i Japan yn nhri degau'r ganrif ddiwethaf i ymweld â'i theulu. Lledodd yr arfer o ddefnyddio Reiki i'r Unol Daleithiau ac oddi yno i Ewrop. Credai'n gryf bod Reiki'n gallu helpu unrhyw salwch a soniodd am ei phrofiadau yn trin rhai o anifeiliaid ei fferm ac fel yr iachawyd hwy.
Cafodd ein llywydd brofi triniaeth Reiki gan Bet Davies yn y cyfarfod. Diolchodd Ann Jenkins i'r siaradwraig a hefyd i'w gŵr Eurig, oedd wedi dod gyda hi.
Wythnos yn hwyrach aeth sawl un o'r aelodau i Lanrhystud i weld yr arddangosfa gelf a chrefft yno. Cynrychiolwyd y gangen yng nghwis Merched y Wawr yn Ysgol Uwchradd Aberaeron gan Llinos Jones, Heulwen Lewis, Eirwen McAnulty a Gwenda Morgan.
Derbyniwyd gwahoddiad oddi wth Gangen Bro Ilar i ymuno â hwy i weld arddangosfa flodau gan Donald Morgan. Mwynhaodd yr aelodau eu hunain yno yng nghwmni eu gwesteion, aelodau Sefydliad y Merched Llanilar a Merched y Wawr Penrhyn-coch.
Yn ystod wythnos gyntaf mis Rhagfyr dathlodd yr aelodau'r Nadolig drwy gael cinio Nadolig yng ngwesty'r Hafod ym Mhontarfynach. Croesawyd yr aelodau a'n gŵr gwadd gan ein llywydd. Wedi mwynhau pryd blasus o fwyd a sgwrs ymhlith ein gilydd cyflwynwyd ein gŵr gwadd, sef Hywel Roberts, Bow Street, gan y llywydd. Cafwyd sgwrs ddifyr ganddo gan ganolbwyntio ar y defnydd o eiriau a 'r camddefnydd anfwriadol a wneir ohonynt ar adegau. Fel y gellir disgwyl fe'n diddanwyd gan nifer o storïau diddorol - rhai amdano ef ei hun, ac eraill am brofiadau ei deulu a'i gydnabod.
Diolchwyd iddo am noson ddiddorol gan Heulwen Lewis. Bu naw o'r aelodau'n lwcus i ennill gwobr raffl ar y noson.
Oherwydd y gwyliau cynhelir ein cyfarfod nesaf ar nos Fawrth, 8fed Ionawr.
|