Gan fod Dafydd ap Gwilym wedi ei eni ym Mro Gynin ger Penrhyn-coch mae'r ymgyrch o ddiddordeb mawr i ni ddarllenwyr y Tincer. Er mai Dafydd ap Gwilym yn ddiddadl yw bardd mwyaf Cymru prin iawn yw'r sylw a gaiff yng Nghymru, heblawgan bobl academaidd, disgyblion ysgol sy'n astudio at ei Safon A, a chan fyfyrwyr. Mis Mehefin diwethaf aeth Tedi Millward ati i alw cyfarfod cyhoeddus a chafodd cymdeithas ei chreu mewn ymdrech i fynd â'r maen i'r wal. Un arall o fro'r Tincer sydd wedi ymuno ag ef yn y gymdeithas yw Dr Huw Meirion Edwards o Lanfihangel Genau'r-glyn. Amcan y Gymdeithas Breuddwyd y gymdeithas yw sefydlu canolfan fodern yng Ngheredigion er mwyn cyflwyno Dafydd ap Gwilym i bobl Ceredigion a Chymru o bob oed ac yn wir ymwelwyr o bedwar ban byd. Pwrpas y ganolfan fydd dangos bod y bardd yn rhan eithriadol bwysig o ddiwylliant Cymru ac yn wir o ddiwylliant Ewrop yn gyffredinol. Y bwriad yw cynnwys arddangosfa yn darlunio bywyd a gwaith Dafydd a'i ardal, er mwyn rhoi cyfle i gymaint yn fwy o bobl gael gwybodaeth amdano. Yr hyn sy'n drist ar hyn o bryd yw bod myfyrwyr mewn prifysgolion ar draws y byd yn astudio gwaith Dafydd ap Gwilym, ond nad ydyn ni sy'n byw ar garreg ei ddrws yn gwybod fawr ddim amdano. Ond, bydd angen mwy nag arddangosfa i ddenu pobol yno. Y gobaith yw creu theatr yn cynnig cyfleusterau ffilm a fideo, er mwyn dod a'i waith yn fyw i bawb fydd yn ymweld â'r lle. Byddai'n bwysig hefyd creu llyfrgell yno, fel y gallai myfyrwyr a phobl gyffredin gael rhwydd hynt i ymchwilio i mewn i fywyd Dafydd a'i gyfnod. Byddai'n braf hefyd gallu defnyddio Canolfan o'r fath i gynnal amrywiaeth o weithgarwch fe! dosbarthiadau cynganeddu, dosbarthiadau dysgu Cymraeg, a lle i ddisgyblion ysgol a myfyrwyr y colegau gael darlithoedd ar waith y bardd. Mae'n fwriad hefyd cael nawdd i Ddarlith Flynyddol Dafydd ap Gwilym a chynnal y ddarlith yn y ganolfan. Ond, y gobaith yw y bydd y ganolfan yn fwy na lle i gyflwyno gwaith y bardd ac y bydd yn hwb i'r economi leol ac yn sbardun i greu gweithgaredd lleol. Wrth ddenu ymwelwyr i'r ardal yma bydd yn hwb gwerthfawr i dwristiaeth lleol ac felly yn fodd i gryfhau bywyd y gymuned leol ac economi'r sir. Y dasg sy'n wynebu'r Cymdeithas yw casglu cronfa digon sylweddol fel y gallant gynnig am nawdd ariannol gan wahanol sefydliadau. Mae'r ymgyrch i gasglu'r arian wedi cychwyn ac mae'n amlwg bod y stori wedi cerdded bellteroedd daear achos maen nhw wedi derbyn arian wedi derbyn cyfraniadau hael o £100 yr un, yn cynnwys un o Gonnecticut, Unol Daleithiau'r Amerig. Cawn ni fel darllenwyr y Tincer ddymuno pob llwyddiant iddynt yn eu hymgyrch. Cofiwch mai bardd serch a natur oedd Dafydd ap Gwilym a lle gwell i garu a gwerthfawrogi natur yn ei holi ogoniant nag yn hen gartref y bardd ym Mro Gynin. Byddai Bro Cynin hefyd yn gartref delfrydol i'r Canolfan. Alun Jones
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |