Clywn yn barhaus ar y teledu am
Gynhesu Byd Eang, a pha effaith
mae hyn yn ei gael ar wahanol
agweddau o'n byd.
Mae sefyllfa yr hinsawdd yn
newid mor gyfl ym meddai'r
gwyddonwyr, yn enwedig tua
Cape Churchill, ac na fydd yna
eirth gwyn o gwbl ymhen amser
yn Hudson Bay Canada.
Mae'r
m么r yn rhewi yn ddiweddarach
ac yn toddi yn gynt bob
blwyddyn. Yn Cape Churchill
mae'n debyg fod yr eirth yn aros
am rew ar y m么r, cyn mynd i
hela'r morloi am fwyd.
Maent
mewn perygl, a chyn hir yn 么l y
gwyddonwyr, oherwydd newid
hinsawdd bydd yr eirth gwyn yn
goroesi yn y gogledd yn unig, ar
ymyl yr arctig.
Un a fu ar saffari yn ddiweddar
yn Hudson Bay yw Ann
Vaughan, Gwarddol Pen-llwyn,
a gofynnwyd iddi beth oedd
ei phrofi ad hi wrth ymweld ar
yr eirth gwyn yn y rhanbarth
yma. Mae'n debyg fod y teithiau
hyn wedi bod yn cymryd lle o
ddechrau mis Hydref hyd canol
Tachwedd am ugain mlynedd
bellach,_ dim ond ychydig o
ddiwrnodau yn wahanol bob
blwyddyn.
Roedd arweinwyr y gr茫p
(sef perchnogion y lodge wedi
eu geni au magu yn Churchill
heb weld unrhyw wahaniaeth
yn nifer yr eirth hyd yn hyn, a
mwy na hynny roedd yr eirth
gwyn mewn cyfl wr bendigedig.
Tybed, felly, ai dyfalu y mae y
gwyddonwyr?
Gofynnwyd i Ann i roi braslun
o'r daith ddiddorol hon, ac ar
么l peth persw芒d arni, cafwyd y
ffeithiau hyn ganddi.
Ar 么l marwolaeth ei mam-gu
Rhiwarthen Isaf Pen-llwyn,
bu Ann a'i hewyrth yn gwylio
rhaglen deledu ar safari Eirth
Polar, a phenderfynu mynd eu
dau, ar y gwyliau yma fl wyddyn
ar 么l s锚l y fferm sef 2001.
Bu rhaid
gohirio y s锚l hyd 2002 oherwydd
y clwy traed a'r genau, ac erbyn
hynny roedd ei hewyrth Ossi
yn wael iawn gyda leukemia.
Dim meddwl mwy am y gwyliau
wedyn, am sawl blwyddyn, ond
erbyn Hydref 2007 penderfynu
archebu tocyn i fynd ar ben ei
hun yn 2008.
Cychwyn o Lundain ar 31/10/08
i Minneapolis, yna i Winnipeg
ac ymlaen i Churchill, a chwe
mil a hanner o fi lltiroedd a 36
awr yn ddiweddarach, cyrraedd
y lodge am 11.30 ar 1/11/08. (6 awr
o wahaniaeth yn ein hamser ni)
Roedd y siwrne yn drafferthus,
a llawer o wastraff amser yn
y maesydd awyr - teithio ar 4
gwahanol awyren, y fwyaf yn
Jumbo 747 a'r lleiaf 芒 chwech o
sedd
.
Cafwyd awr i ddadbacio a
gorffwys cyn cinio, ac wedyn
allan ar trek o 2.00 hyd 5.00, cyn
dod yn 么l am swper blasus o
茫ydd yr eira wedi rhostio, ond
wedi blino gormod bron i fwyta.
Aethpwyd i'r gwely yn gynnar
am 8.30, awr ychwanegol am fod
yr awr wedi troi (wythnos ar 么l
Prydain) Deffro bore drannoeth
am 7.00 yn teimlo wedi dadfl ino
yn llwyr, ar 么l cysgu bron rownd
y cloc.
Cawsant, meddai Ann, ddau
trek bob dydd, un yn y bore, n么l
i ginio ac allan eto nes ei bod
yn dechrau tywyllu. Roedd yn
rhaid bod n么l cyn nos oherwydd
byddai yn rhy beryglus yn y
tywyllwch. Roedd yna bob amser
ddau arweinydd/gwarchodwr efo
gr茫p o ddeuddeg ar y mwyaf.
Nid oedd pawb yn mynd allan
ar bob trek ond nid oedd Ann
am golli yr un wedi dod yr holl
ffordd.
Byddai'r arweinwyr yn
cario gwahanol bethau rhag ofn
unrhyw drwbwl gyda'r eirth, sef
cerrig i dafl u atynt, llawddrylliau
yn gwneud s茫n fel t芒n gwyllt, a
reiffl os oedd raid.
Roedd bloedd
neu peli eira yn ddigonol rhan
fwyaf o'r amser, ond defnyddiwyd
y fi re cracker un waith yn unig.
Hyfrydwch pur oedd gweld yr
anifeiliaid gwyllt yn eu cynefi n
naturiol eu hunain, a hynny
ond tair neu bedair llathen oddi
wrthynt.
Gwelsant, yn ychwanegol i'r
eirth, llwynog a'r sgwarnog arctig,
y caribw, bistach mwsg, bleiddiaid,
wolverine, y carlwm, lemings,
adar fel y dylluan eira a'r grugiar.
Roedd y gwyddau eira a'r m么r
wennol y gogledd wedi ymfudo
cyn iddynt gyrraedd.
Roedd cogydd arbennig yn
y lodge yn coginio y cyfan yn
ffres bob dydd - bara, waffl es,
cacennau ac hefyd cig lleol fel
yr 脨ydd eira, caribw a bustach
mwsg. Roedd y siop agosaf siwrne
awr mewn awyren fechan, felly
roedd y cyfl enwad bwyd yn
dod gyda phob parti unwaith yr
wythnos.
Ar y diwrnod olaf cyn dod
adre, roeddent i fod i gael un
diwrnod yn Churchill ei hun (y
dref/ pentref agosaf, tua maint
Aberaeron neu Machynlleth.) lle
roedd carchar yr eirth, amgueddfa,
a siopau wrth gwrs. Ond oherwydd
whiteout blizzard fel y gelwir,
roedd yn amhosib symud o'r fan
- felly diwrnod ychwanegol yn y
lodge - neb yn cwyno!
Bore drannoeth, roedd yn
well, ond yn dal yn eira trwm,
ond gallasent fynd ar yr awyren
fach tua canol y prynhawn, i
ddechrau'r siwrnau hir adref.
Un siom a gafodd Ann,
oherwydd bwrw eira bob n么s, ni
chafwyd y cyfl e i weld goleuni'r
gogledd, yr aurora borealis.
Byddai hynny meddai, wedi
coroni'r cwbsl yn hyfryd iawn.
Yn sicr roedd y cyfan yn gyfl e
gwych ac yn brofi ad anhygoel.
Diolch Ann, am fod yn ein
"Iolo Williams" am y mis!