Diolch yn fawr am y
gwahoddiad i ysgrifennu
colofn.
Pan ges e-bost yn
gofyn i mi wneud, yr
ymateb cyntaf wrth reswm
oedd 'am beth?'
/p>
Fu erioed
gen i farn am fawr o ddim
erioed, pam gofyn i fi?
A ches ateb yn ôl yn
syth yn awgrymu y gallwn, ar gyfer
rhifyn mis Mai, sôn am y profiad, gwta wyth
mlynedd ar hugain yn ôl, o ennill cadair Steddfod
yr Urdd.
Diolch am hynna, meddyliais, a dechrau chwysu
eto wrth ail-fyw'r wythnosau o artaith cyn yr
Eisteddfod ym Mhwllheli, yn ceisio meddwl am
ffyrdd o osgoi codi ar fy nhraed o flaen llond
pafiliwn o lygaid, a cherdded at lwyfan digon
mawr i ychwanegu agoraffobia at y nerfusrwydd
llethol oedd yn fy mwyta'n fyw.
Yn fy stafell wely, i gyfeiliant y Stranglers a
Geraint Jarman, ceisiais feddwl am ffordd o ddod
mas o fynd i Bwllheli. (Neu, o fethu â gwneud
hynny, ffordd o roi stop ar y 'Steddfod).
Yn gyntaf, ceisiais fagu gyts i esgus bach 'mod
i'n sâl ond galwai hynny am ddawn actio y tu
hwnt i 'ngallu.
Syniad arall oedd ffoi. Gallwn sleifio
ar y Pâb-fobîl a chael fy smyglo allan o'r wlad
dan hem ffrog John Paul a fyddai'n ymweld â
Chaerdydd rai dyddiau cyn y Steddfod.
Neu fodio
lifft ar un o'r llongau cario awyrennau i'r Malfinas,
lle roedd Thatcher yn cael twtsh o dantrym ar ôl i
ryw hen gythrel bach gipio rhywbeth nad oedd hi
hyd yn oed yn cofio'i fod e 'da hi tan ar ôl iddo fe
gael ei ddwgyd.
Daeth yr ateb fel fflach wrth glywed stori
newyddion am dy haf arall yn wenfflam dan law
Meibion Glyndãr - bom o dan y pafiliwn! Dim
pafiliwn, dim cadeirio - dim problem!
Nawrte,
'doedd fy sgiliau gwneud bomiau ddim yn wych
yn y dyddiau hynny, ond tybiwn y gwnâi matsien
y tro. Gallai ddigwydd yn y nos fel na fyddai neb
yn cael dolur - jawch, o'n i'n aelod o CND wedi'r
cyfan.
A fyddai hi ddim y tro cyntaf i rywun
gynnau tân ym Mhenyberth...
Fel digwyddodd hi, wnes i ddim dal clefyd y
llengfilwyr, welais i 'mo ddillad isaf y pontiff,
a ches fy arbed rhag trip i'r Malfinas lle roedd
bechgyn dwy wlad yn gwaedu i farwolaeth
yn enw diawl o ddim byd.
Ac ni fu ail dân ym
Mhenyberth.
Y gwir amdani oedd 'mod i'n ormod o gachgi i
gachu mas o fynd i Bwllheli.
A'r holl ryfeloedd wedyn dan law arweinwyr
sy'n llofruddion yn enw crefydd a phwer ledled y
byd, mae cadair Pwllheli'n fy wynebu wrth i mi
godi bob bore, ei hestyll ddim cweit yn ddigon
cyfan bellach i fi osod fy nghorpws tinfawr arni.
Glania fy llygaid arni a chlywaf alwad y corn
gwlad eto'n merwino fy nghlust, gan ailgynnau
nyrfs Pwllheli.
(Pam ddiawl nest ti drio 'te? clywaf leisiau'n holi,
a does gen i ddim ateb.)
Wela i chi yn Llanerchaeron dros wydraid bach
o win.