'Os wyt am fynd i'r toiled
bydd rhaid i ti ofyn yn
Gymraeg" - geiriau Miss
Sian yn atseinio'n glir yn
fy nghlust hyd at heddiw.
Dwi'n cofio'r un frawddeg
yn cael ei dweud wrthyf
yn Ffrangeg flynyddoedd
yn hwyrach - doeddwn
i ddim mewn sefyllfa well
yn 14 oed nag oeddwn yn
5 mlwydd oed yn orffwyll
am y toiled a dim syniad
sut i ofyn yn yr ieithoedd
dieithr yma.
Mae'r ffaith fy mod
yn medru cofio'r linell
Gymraeg, ond nid yr
un Ffrangeg (esq que...
esq que rhywbeth) yn
adlewyrchu'r ffaith fod
yr iaith Gymraeg wedi
aros gyda fi o'r diwrnod
symudais i Aberystwyth
a chychwyn yn Ysgol
Rhydypennau er mwyn
dysgu Cymraeg.
Ar ôl cyrraedd oedran
lle oedd yn dderbyniol
i mi fynd i'r toiled, a
neud tipyn o bethau
eraill, heb ganiatâd
symudais i Gaerdydd i
gychwyn swydd llawn
amser gyda Opera
Cenedlaethol Cymru
ychydig dros 18 mis yn ôl.
Mae Caerdydd yn "home
from home" i mi. Ar
wahân i'r holl wynebau
cyfarwydd ymhlith y
bobl sydd wedi symud
yma i fyw neu wedi
dod i wneud diwrnod
o siopa, rwy'n cael fy
nharo'n ddyddiol gyda
chymaint o frwdfrydedd
a chefnogaeth sydd
am yr iaith yma yng
Nghaerdydd, weithiau
mwy hyd yn oed na pan
oeddwn dal i fyw ym
Mhenrhyn-coch.
Dwi'n gweithio ym
Mae Caerdydd ac mae'r
iaith Gymraeg i'w gweld
ymhobman - o'r arysgrif
"Creu Gwir Fel Gwydr O
Ffwrnais Awen" ar flaen
Canolfan Mileniwm
Cymru, i'r "Twll yn y
wal" tu allan i NatWest.
Ychydig wythnosau yn
ôl buais i wylio fy ngêm
rygbi cyntaf yn Stadiwm
Mileniwm Cymru a
chefais fy synnu'n llwyr
(mewn ffordd dda!) gan
sawl un o'r 77,000 oedd
yn medru canu'r anthem
Gymraeg gyda'r un
egni a chystadleuwyr yn
yr Eisteddfod.
Fi yw'r
unig berson sydd yn
medru siarad Cymraeg
yn rhugl ymhlith staff
swyddfeydd Opera
Cenedlaethol Cymru
- mae hynny'n beth
rhyfeddol i mi, i gychwyn
fel yr unig berson nad
oedd yn siarad Cymraeg
20 mlynedd yn ôl.
Wedi
dweud hynny, efallai
synnwch chi i glywed
fod sawl person yn y
cwmni yn cymryd gwersi
Cymraeg amser cinio, ac
o leiaf hanner o'r bobl
yna yn dod o Loegr.
Mae
yna frwdrydedd am yr
iaith yma hyd yn oed
i'r rhai nad sy'n dod o
Gymru!
Mae'r iaith wedi bod
o fantais i mi mewn sawl
ffordd ... mae'n braf peidio
gwisgo offer cyfieithu er
mwyn deall siaradwyr
mewn cynadleddau;
mae'n hwyl i ddefnyddio'r
iaith fel cod ddirgel (sut
bynnag, y tro diwethaf
i mi wneud gyda fy
chwaer yn Efrog Newydd
roedd y teulu tu ôl i ni
yn y ciw hefyd yn siarad
Cymraeg felly dyw e ddim
wastad yn gweithio); ac
mae'n ddifyr i dderbyn
pob neges ar yr heolydd
ddwywaith!
Mae'r gwersi Cymraeg
yn parhau braidd - dwi'n
cael fy mhrofi nawr
ac yn y man pan fydd
cydweithwyr yn gofyn
i mi gyfieithu pethau
iddynt yn amrywio o
neges mewn cerdyn i
negus destun ar ffôn
symudol.
Weithiau dwi'n
cael trafferth gyda'r
pethau mwyaf syml
- mae'n anghredadwy
cymaint o eiriau sydd yn
dal gen i i'w ddysgu ...