91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Tincer
William ac Alfred Edwards , y ddau frawd Canmlwyddiant William Llewelyn Edwards
Tachwedd 2008
Gaenor Hall yn cofio un o brif gerddorion yr ardal, sef W. Llewelyn Edwards (1908-2000)

"Eleni 'roedd Capel y Garn yn dathlu Canmlwyddiant geni un o'i phrif gerddorion, sef W. Llewelyn Edwards (1908-2000) mewn cymanfa fer.

Fe'i ganwyd ar 18 Tachwedd 1908. Darlledwyd y gymanfa dan arweiniad Alan Wynne Jones, ysgrifennydd y Garn, yn y gyfres Caniadaeth y Cysegr brynhawn Sul 16 Tachwedd i'w hail ddarlledu yn gynnar - 5.29 - fore Sul 23 Tachwedd.

Dau frawd oedd yn ffermio Ruel Uchaf, William Llewelyn ac Alfred, y ddau yn gerddorol ac yn gaffaeliad mawr i'r capel hwn.

Gydag Alfred oedd y llais. Ef oedd y codwr canu, a phan oedd yn iau byddai'n canu unawdau a deuawdau yn 'steddfodau'r fro.

Mae llawer yn ei gofi o yn canu yn 'Steddfod y Tylwythau yn yr ardal hon, a dod i'w 'nabod yn go dda yn yr ymarferion at hynny.

Ond William Llewelyn oedd yr hynaf. Fe oedd yr Organydd, Athro Sol-ffa plant y capel, arweinydd yr Ysgol Gân ac wrth gwrs cyfansoddwr yr emyndonau sydd gyda ni yn y dathliad hwn, a llawer o rai eraill.

Mi fyddai'n paratoi'r plant ar gyfer arholiadau'r coleg Tonic Sol-ffa, ac mae cenedlaethau o blant y capel yma wedi ennill tystysgrifau o'r coleg hynny ac yn cofi o John James Hughes yn dod lawr ar y bws o Dal-y-bont i'w harholi nhw.

Ni fuasai arholwr o Lundain wedi cael mwy o barch! Dechrau gyda'r rhai iau, - rhedeg drwy'r "Modulator" fel chwarae - sain y glust, a phrofi on eraill heb drafferth, a thra byddai'r plant bach wrthi, mi fyddai pawb arall allan o'r ffordd neu yng nghyntedd y capel yn rebelio ac yn cael hwyl fawr yn chwarae pêl, achos 'doedd neb i gadw trefn arnyn' nhw fan 'ny, a fawr ddim ceir ar y ffordd. Ac fel 'ny drwy'r Junior, Elementary ac Intermediate. Neb yn ffaelu - Llwyddo! a phawb wedi meistroli sgil a fyddai gyda nhw am oes drwy hyfforddiant drylwyr.

Yna, - dechrau ar ddarllen cerdd drwy'r H.N. h.y. y Dual Notation fel y'i gelwid. Roedd bwrdd du a sialc yn angenrheidiol i hyn. (Ble mae hwnnw wedi mynd erbyn heddi?) Roedd yn fodern iawn bryd hynny, ar olwynion, er hwylustod.

Heddiw... welwch chi ddim un yn yr ysgolion Mae hyd yn oed y byrddau gwyn a'r pensilau marcio wedi mynd. - Rhyw fyrddau rhyngweithiol electronig sydd heddiw os am fod up-to-date!

Bob nos Sul yn y gaeaf byddai Wm. Llewelyn yn cynnal Ysgol Gân wedi'r oedfa i baratoi oedolion ar gyfer y gymanfa. Bryd hynny byddai Salm ac Anthem swmpus yn cael ei chanu, a'r gynulleidfa gyfan yn canu'r rheiny yn y gwasanaeth ar y Sul. Diwrnod pwysig iawn, i baratoi erbyn y gymanfa.

Faint ohonoch chi a wyr mai Elgar oedd hoff gyfansoddwr Wm. Ll. Edwards? Roedd hyn yn dipyn o ryfeddod a syndod ... gan fod Elgar yn gyfansoddwr mor Seisnig.

Wnaeth e' ddim ymhelaethu ar hyn, ond cofiwn! roedd Elgar yn organydd yng Nghaerwrangon, yn gorfeistr i'r Tair Gadeirlan (3 Choirs Festival) ac yn gyfansoddwr amlwg yn ei amser.

Byddai Wm. Llewelyn yn cael gwahoddiad i arwain cymanfaoedd yma a thraw, ac o hyn fe welwch fod ei fywyd yn un prysur iawn.

Dyma olynydd teilwng i J. T. Rees, ac wrth gwrs fe gafodd wersi ganddo. Cyfansoddi emyn-donau oedd ei ddileit.

Daeth sawl anrhydedd i'w ran tra bu byw. Roedd yn gymrawd o Goleg y Tonic Sol-ffa, Coleg Cerdd Victoria yn Llundain a hefyd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.

Urddwyd ef â'r wisg wen fel Derwydd gan yr Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman a bu'n Olygydd Cerdd Trysorfa'r Plant ac wedi hynny Cylchgrawn Antur am fl ynyddoedd lawer. Mae gyda ni ddau gasgliad o'i emyn-donau sef Clychau'r Maes a gyhoeddwyd yn 1976 a Caniadau'r Meysydd yn 1994.

Cofi af pan yn ymweld ag ef yn ei ddyddiau olaf, iddo ddweud ei fod yn falch iawn o fod wedi cael saith o donau i Caneuon Ffydd! Gobeithio byddwn ni'n canu mwy ohonynt o hyn ymlaen. Fe welwch un yn y Detholiad eleni (2008-9).

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Dwyfor ym 1975 fe enillodd y gystadleuaeth ar gyfansoddi emyn-dôn ar eiriau y Parchg R. Gwilym Hughes gydag Arwel Hughes yn beirniadu, a dyma ddwêd ef ar ei feirniadaeth... (Cyfansoddiadau t. 173)

"Dyma i chi dôn sy'n rhedeg yn naturiol fel dãr yr afon, ac mae'r cyfan yn datblygu i uchafbwynt yn y diwedd heb ail adrodd un cymal." Dwy yn unig o 24 oedd yn y dosbarth cyntaf.

> Galwodd y dôn yn Bro Dwyfor ac fe'i gwelwch hi yn Clychau'r Maes. Ithon oedd ei ffug-enw.

Un sy'n gyfarwydd iawn a chanu tonau Wm. Llewelyn yw Mariane Jones-Powell. Diolchwn iddi am ganu'r dôn fuddugol yn Gymanfa.

Enillodd drachefn ar gyfansoddi emyn-dôn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe ym 1982, gydag Arwel Hughes eto yn beirniadu. Yn anffodus nid oes copi gen i o'r dôn hon, ond credaf fod y feirniadaeth yn rhoi crynodeb go lew o'i allu fel cyfansoddwr.

Mae'n ei ddisgrifio fel "crefftwr gofalus" Cyfansoddiadau t.169.

Bu deugain yn cystadlu y tro yma, a dim ond dau eto yn y dosbarth cyntaf! Mae ganddo dôn o'r enw Bro'r Ithon hefyd i'w gweld yn Adran yr Ifanc o'r un llyfr. Clywsom Rhun a Gwern Penri, y ddau frawd o Daigwynion yn canu addasiad deulais o hon."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý