Roedd y dyn tywydd wedi proffwydo'n gywir y byddai dydd Mawrth, 7 Mehefin yn ddiwrnod braf o haf. Mawr fu'r dyfalu ble fyddem yn mynd ar ein trip blynyddol. Gan mai John Hughes, Dolau, ein llywydd, oedd yn trefnu, credai amryw mai i'r gogledd y byddem yn mynd, ond sir enedigol ei wraig, Beryl, oedd ei ddewis y tro hwn. Crwydro wnaethom ym mwynder Maldwyn gan ddysgu llawer am ei diwydiant a'i diwylliant. Wrth adael Machynlleth aethom fyny am Dylife ac aros wrth gofeb Wynford Vaughan Thomas. O'r man yma gellir gweld yr Wyddfa ar ddiwrnod clir. Lle digon anial ac unig yw'r Dylife heddiw ac anodd credu i gannoedd fod yn byw yma pan oedd y gwaith mwyn yn ei anterth. Yn y cyfnod yma roedd tri chapel ac eglwys a phedair tafarn yma. Ymlaen wedyn heibio i lyn Clywedog ac i Lanidloes, tref a welodd lawer o gynnwrf yn ystod cyfnod y Siartwyr. Teithio drwy Landinam ac aros wrth gofeb yr Arglwydd David Davies. Cyfrannodd y gŵr yma lawer i hybu diwydiant yng Nghymru. Ef a gynlluniodd ddociau'r Barri ac ef a ddaeth â'r rheilffordd i'r ardal. Un o'i orchestion oedd dod â'r rheilffordd lawr i Fachynlleth drwy dorri hafn Talerddig. Hwn oedd y 'cutting' rheilffordd dyfnaf yn y byd ar y pryd. Roedd hi'n ddiwrnod marchnad yn y Drenewydd a stondinau ar y strydoedd. Mae prynu nwyddau drwy gatalog yn beth cyffredin heddiw, ond yma yn siop Pryce Jones y cychwynwyd yr arferiad yma. Dyma'r dref lle cofir am gyfraniad Robert Owen, sylfaenydd y mudiad cydweithredol. Wedi cinio aethom am Ddolanog a chael cyfle i weld y capel yno a chofio am Ann Griffiths a'i hemynau. Trefnwyd i ni gael mynd i Ddolwar Fach, cartref Ann, ac yno fe gawsom groeso gan Mrs Jones, y perchennog presennol, a'n gwahodd i'r tŷ. Diwedd ein taith oedd Plas Gregynog. Roedd digon o amser gennym i grwydro'r gerddi yn hamddenol a mawrygu at liwiau'r llwyni rhododendrons. Cawsom hefyd ein tywys o amgylch rhai o ystafelloedd y Plas. Dwy chwaer, sef teulu'r Arglwydd David Davies, oedd yn byw yma a hwy a gyflwynodd y plas i Brifysgol Cymru. Heddiw cynhelir cyrsiau a chynadleddau yma. Mae naws arbennig i r lle ac yno yn ystafell Blaenau (Blayney), yng nghanol ei mawredd, y cawsom eistedd i swper. Diwrnod arbennig. Diolch i John a Beryl am eu holl waith yn trefnu, a diolch i Rhys am ei amynedd a'i ddawn yn llywio'r bys ar hyd lonydd cul a throellog y daith.
|