"Ymunais a staff Bridfa Planhigion Cymru Fis Tachwedd 1955. Ar yr adeg yma roedd y - Sefydliad yn cael ei reoli gan Gyngor y Coleg, ac wedi newydd symud i Gogerddan o Benglais, o dan gyfarwvddvd yr Athro E.T.Jones. Roedd y Fridfa ar gychwyn ar adeg cyffrous o ddatblygiad gyda phenodiad staff newydd a rhaglen ehangach o waith.
Dechreuais weithio yn yr Adran Bridio Ydau; gyda'r Dr. D.J.Griffiths yn bennaeth cefnogol iawn.
Yr uchelgais oedd bridio mathau newydd o yd a chnydau tir ac i gwrdd ag angen y diwydiant ffermio vn y blynyddoedd wedi'r Ail Ryfel Byd, gyda'r pwyslais ar gynhyrchu mwy o fwyd.
Ceirch oedd yn cael y sylw mwyaf arbennig yr amser hyn. Roedd angen mathau newydd, gyda mwy o rawn da a gwellt cryfach, a allai gadw'r cnwd i sefyll ar ei draed pan yn tyfu ar dir oedd yn cael mwy a mwy o wrtaith gan ffermwyr. Fel canlyniad o ddefnyddio mwy o wrtaith roedd clefydau a.a. yn cynyddu.
Felly, roedd pwysigrwydd cynyddol yn cael ei roi ar wrthsafiad i glefydau a phla. Roedd yn golygu llawer o ymchwil a chael gafael am y genynau fyddai medru eu gwrthsefyll.
Cafwyd y genynau yma o ffynnonellau led-led byd, ac hefyd gyda aelodau o'r staff yn casglu mathau cynhenid o'r rhywogaeth gwyllt o gaeau ffermwyr yn Adran Môr y Canoldir a'r Dwyrain Canol.
Apwyntiwyd yr Athro PT.Thomas yn gyfarwyddwr yn gynnar ym 1959. Cynyddodd y gwaith yn yr adran Bridio Ydau, fel yn adrannau eraill o'r Fridfa vn y 60 a'r 70 degau, gan olygu adeiladu labordai newydd, a datblygiad eang mewn tai gwydr soffistigedig, ac mewn tir ar gyfer arbrofi.
Fel âi'r amser ymlaen, roedd polisi'r Llywodraeth yn rhoi pwyslais ar ymchwil mwy sylfaenol, ac fe drosglwyddwyd peth o'r gwaith o ddosbarthu mathau newydd o rai o'r cropiau i'r Sector Breifat.
Yn ystod yr adeg yma gwelwyd cynnydd yn nifer y staff, yn aml o'r tu allan i Gymru, and yn buan y daeth y rhan fwyaf ohonynt i doddi i mewn yn llwyddiannus i'r gymdeithas leol. Agwedd boddhaol arall oedd y cyfle i gyflogi pobl ifanc lleol wrth adael yr Ysgol, oedd yn eu galluogi i gael profiad yng ngwaith y Fridfa, tra'n mynychu dosbarthiadau yng Ngholeg Addysg Pellach, ac ennill tystysgrifau.
Roedd rhain yn ogystal â staff y fferm wedi rhoi cefnogaeth hanfodol i waith y Fridfa dros y blynyddoedd.
Roedd y Fridfa yn denu myfyrwyr ac Ymchwilwyr profiadol o'r wlad hon a thramor, a thrwy hynny sicrhau bod Aberystwyth yn enwog fel Canolfan Ymchwil Byd-eang.
Yn ystod y 50 a 60 degau roedd llawer o'r staff yn ifanc, sengl neu newydd briodi, ac yn creu cvmdeithas fywiog, gvda naws deuluol hapus. Ffurfiwyd timau Hoci Tennis a Chriced, ac roedd y partïon Nadolig yng Ngwesty'r Hafod, a'r Ŵyl Haf flynyddol ar lawnt y Plas yn chwedlonol.
Wrth edrych yn ôl rwy' n sylweddoli fy mod wedi mwynhau amser hapus a boddhaol yn fy ngyrfa yn y Fridfa , ac o gael y cyfle eto, ni fyddwn wedi dewis dim arall."