Dyma'r pumed gwaith i'r wyl ddod i'r dref. Gwyl lwyddiannus arall oedd y farn gyffredinol ymhlith yr holl gefnogwyr selog a chafwyd canmoliaeth uchel i'r safle fel lle delfrydol ac i hynawsedd y stiwardiaid. Yr uchafbwynt yn ddiddadl oedd cystadleuaeth y corau cerdd Dant a oedd yn cloi'r wyl. Tynnodd y sylwebyddion ar y teledu sylw at y ffaith bod Aberystwyth yn llwyddo dro ar ôl tro i osod darnau heriol sy'n sbarduno'r gosodwyr a'r perfformwyr. Gallwn ni fel ardal ymhyfrydu mai darn o waith Dr Rhiannon Ifans Penrhyn-coch a roddodd wefr i'r gynulleidfa eleni. Defnyddiodd Cantre'r Gwaelod fel thema i'r darn o ryddiaith a chlywyd geiriau Cân Gwyddno'n atseinio o gwmpas y Neuadd Fawr: "Mae'r tonnau dros ein pennau! Ffowch i'r mynydd!' 'Rhy hwyr! 'Dal fi! Tyn fl!' Seithenyn! Y rhuglyn meddw!' Ochenaid Gwyddno Garanhir Pan droes y don dros ei dir: 'Rhagluniaeth drom! Colli cyffyrddiad tir a theulu'... Ond ar gyda'r nos dawel braf, mi welwch chi'r môr yn llonydd, ... ac os sefwch chi'n llonydd, llonydd, efallai y clowch chi glychau'n canu dan y dwr." Côr Pantycelyn oedd yn fuddugol a braf gweld bod rhai myfyrwyr o fro'r Tincer yn aelodau o'r côr sy'n cynnwys rhyw gant o leisiau. Roedd yn hyfryd gweld bod côr lleol arall, sef Côr ABC, o dan arweinyddiaeth Angharad Fychan wedi mentro i fyd cerdd dant ac wedi rhoi cyflwyniad canmoladwy iawn. Roedd nifer o aelodau bro'r Tincer yng nghôr ABC ac yng nghôr Cantre'r Gwaelod a fu'n cystadlu. Mae'r wyl Gerdd Dant yn amlwg yn hybu gweithgaredd lleol ac roedd hi'n hyfryd gweld parti o Ysgol Penrhyn-coch ar y lwyfan ddwywaith gan ennill y drydedd wobr am y Grwp Llefaru a'r Parti Alawon Gwerin, Oedran Cynradd. Cafodd Gregory Vearey-Roberts o Fryncastell wyl brysur a llwyddiannus iawn hefyd. Llwyddodd i ennill y wobr gyntaf ar yr Unawd Cerdd Dant o dan 21 oed a'r ail wobr gydag Iwan Griffiths o Ben-parc, Aberteifi, ar y ddeuawd Cerdd Dant. Roedd hefyd yn arwain Parti Gwerin Merched Aelwyd Pantycelyn. Roedd yr wyl yn wyl arbennig i rai o drigolion Blaenddôl, Bow Street gan mai yno mae Eddie a Bethan Jones yn ogystal a'u cymydog Alan Wynne Jones yn byw. Cafodd y tri eu hanrhydeddu am eu cyfraniad i fyd cerdd ac i ddawnsio gwerin drwy gael eu dewis i fod yn Llywyddion Anrhydeddus yr wyl. Ar ran darllenwyr Y Tincer hoffem longyfarch yn fawr y tri. Braint cael llongyfarch Eddie yn ogystal am ennill y wobr gyntaf ac ail wobr am greu dawns Gymreig ei naws 'Hwyr ddawns Aberystwyth'. Braf oedd gweld Caryl Ebenezer Thomas wedi dychwelyd yn ôl i'nplith, nid i gystadlu y tro hwn, ond i feirniadu. Tybed beth oedd ei thad yn meddwl o feirniadaeth y Côr Alawon Gwerin?
|