91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91热爆 91热爆page
91热爆 Cymru
91热爆 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91热爆 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Tincer
Ysgol Rhydypennau Ysgol Rhydypennau
Chwefror 2009
W J Edwards sy'n adrodd hanes ail brifathro Ysgol Rhydypennau - John Evans (1858-1933).

"Wrth resynu fod yr adeilad hardd a godwyd ym 1876 gan Thomas Jones y Dolau a'i grefftwyr da yn wag a'i ffenestri wedi'u byrddio (oni ddylid fod wedi mynd ati i'w ddiogelu?), mae'n dda cael manylu ar hanes John Evans(1858-1933) o Lanbryn-mair, yr ail brifathro (1879-1892) ,y bu cryn ganmol ar ei wasanaeth i'r ysgol a'r gymuned.

Ddwy fl ynedd yn 么l cyhoeddodd fy nghyfaill Ieuan Davies (ei wreiddiau yn y Borth), un o weinidogion amlwg yr Annibynwyr ei hunangofi ant diddorol, Trwy Lygaid Tymblwr - A Gweinidog! sy'n cynnwys dau lun o John Evans a oedd yn frawd i'w hen nain. Yn y llun cyntaf fe'i gwelir yn fachgen yng nghwmni'i chwiorydd Ann a Mary a Hannah y fam,a faged yn Nhrefeglwys, yn eu cartref yn Nh脨'n-Dd么l, Llanbryn-mair, nid nepell o Hafod y Foel a Foel Fach lle trigai fy hynafi aid i ddwy ganrif a hanner yn 么l.

Tynnwyd yr ail lun fl ynyddoedd yn ddiweddarach ac odano ceir y llythrennau, M.A; F.L.S; H.M.I.; ac Y.H.. Yn ei ymyl y mae llun o ferch hynaf John Evans a'i wraig; Elizabeth a aned yn Wandsworth, Surrey, Frances Juan a anwyd ym Mhen-y-garn ym 1881.

Hi oedd Prifathrawes gyntaf Ysgol y Merched, Cyfarthfa (Ysgoly Castell), Merthyr Tudful, a phriododd yr Athro Atkinson-Lee. Ymhen dwy fl ynedd ganed chwaer iddi, Bessie a fu farw cyn cyrraedd wyth oed yn 么l ei charreg fedd, yr un agosaf at fedd fy nghyfaill Deulwyn Morgan ym Mynwent y Garn.

Un o ddisgyblion John Evans yn Ysgol Rhydypennau oedd yr Athro William Jenkyn Jones (1867-1934), un o blant Thomas Jones y Dolau ac Ellen ei wraig, g脨r amlwg yng Ngholeg Aberystwyth lle bu'n Athro Athroniaeth am gyfnod hir.

Yn ddiweddar cyflwynodd Ieuan gopi imi o deyrnged yr Athro i John Evans adeg ei farw yng Ngorffennaf 1933, a dyma ambell sylw ohoni: 'Dyn anghyffredin oedd ef, a meddai ar alluoedd a chymeriad a barai ei barchu a'i hoffi ym mhob cylch y troai ynddo. Wedi iddo ennill y lle blaenaf yng Ngholeg y Normal Bangor, apwyntiwyd ef pan oedd tuag un ar hugain oed yn Brifathro arnom. Llafuriodd yma am dair blynedd ar ddeg gan adael ei 么l ar y plant a phobl ieuanc yr ardal.

Heblaw dysgu pynciau arferol ysgol yn y dydd, cynhaliai ddosbarthiadau mewn gwyddoniaeth yn yr hwyr, dan nawdd Adran Gwyddoniaeth a Chelfyddyd South Kensington...Y syniad a roddai inni am lwyddiant oedd diwyllio'r meddwl 芒 gwasanaeth.

Ymdrafferthai i greu ynom gariad at bethau cain a phrydferth, a gwn芒i hyn yn ffordd Plato, trwy beri fod esiamplau o'r pethau hyn ger ein bron yn feunyddiol - darluniau, blodau, planhigion ac ati.

Ffurfiodd amgueddfa fechan yn yr ysgol fl ynyddoedd cyn bod hynny'n arferol...Yr oedd yn dra uchelgeisiol, ac yn enghraifft nodedig o ddyn wedi ei feddiannu gan 'ddwyfol anesmwythyd' Ceir cofnod yn y Llyfr Log am 18 Gorffennaf,1883, gan John Evans yn dweud iddo gyfl wyno 90 o'i lyfrau i'r ysgol i greu math ar lyfrgell fenthyg.

'Cyfl awnodd ei holl swyddi - ysgolfeistr, arholwr ysgolion, blaenor eglwys - yn drwyadl, yn onest ac yn ddisglair. Mewn un peth yr oedd yn esiampl wych i fl aenoriaid drwy ddal mai dyletswydd pennaf blaenor oedd cynnal dwylo'r gweinidog'.Mae mab y Dolau yn cyfeirio at eirda Dewi Morgan i'w hen athro yn y llyfryn a gyhoeddwyd ym 1933 i ddathlu canmlwydd y Garn: 'Bu'n arolygwr yr Ysgol Sul, a chredwn mai ef oedd y cyntaf i gynnal Cymdeithas Lenyddol (mae'n parhau hyd heddiw) yma. Caniadau Islwyn, ac Oriau'r Hwyr, Ceiriog oedd y llyfrau a ddarllenid'.

Dyfynnir sylwadau eraill yn y cofi ant rhagorol a luniodd un o blant disglair y Garn, Nerys Ann Jones i Dewi Morgan ym 1987: 'Mewn cyfarfod lleol a gynhaliwyd i'w anrhydeddu ar ei fuddugoliaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1925 (ennill y gadair am ei awdl 'Cantre'r Gwaelod'), dywedodd Dewi mai'r ddau ddylanwad mawr ar ei fywyd oedd John Evans a T. Gwynn Jones.

Yn 么l Dewi ef oedd yr athro ysgol gorau yn y wlad. Dywedwyd amdano yn y Cambrian News, 'A man of splendid energy and unquestionable tact, he taught the children in their native tongue and thus brought them up'. Roedd hyn yn eithriadol mewn cyfnod pryd y gwgid ar yr arfer o ddefnyddio'r Gymraeg mewn ysgolion ....

Yn y cyfarfod llongyfarch ym 1925 soniodd John Evans sut y cadwai lygad ar Ddewi ar 么l oriau ysgol gan nad oedd Garn House (ei gartref) nepell o'r ysgol, 'Plentyn tawel ydoedd a digyffro. Yr oedd yn feddylgar a ddim yn siaradwr mawr. Darllenai lawer.

Meddai ar allu pur arbennig i ddisgrifi o ac yr oedd yn hoff o bethau cain'.Un arall o ddisgyblion disglair John Evans oedd J.J.Williams,Taigwynion, llenor a bardd a enillodd ddwy gadair Genedlaethol, Archdderwydd a gweinidog eglwys fwyaf yr Annibynwyr yn y Tabernacl, Treforys, yr eglwys y bu Ieuan Davies yn weinidog arni cyn ymddeol.

Roedd J.J. yn ddeg oed pan ddaeth John Evans i'r ysgol a bu yno am bedair blynedd cyn symud gyda'i deulu i Benrhiw-ceibr.

'Yr oedd elfen gyfrin gref yn ei natur', meddai Jenkyn Jones yn ei deyrnged, 'a pharai hyn fod addoli yn beth hawdd iddo er na chymerai ran yn yr oedfaon'. 'Nid wyf wedi arfer gweddio'n gyhoeddus, ond byddaf yn aml yn gweddio wrth drefnu'r ardd, neu rodio ynddi', yw sylw John Evans.

Ychwanega Jenkyn Jones: 'Pa weddio a allai fod yn fwy real na hyn? Onid gweddi a esgynnodd o ardd yw y ddwysaf a dwyfolaf a gofnodir?'

Ym 1892 symudodd John Evans i Ferthyr lle bu'n Arolygydd Ysgolion, yn ddiacon yn Eglwys Annibynnol Soar, ac yn weithgar mewn sawl cymdeithas. Rhoes Prifysgol Cymru y radd M.A; iddo adeg ei ymddeoliad ym 1923. Dychwelodd i Lanbryn-mair am gyfnod a gweithredodd fel Ynad Heddwch.

Dychwelodd i Ferthyr pan oedd ei wraig yn wael ac yno y bu yntau farw ar 11 Gorffennaf 1933 yn 75 oed, a'i gladdu ym mynwent yr Hen Gapel, Llanbryn-mair .Os oes gan ddisgynyddion rhai fu yn yr ysgol yng nghyfnod John Evans wybodaeth amdano cysylltwch 芒 mi."

Erthygl gan W J Edwards


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91热爆 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy