91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Tincer
Gwyneth Keyworth Actores ddawnus
Mehefin 2010
Hanes ymddangosiad yr actores Gwyneth Keyworth o Bow Street yn y ffilm Royal Wedding.

Ar sail ei pherfformiad diweddaraf yn y ffilm Royal Wedding (91Èȱ¬) credaf y gellir dweud gyda hyder y bydd wyneb Gwyneth Keyworth yr actores o Bow Street yn un cyfarwydd iawn ar ein sgrïniau yn y dyfodol.

Mae'r camera, fel y dywedir, yn ei 'hoffi ', mae ganddi amseru ardderchog a dangosodd unwaith eto ei bod yn feistres ar acenion ac yn gallu cyfl wyno llinellau yn ddidwyll a naturiol.

Tybiaf fod yr is-deitl 'introducing Gwyneth Keyworth' ar gychwyn y ffilm yn dangos fod y cynhyrchwyr yn gwbl ymwybodol eu bod wedi darganfod dawn newydd arbennig.

Mae Abi Morgan, awdures y ffilm yn adnabyddus am ei hysgrifennu cryf ac am ymdrin â phynciau heriol ac nid oedd y ffilm hon yn eithriad.

Ar yr wyneb ffilm am bentref yn y cymoedd yn dathlu priodas Charles a Diana oedd Royal Wedding ond roedd wrth reswm yn llawer mwy na hynny.

Tammy Caddock , y cymeriad yr oedd Gwyneth yn ei chwarae oedd yn trefnu'r dathliad ac felly yn linyn gysylltiol i'r ffilm.

O ganlyniad roedd y cymeriad yn allweddol i lwyddiant y ffilm ac yn dipyn o gyfrifoldeb i roi ar ysgwyddau ifanc. Ond gydag aeddfedrwydd rhyfeddol dangosodd Gwyneth ei bod yn gallu ymgymryd â'r cyfrifoldeb hwnnw a chreu cymeriad hynod o amlochrog.

Llwyddodd i gyfl eu ystod eang o emosiynau a hynny'n aml yn ddi-ddeialog ac rwy'n siwr fod yr awdures Abi Morgan yn hapus iawn gyda'i dehongliad.

Roedd y cyd-chwarae rhyngddi â Jodie Wittacker, oedd yn chwarae ei mam, yn llawn anwyldeb.

Mewn gwirionedd gellir dadlau mai ffilm am Tammy Caddock yw Royal Wedding oherwydd hi sy'n cynrychioli 'merch newydd yr wythdegau'.

Y ferch sy'n rheoli ac yn penderfynu ar ei dyfodol ei hunan yn hytrach na bod yn israddol o fewn priodas a'r gweithle ac roedd perfformiad grymus Gwyneth yn tanlinellu hynny.

Darlledwyd y ffilm fel rhan o dymor y 91Èȱ¬ i gofi o'r 'wythdegau', degawd o ddirwasgiad difrifol i ardaloedd fel Blaengarw, lleoliad dychmygol y ffilm hwn, a'r tristwch yw fod yr ardaloedd hynny'n dal i ddioddef hyd heddiw.

Nid oes gen i fawr o gof am briodas Charles a Diana. I ddweud y gwir roedd y briodas yn golygu llai imi nag i Charles hyd yn oed.

Ar y pryd ychydig o bobl a wyddai 'fod tri yn y briodas' wrth gwrs ond erbyn hyn mae'r byd i gyd yn gwybod a defnyddiodd Abi Morgan hynny i greu eironi ddramatig effeithiol.

Er fod rhai agweddau o'r ffilm megis ambell i ystrydeb, y diwedd ffantasïol a'r ffilter melyn i gyfleu cyfnod yn tarfu ar fy nifyrrwch hoffais y dull y defnyddiodd Abi Morgan y briodas frenhinol i greu eironi ddramatig ac i adlewyrchu priodasau'r prif gymeriadau.

Ac fel yn ei ffilm Sex Traffic gan yr un awdures roedd rhannau o'r deialog yn rymus iawn.

Ond yn fwy na dim mae hi'n braf gweld actores ifanc yn llwyddo, yn enwedig actores o ardal Y Tincer ac rwy'n proffwydo y bydd enwebiad BAFTA yn sgil y perfformiad ardderchog hwn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý