"Llongyfarchiadau mawr i Meilyr Jones o Bow Street. Enillodd ei fand, Radio Luxembourg, dair gwobr Roc a Phop yn seremoni wobrwyo flynyddol rhaglen C2, 91Èȱ¬ Radio Cymru. Wedi i'r band gael eu henwebu ar gyfer pedair gwobr fe gipion nhw wobrau 'Band a ddaeth fwyaf i amlygrwydd yn 2005', 'Sesiwn C2 gorau' a'r 'EP neu'r Sengl Orau' am eu sengl gyntaf 'Pwer y Fflwer/Lisa Magic a Porva'. Rhyddhawyd y sengl ar label Ciwdod ym mis Tachwedd 2005 ac fe'i cynhyrchwyd gan un o arwyr Meilyr, Euros Childs o'r band Gorky's Zygotic Mynci. Yn ogystal, syfrdanodd y band y gynulleidfa ddethol o gerddorion, penaethiaid labeli a
newyddiadurwyr gyda set anhygoel o'u caneuon i agor y noson. Yn ôl Meilyr, prif leisydd y grŵp, "roedd hi'n noson wych. Doeddwn i ddim wedi disgwyl ennill un wobr, dim ond yn
gobeithio y byddem ni'n ennill rhywbeth! Mae'n hyfryd ennill y math yma o beth, ond yn y pen draw chwarae'n stwff ni a'r hwyl 'dan ni'n cael gyda'n gilydd sydd wir yn bwysig".
Yn ôl Meilyr bu 2005 yn flwyddyn wych i'r band gyda "llawer iawn o bobl wedi ymateb yn dda i'r gigs a'r sengl. Mae teithio o amgylch Cymru'n gigio yn gallu bod yn waith blinedig and pan gewch chi ymateb cadarnhaol mae e wastad yn werth yr ymdrech." Pwysleisiodd hefyd na fydd y band yn gwastraffu gormod o amser yn dathlu ond yn mynd ati'n syth i recordio deunydd newydd a pharhau i gigio. Da iawn nhw." Erthygl gan Einion Dafydd
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |