Yn wir, nid gormodiaith yw dweud fod yna dderwen wedi syrthio oherwydd roedd ganddi wreiddiau cadarn a noddfa ddiogel dan ei changhennau. Un o "forwynion glân Meirionnydd" oedd Alwen ac fe'i trwythwyd yn gynnar ym mywyd crefyddol a diwylliannol ei bro gan fagu ynddi ruddin cymeriad a'i cynhaliodd gydol ei bywyd.
Pan ddaeth Elystan, ei phriod, i amlygrwydd yn y bywyd cyhoeddus bu'n gefn a chynhaliaeth iddo yrn mhob agwedd ar ei waith heb chwennych clod na chyfri'r gost Ymdaflodd a'i holl egni i wasanaethu ar wahanol lefelau heb erioed esgeuluso'i chartref lle bu'n wraig a mam ddelfrydol. Yn wir, gellid dweud yn hollol ddiffuant fod Alwen yn Fonesig o'i chorun i'w sawdl cyn iddi erioed gael ei hurddo â'r teitl yn swyddogol. Byddai ei hosgo bob amser yn naturiol fonheddig.
Gwasanaethodd ar nifer o bwyllgorau ac yn eu plith y Bwrdd Iechyd a Chyngor yr Henoed. Deilliai hyn i gyd o'r consyrn mawr oedd ganddi am bobol. Ni fedrai ddioddef ffyliaid yn llawen na chwaith unrhyw annhegwch a siarad gwag:
"Troi'r dweud yn WNEUD oedd ei nod"
Fel y gwyr pawb, bu ei chyfraniad i Eglwys y Gam a Chartref Tregerddan yn ddihareb a gedy fwlch anferth ar ei hol. Bu hefyd yn ffrind triw i lawer ac yn llawn consyrn amdanynt:
"Yn d'oriau uchel, fy malchder erot
Yn d'oriau isel, fy ngweddi drosot"
Dyna athroniaeth ei bywyd.
Roedd ei blaenoriaethau wastad mewn trefn gan sicrhau fod amser ganddi i'r pethau pwysicaf mewn bywyd. Er ei bod yn berson prysur, eto'i gyd ni ddefnyddiodd ei phrysurdeb erioed fel esgus i lacio dwylo. Meddai ar y ddawn gyfriniol i wybod lle roedd yr angen a diwallodd bob un i eithaf ei gallu. Medrai
gydlawenhau a chalonogi ynghanol gwynfyd bywyd a phan ddeuai adfyd ar ei dro byddai yno yn gwrando'n dawel a chydymdeimlo. Yn wir roedd yna wawl yn perthyn i w phersonoliaeth oedd yn eich codi a'ch cynnal.
Ni fu bywyd yn rhy garedig wrthi yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac amlygodd ddewrder aruthrol wrth frwydro yn erbyn afiechyd blin. Dioddefodd yn dawel heb dynnu sylw ati ei hun o gwbl a pharhaodd ei chonsyrn am arall gydol y daith. Drwy'r cyfan, gwelwyd y rhuddin cymeriad a'i ffydd dawel gadarn yn brigo i'r wyneb. Yn sicr bu geiriau emyn Cernyw a ganwyd yn ei hangladd yn gynhaliaeth iddi hithau yn y dyddiau tywyll:
"Mae'r gelyn yn gry, ond cryfach yw Duw,
Af ato yn hy, tŵr cadarn im yw,
Pan droir yn adfeilion amcanion pob dyn,
Mi ganaf mor ffyddlon yw'r Cyfaill a lÅ·n."
Fel y cyfeiriwyd ar ei thaflen angladdol, bu fyw bywyd cyflawn a diolchwn am y bywyd unigryw hwnnw.
Do, gwreiddiodd y dderwen hon yn ddwfn a chadarn: bu ei changhennau yn gysgod i lawer ac erys ei dail yn fytholwyrdd yn y cof.
(B.G.)
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |