Fuoch chi yn y ffair yn Aberystwyth? Fe fues i yno a chael hwyl fawr wrth fynd ar wahanol bethau a mwynhau byrgyr braf!
Dyma chi'r rhai fuodd yn cystadlu:
Rhian Medi James;
Tomos Watson;
Shauna Jones;
Lisa Evans;
Siân Harvey;
Isaac Williamson Evans;
Llinos a Siân Turner;
Gwawr Keyworth;
Ffion Griffiths;
Helen Davies;
George Martin;
Lauren Hughes;
Sioned Huxtable;
Ryan Waters;
Jordan Jones;
Glesni Morgan;
Eiry Williams;
Meinir Williams;
Niall Coleridge;
Chloe Coleridge.
A'r enillydd y tro hwn yw Siân Harvey. Da iawn ti Siân!
Rydw i wrth fy modd â'r Nadolig - y goeden Nadolig, stori geni'r baban lesu, yr anrhegion, y twrci, y siocledi ac wrth gwrs yr edrych ymlaen at Siôn Corn!
Llun o'r goeden Nadolig sydd i chi i'w liwio y mis hwn. Lliwiwch hi'n lliwgar a sgleiniog. Oes gennych chi goeden yn eich tÅ· erbyn hyn? Efallai taw coeden wedi ei thyfu'n naturiol yw hi, neu un blastig. Mae'n edrych mor hardd yng nghanol yr ystafell fyw. Ond pam mae coeden yn cael ei rhoi yn y tÅ· adeg y Nadolig? Yn sicr, fyddai'r Nadolig ddim yr un fath heb goeden Nadolig.
Coeden binwydd yw'r goeden Nadolig, ac yn ôl Sant Boniface mae ei brigau'n pwyntio i fyny i'r nefoedd at Dduw. Mae ei dail yn fythwyrdd - 'dyn nhw byth yn newid lliw yn yr hydref.
O'r Almaen y daeth Boniface, ac fe wnaeth dyn arall o'r Almaen, Martin Luther, gymryd coeden binwydd a'i rhoi yn ei gartref. Fe roddodd ganhwyllau arni i'w atgoffa o'r sêr ym Methlehem ar y noson y cafodd lesu Grist ei eni.
Felly fe ddaeth y goeden Nadolig gyntaf i wledydd Prydain o'r Almaen. Y Frenhines Fictoria a'i gŵr Halbert ddaeth â choeden i Castell Balmoral ym 1840. A dyna ddechrau'r traddodiad. Erbyn heddiw mae'r goeden Nadolig i'w gweld bron ymhob tŷ ac ymhob tref.
Mae coeden anferth yn Sgwâr y Banc yng nghanol Aberystwyth, ac un enwog yn tyfu y tu allan i'r Tŷ Gwyn yn Washington. Mae un enfawr arall yn Sgwâr Trafalgar yn Llundain bob blwyddyn, wedi ei rhoi yn anrheg i bobl gwledydd Prydain gan bobl Oslo yn Norwy.
Anfonwch eich gwaith ata'i i'r cyfeiriad arferol - Tasg y Tincer, 46 Bryncastell, Bow Street, Ceredigion, SY24 5DE - erbyn 1af Ionawr. Mwynhewch y Nadolig - y twrci, y mins peis, yr anrhegion oddi wrth Siôn Corn, ac wrth gwrs y goeden Nadolig. Ta ta tan toc, a hwyl ar y lliwio!