Yn ystod yr wythnos cymerais ran mewn nifer o weithdai gan delynorion proffesiynol o bob cwr o'r byd. Gwnes nifer o ffrindiau newydd ac roedd un o'r rhain yn dod o Thailand. Wrth sgwrsio â Takkamol a'i mam, cefais fy nghyflwyno i'w hathrawes sef Sunida Kitiyakara. Erbyn deall, ei theitl llawn yw Mom Rajawongse (neu Ei Huchelder Y Fonesig) Sunida Kitiyakara, gor-wyres i'r Brenin Rama V ac wyres y Tywysog Chudadhuj, sef plentyn rhif 72 y brenin.
Roedd yn arferiad gan y teulu brenhinol ar y pryd i anfon y bechgyn ifanc i Loegr i dderbyn eu haddysg ac yma y clywodd y Tywysog y delyn yn cael ei chanu am y tro cyntaf. Gan fod ganddo ddiddordeb mewn cerddoriaeth penderfynodd fod yn rhaid iddo ddod â thelyn yn ôl gydag e' i Thailand. Gofynnodd i gwmni Morley i adeiladu telyn arbennig iddo. Erbyn hyn mae'r delyn wedi ei hadnewyddu a chyflwynodd merch y Tywysog, sef mam Sunida, un o balasau haf y Tywysog i gael ei symud i le pwrpasol yn Bangkok a'i droi'n amgueddfa ac yn ysgol gerdd. Agorwyd yr ysgol yn 2002 gyda chyngerdd arbennig gan Catrin Finch.
Ar ddiwedd yr ŵyl yng Nghaernarfon cefais fy ngwahodd i Thailand i ymweld ag Ysgol y Delyn Tamnak Prathom ac eleni yn ystod gwyliau'r Pasg daeth y cyfle i hedfan allan i Bangkok.
Rhan gyntaf y siwrne oedd y daith o Heathrow i Bangkok. Siwrne hir o 11 awr ar awyren Thai Airways 747. Fe wnaethom hedfan dros nifer o wledydd gan gynnwys India ac Afghanistan! Er inni gychwyn o Lundain amser cinio, wnaethon ni ddim glanio tan 6 o'r gloch y bore canlynol. Y peth cyntaf y sylwais arno oedd y gwres. Er ei bod yn gynnar, roedd hi'n boeth iawn. Yna teithio i'r gwesty yng nghanol Bangkok trwy'r traffig gwyllt. Roedd y gwesty yn un moethus ond ar ochr stryd brysur iawn ond gan ein bod ar lawr rhif 25 doedd sŵn pawb yn canu corn ar ei gilydd ddim i'w glywed ormod.
Er cael dwy awr o gwsg, dyma Thongchai - cynorthwywr Sunida - yn galw i'n casglu a'n cludo i dy Sunida am ginio. Roedd yn braf iawn cwrdd â hi unwaith eto, mae'n dipyn o gês! Wrth gwrs roedd rhaid ymweld ag Ysgol y Delyn ychydig ddrysau i lawr y 'soi'. Lôn fach gefn, a chael profiad arbennig - cael chwarae telyn wreiddiol ei thad-cu. Nid pawb sy'n cael y fraint hon. Roeddwn ofn ei thorri! Yna symud i'r delyn Lyon & Healy aur y drws nesaf. Gobeithio fod mam a dad wedi sylwi ar y delyn yma!
Ar ôl cinio gyda dwy o athrawesau Ysgol y Delyn, sef Ema o Siapan a Heleen o Wlad Belg, dyma gyfle i deithio o amgylch Bangkok dan arweiniad Thongchai. Mynd ar y 'skytrain' i ddechrau sy'n llithro'n dawel uwchben y strydoedd gwyllt cyn newid i un o gychod hir traddodiadol Bangkok a theithio i fyny'r afon Chao Praya. Yn ystod y daith fe welon ni'r palas Brenhinol, temlau hardd a llawer o adeiladau arbennig ac amgueddfa'r cychod Brenhinol aur - heb anghofio'r Salamander yn torheulo.
Y bore canlynol fe gafon ni'r fraint arbennig o fynd i'r palas mawr i'r neuadd ble yr oedd y Dywysoges Galyani, chwaer fawr y Brenin, yn gorwedd. Fe fu farw ddechrau mis Ionawr ac ers hynny mae miloedd o bobl wedi dod i'r palas i ffarwelio â hi gan ei bod yn berson uchel iawn ei pharch. Yn ddiweddar roedd y neuadd wedi cael ei chau i'r cyhoedd ond fe fuon ni'n ddigon ffodus i gael caniatâd i fynd i'r neuadd. Ar ôl ymweld â rhannau eraill o'r palas a Theml y Bwda Emrallt a theithio mewn Tuk Tuk (tacsi beic modur tair olwyn), roedd rhaid paratoi ar gyfer prif bwrpas y daith sef chwarae yn Ysgol y Delyn. Cyngerdd misol y disgyblion oedd hwn felly roedd llawer o ddisgyblion yr ysgol yn chwarae yn unigol ac fel ensemble ynghyd ag ensemble yr athrawon a'r cyfarwyddwr cerdd.
Fe gefais i gyfle i gloi'r Gyngerdd a chwarae am tua 20 munud. Cefais ddewis pa delyn i'w chanu, felly dyma gyfle i roi tro ar y Camac Clio. Fe wnes i fwynhau fy hun yn fawr iawn ac roedd yn braf cwrdd â Takkamol unwaith eto.
Mared Pugh-Evans