Eto i gyd ni chafodd yr un amlygrwydd â'i hail nofel sef lawn Boi. Llongyfarchiadau i Caryl ar gipio Gwobr Tir na n-Og eleni am ei nofel i ddisgyblion ysgolion Uwchradd. Catrin yw prif gymeriad lawn Boi, merch sy'n byw ar fferm gyda'i mam, ei brawd hŷn Gareth, ond mae ei thad yn byw gyda nhw. Mae Mam-gu sy'n gymeriad diddorol, ecsentrig a dweud y gwir, yn dueddol o fod yn anghofus, ond eto i gyd yn cofio pob dim pan fo hynny o les iddi hi. Mae ei ffrind gorau Mererid, mewn cariad â Rhodri ac wrth gwrs mae Catrin hefyd yn ei ffansio. Disgybl chweched dosbarth yw Rhodri, 'Hot Rod; secs on legs, tin fel dwy daten mewn bag' ac mae'n berchen ar passion wagon, car y bydd Catrin a Mererid wrth ei bodd yn cael lifft ynddo. Gosododd Caryl y nofel mewn cyfnod pan fo Catrin a Mererid yn paratoi ar gyfer arholiadau TGAU, hen gyfnod digon anodd a rhwng popeth yn gyfnod helbulus iawn i'r ddwy ferch. Mewn adolygiad ar , mae Gareth William Jones yn annog chi ddarllenwyr ifanc i ddarllen y nofel. Dywedodd: "Mi gewch hwyl wrth ddarllen am helyntion y merched yn mynd i barti, yn sefyll arholiadau ac yn caru ar y we. Rwy'n meddwl fod Caryl Lewis wedi bod yn glyfar iawn ac wedi llwyddo i gyflwyno thema bwysig heb ei gwneud yn or-amlwg. Mae nifer o'r cymeriadau yn y nofel hon yn wynebu newid yn eu bywydau ac nid yw'r newid bob amser yn un er gwell. Dyma nofel y gallwch chi ei mwynhau o ran stori yn unig neu, os ydych chi fel fi am weld rhywbeth mwy ynddi, yna mae cyfle i wneud hynny hefyd." Croeso Caryl i fro'r Tincer. Gwyddom ei bod hi bellach yn awdur proffesiynol, felly mae ennill y wobr wedi bod yn hwb ardderchog iddi. Rydyn ni wedi clywed si hefyd bod nofel araf ganddi ar y gweill. Pob hwyl iddi ac rydyn ni'n siŵr bod ei darllenwyr yn edrych ymlaen yn eiddgar at ei nofel nesaf. Enillydd y llyfr gorau ag eithrio ffuglen yng Ngwobrau Tir Na nOg eleni yw Gwyn Thomas a Margaret Jones (Capel Bangor) am y gyfrol liwgar Stori Dafydd ap Gwilym (Y Lolfa) a adolygwyd yn rhifyn Chwefror o'r Tincer.
|