91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Tincer
Ysgol 'Concerns' yn Bangalore Taith i Ddinas Bangalore
Hydref 2005
Margaret Davies, Troedrhiwceir, Aber-ffrwd sy'n athrawes Addysg Grefyddol yn Ysgol Gyfun Plasmawr yn sôn am ei phrofiadau diweddar yn gweithio mewn ysgol yn Bangalore, India.

Dechreuais ar fy nhaith i ddinas Bangalore yn yr India ar y 23 o Orffennaf wedi misoedd o drefnu a pharatoi gwyllt. Bangalore yw un o ddinasoedd mwyaf de India. Mae dros filiwn o bobl yn byw yn y ddinas yma ac mae safonau byw yn amrywio o ardal i ardal.

Yn ystod fy nghyfnod cefais y fraint o aros gyda theulu yn y ddinas a threulio tair wythnos yn dysgu mewn ysgol go arbennig yng nghanol un o'r ardaloedd sianti. Agorwyd ysgol 'Concerns' bum mlynedd yn ôl er mwyn gwasanaethu cymunedau y castiau is mewn ardal sianti yn ninas Bangalore.

Prif amcan yr ysgol hon yw cynnig addysg a hyfforddiant i blant a merched ifanc er mwyn iddynt fedru gwella eu safonau byw yn y dyfodol. Mae'r ysgol hefyd yn ceisio addysgu'r gymuned leol trwy gynnal sesiynau wythnosol yn y pentrefi i ddysgu am afiechydon sydd yn peri problemau i'r gymdeithas megis colera, y diciau a HIV.

Mae'r ysgol hon yn dibynnu ar wirfoddolwyr a chyfraniadau er mwyn cynnig y gwasanaethau pwysig yma i'r ardal. Roedd yr ysgol yma yn un dra gwahanol i'r un yr oeddwn wedi arfer a hi yng Nghaerdydd.

Profiad hollol newydd, ond pleserus, oedd ceisio dysgu dros hanner cant o blant rhwng tair ac wyth oed mewn dwy ystafell fach iawn heb fawr o adnoddau. Er gwaethaf yr amgylchiadau anodd roedd yr ysgol yn gweithio'n galed iawn er mwyn annog y disgyblioni gydwethio beth bynnag eu cefndiroedd crefyddol ac ieithyddol. Roedd yr ysgol yn canolbwyntio ar ddysgu Saesneg a sgiliau sylfaenol bywyd i'r disgyblion yma.

Yn ystod yr wythnos olaf cefais y cyfle i weithio gyda rhai o staff a gwirfoddolwyr llochesi'r YMCA. Mae'r llochesi yma yn cynnig gwasanaeth pwysig iawn i'r gymuned yn enwedig y plant ifanc sydd yn gweithio ar y tomenni sbwriel. Mae'r llochesi yma, sy'n rhoi tô uwch bennau'r plant a'r bobl ifanc, yn darparu prydau bwyd poeth ynghyd â chyfle i ymlacio a chwarae. Dyma fywyd tra gwahanol i'r hyn yr ydym ni wedi ri arfer ag ef yng Nghaerdydd.

Roedd yr ymweliad yma â dinas Bangalore yn un arbennig iawn i mi yn bersonol. Anodd ydy disgrifio'r effaith mae wedi cael arnaf fel person. Hoffwn ddiolch i staff a disgyblion Ysgol Gymraeg Plasmawr am eu cefnogaeth frwd wrth imi drefnu'r daith yma. Llwyddodd yr ysgol i gasglu dros £1000 o bunnau i 'Ysgol Concerns'. Bydd yr arian yma yn cael ei ddefnyddio er mwyn datblygu ac ehangu'r adeilad a'r adnoddau sydd ar gael yno ar gyfer y plant a'r merched ifanc.

Erthygl gan Margaret Davies


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý