91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Tincer
Nant yr Arian Nant Yr Arian
Mai 2005
Blas o'r hyn gall ymwelwyr â chanolfan newydd Bwlch Nant yr Arian ei ddisgwyl.

Bydd Canolfan Ymwelwyr newydd Nant yr Arian yn cael ai agor yn swyddogol ar Fehefin 16. Dyma flas o'r hyn sydd yn aros ymwelwyr â'r safle.

Mae Bwlch Nant yr Arian - rhwng Goginan a Phonterwyd - yn cynnig golygfeydd dramatig a theithiau cerdded deniadol ac mae'n fan poblogaidd i wylio'r barcud coch. Roedd angen canolfan ymwelwyr newydd, mwy o faint arnynt, ar gyfer y nifer cynyddol o bobl sy'n ymweld â'r safle, ac yn eu plith yr holl feicwyr mynydd oedd wedi dechrau defnyddio'r llwybrau a osodwyd at y diben hwnnw.

Aeth Steven Richards-Price, Ymgynghorydd Dehongli, Urn Coedwigaeth Cymdeithasol Comisiwn Coedwigaeth Cymru ati i baratoi cynllun cyflwyno deongliadol a oedd yn cynnwys gwe-gamerâu ar gyfer mannau bwydo'r barcud coch, arwyddion newydd ar gyfer y safle, arwyddion brown ymwelwyr, a dewis mannau cyfeiriadu.

Rhaid i dìm cynnal y prosiect ehangach hefyd wynebu'r dasg o gydlynu'r tirweddau, y safleodd parcio, gwasanaethau, meysydd chwarae, llwybrau ac ati.

"Dehongli integredig" yw'r enw a roddodd Steven ar eu dull o weithredu. Does yna ddim arddangosfa sefydlog, ond fe ddaw'r ymwelwyr wyneb yn wyneb a dehongli wrth iddyn nhw ddefnyddio cyfleusterau'r ganolfan. "Byddwch yn dod ar draws nifer o nodweddion 'gwyrdd' yn ein canolfan newydd i ymwelwyr " - dyna'r thema ganolog. Daw'r ymwelwyr i ddeall y neges hon, a hynny mewn ambell fan braidd yn annisgwyl, gan gynnwys y tÅ· bach.

Defnyddiwyd cryn dipyn o goed lleol yn y gwaith adeiladu a byddant yn esbonio hyn drwy ysgrifennu negeseuon byr ar y pren. Defnyddir pedwar math o bren caled ar gyfer y llawr, er enghraifft, a byddant yn ysgythru enw'r rhywogaeth ac o ba wlad y dawn wreiddiol ar rai o estyll y llawr.

Bydd napcynnau papur yn dangos y prif rywogaethau coed a ddefnyddiwyd er mwyn cael darparu pren ar gyfer yr adeilad.

Yng nghornel y plant, gosodir byrddau siâp dyfrgwn a moch daear, stolion cnapiog siâp boncyff yn ogystal â thegannau chwarae o bren a'r cyfan wedi dod ynwreiddiol o goedwigoedd lleol.

Mae ffenestri'r adeiladau yn enfawr ac yn ymestyn o'r llawr i'r nenfwd, gyferbyn â'r rhain mae gofod wal sy'r un mor anferthol o fawr. Bydd y wal hon yn cael ei defnyddio fel 'cynfas gwag' ar gyfer dehongli dros dro a ddylai fod o ddiddordeb parhaus i ymwelwyr lleol a'r rhai fydd yn dychwelyd dro ar ôl tro.

Gosodir sgriniau yn eu lle er mwyn dangos ffilmiau byw o'r barcutiaid yn bwydo, a'u nythod hefyd gobeithio.Prif thema'r awyr agored yw "Mae Bwlch Nant yr Arian yn gyrchfan unigryw oherwydd ei dirwedd, ei fywyd gwyllt a'i dreftadaeth ddiwylliannol".

Bydd is-themâu yn canolbwyntio ar bob un o'r tri phennawd hyn.Bydd yno nifer o flychau clywedol clocwaith fydd yn adrodd chwedlau gwerin - recordiwyd y rhain gan Gwynedd Davies.

Ar Lwybr y Barcud sy'n arwain o gwmpas y llyn, gwelir cyfres o Arwyddion Cyfleu Neges sy'n cynnwys 13 o ffeithiau cyfareddol am y barcud coch, yn ogystal â lluniau cartŵn bywiog.

Bu artistiaid deongliadol, dan gyfarwyddyd Cre-ad, hefyd yn brysur yn paratoi celfwaith ar gyfer y safle. Mae'r rhain yn cynnwyscerflun awyr agored o'r barcud coch fydd yn symud yn y gwynt a sedd fosaig wedi i gosod mewn syllfan o bwys.

Y tu mewn i'r ganolfan ymwelwyr, bydd murlun enfawr yn cael ei arddangos wedi'i wneud o ddorluniau pren ar lun coed a bywyd gwyllt ac ysgol uwchradd leol fydd yn gyfrifol am lunio'r baneri ar gyfer "cynfas gwag" y ganolfan.

Diolch i Steven Richards-Price am ei gymorth gyda'r wybodaeth hon.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý