91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Tincer
Seiriol Hughes Colofnydd y mis
Hydref 2009
Cyfres lle mae rhai a fagwyd yn ardal y Tincer sydd ar wasgar yn cyfrannu colofn. Seiriol Hughes yw colofnydd mis Hydref 2009.

"Mae dros flwyddyn wedi mynd heibio ers i mi symud o ddalgylch y Tincer i ardal Papur Dre, o Bow Street i Gaernarfon yn dilyn cyfnod yn nhre'r Cambridge Evening News.

Efallai na fyddech chi'n meddwl bod gan bentrefi ardal Tirymynach lawer yn gyffredin gyda Thref Frenhinol yn Arfon ond o ddarllen papurau bro'r ddwy ardal, fe welwch chi lawer o straeon tebyg.

Yn hytrach na darllen am lwyddiannau ysgolion Rhydypennau a Phenrhyn-coch, cewch chi hanes ysgolion yr Hendre a Syr Hugh Owen ac yn lle clywed hanes rhywun sy'n byw ym mhellafoedd Caernarfon, mae hanes bachgen ifanc o'r dref sy'n byw yn Awstralia.

Mae rhai pethau'n wahanol, wrth gwrs. Mae castell Edward y Cyntaf yn dipyn mwy crand na Chastell Gwallter a dwi ddim yn siwr a welwn ni golofn 'Tafarn y Mis' yn y Tincer yn y dyfodol agos.

Yr hyn sy'n fwyaf gwahanol am fyw yng Nghaernarfon yw Cymreictod hynod y dref. Mae Cofis Dre yn falch iawn o'r cysylltiad brenhinol, yn enwedig y genhedlaeth hñn - mae 'Brenhinol' yn dal yn rhan o enw'r clwb golff, er enghraifft - ond mae'n rhaid edrych tu hwnt i hynny.

Beth sy'n chwa o awyr iach yma yw'r hyder sydd gan bawb i ddefnyddio'u Cymraeg. Nid hyder uchel ei gloch ond hyder tawel, naturiol: 'dyma'r iaith dwi'n ei siarad.'

Mae'n brofiad rhyfedd siarad Cymraeg â phawb, credwch fi, cymerodd hi fisoedd i mi ddod i arfer a dwi'n dal ddim yn deall hanner yr acen!

Er nad ydw i wedi cael y cyfle i hedfan i wledydd AS a Marca, y Gazzetta dello Sport a'r Süddeutsche Zeitung gyda fy ngwaith ar raglen Sgorio eto, rydw i wedi cael y cyfle i deithio sawl ardal llawer brafiach drwy weithio ar Sgorio Cymru - ardaloedd papurau fel Pethe Penllyn, Wilia, Y Bedol a Cwlwm.

Ar ôl byw yn Bow Street am gyfnod cyhyd, mae'n brofiad rhyfedd ar y naw gyrru drwy'r pentref bron yn wythnosol ar daith i weithio ar gêm.

Dwi'n dechrau dod i ddeall nawr bod Bow Street annwyl yn un o'r llefydd hynny rydych chi'n gyrru drwyddyn nhw ar y ffordd i rywle arall, fel Rhydargaeau neu Ganllwyd, i bawb heblaw darllenwyr papur bro'r pentref hwnnw.

Ond pan fydda i'n cael cyfle ambell waith i dorri fy siwrne yn fy hen fro, gwn y byddaf yn cael croeso brenhinol yn ardal y Tincer Tlawd."

Ers graddio yng Nghaergrawnt mae Seiriol yn gweithio fel ymchwilydd gyda chwmni Rondo yng Nghaernarfon.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý