Nos Iau, y 25ain o Fawrth, ac roedd
gwesty'r Marine yn llawn o leisiau
llawen o bob oed, wedi dod at ei
gilydd yn unig swydd i groesawu
cyfrol Wynne Melville Jones (Wyn
Mel) - Y Fi a Mistar Urdd a'r Cwmni
Da (Y Lolfa).
Dan arweiniad Sulwyn Thomas
fe gawson ni ragflas o gynnwys
y gyfrol drwy gyfrwng pytiau
o sgyrsiau bywiog gan nifer
fawr o bobl fu'n cyd-deithio a
chydweithio â Wynne, darllenodd
Lowri Steffan ddarnau wedi eu
dethol o'r testun ac fe ganodd
côr ABC gân Mistar Urdd.
Roedd Mistar Urdd ei hun hefyd yn
bresennol wrth reswm.
Roedd
y cyfan wedi ei lwyfanu'n slic fel
sy'n gweddu i gwmni PR y mae
ansawdd a steil cyfl wyniadau yn
anadl einioes iddo.
Wedyn dyma droi at y llyfr.
Doedd yr hyn glywson ni yn y
cyfarfod lansio am weithgarwch a
dyfeisgarwch Wyn Mel yn ddim o'i
gymharu â'r hyn sydd yn y llyfr.
Dyma bortread o ddyn sydd
wedi byw ei oes yn cyfl awni'r hyn
na fyddai'r rhelyw ond yn dechrau
breuddwydio am ei wneud i
draddodi'r dreftadaeth genedlaethol
i'r cenedlaethau sy'n dilyn.
Cawn ein harwain gyda pharch
disentiment, cadarnhaol, o'i
ddechreuad yn fab y Mans yn
Nhregaron ar adeg pan oedd y
capel yn cyfrif yn y gymdeithas,
- yn ddiddorol iawn mae'n
gweld tebygrwydd rhwng y
weinidogaeth a PR, heb fanylu'n
ormodol ar y syniad!
Drwy
ei gyfnod yn fyfyriwr celf yn
Abertawe a Choleg y Drindod
Caerfyrddin, wedyn yn gweithio
yn drefnydd yr Urdd yn Sir
Gaerfyrddin, wedyn yn Swyddog
Cyhoeddusrwydd a Gwerthiant yr
Urdd yn genedlaethol, - dyna pryd
y creodd yr anfarwol Fistar Urdd
- hyd at y cyfnod pan fentrodd
adael diogelwch y corff mawr
i sefydlu Cwmni Cysylltiadau
Cyhoeddus Strata - StrataMatrix
bellach - sy'n gorff mawr ei hun
erbyn hyn.
Drwy'r cyfan i gyd yr hyn
oedd, ac sydd, yn ei yrru oedd ei
ffyddlondeb i Gymru, i Gyd-ddyn
ac i Grist, hynny a ffydd yn ei
genhadaeth, yn ogystal â dogn
helaeth o barodrwydd i feddwl y
tu allan i'r bocs ac i weithredu ar
hynny - gwr a welodd 'y seren
ddisglair drwy y cwmwl du' yn
wir.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |