Yn sicr un o'r bobl prysura oedd Linda Pen bryn i bobl Maldwyn, neu Linda Healy i ni. Roedd y ffaith bod ei hen gartref, sef fferm Pen bryn, yn edrych i lawr ar faes yr eisteddfod yn destun balchder i Linda. Gan fod y Genedlaethol wedi dod i'w milltir sgwâr, ddiflannodd mo'r wên o'i hwyneb agydol yr wythnos ac yn wir roedd acen Maldwyn yn gryfach nag a fu erioed, os oedd hynny'n bosibl.
Daeth grwp Plethyn ynghyd unwaith yn rhagor i berfformio ar y Nos Wener yng nghyngerdd agoriadol y Brifwyl a chawsant dderbyniad twymgalon gan y dyrfa fawr yn y pafiliwn. Yna, ar y Nos Fercher cawsant noson gofiadwy yn y Cann Office wrth i Linda lansio ei CD newydd 'Ôl Ei Droed' a CD yn cynnwys caneuon gorau y grwp Plethyn.
Bu hefyd yn beirniadu yr adran canu gwerin gydol yr wythnos ac yn ogystal â hyn roedd wedi paratoi rhyw ddwsin o becynnau gogyfer â Radio Cymru i'w darlledu. Doedd hynny chwaith ddim yn ddigon o goflaid iddi gan y bu nifer ohonon ni, drigolion ardal y Tincer, yn ddigon ffodus o gael mynd ar bererindod o gwmpas ardal Ann Griffiths a llecynnau eraill oedd, a sydd, yn bwysig iddi. Roedd hwn yn brynhawn cofiadwy mewn eisteddfod gofiadwy.
Cafodd y ddau frawd o Bow Street, Alex a Gregory Roberts wythnos dda ym Meifod hefyd mewn cystadleuaeth yn yr oedran 19-25. Daeth Alex yn ail yng nghystadleuaeth y Lieder, Gregory'n ail ar yr unawd alaw werin ac yn drydydd yn yr unawd operatig. Braf clywed hefyd bod disgybl i Greg, Richard James wedi ennill ar yr alaw werin o dan 12.
Teulu arall a gafodd wythnos lwyddiannus oedd y brawd a'r chwaer o Benrhyncoch - Charlotte ac Ellis Griffiths. Enillodd Charlotte y ddawns disgo unigol, dod yn ail mewn cystadleuaeth ddawnsio arall, a gyda Marged Howells, Ponterwyd, sicrhau'r ail wobr mewn cystadleuaeth i bâr. Daeth Ellis yn drydydd ar y gystadleuaeth llefaru o dan 12. Roedd aelodau Grwp Marged o ysgol ddawns Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a gafodd yr ail wobr yng nghystadleuaeth y Grwp Dawnsio Disgo yn dod o Benrhyn-coch, Bow Street, Clarach a Phonterwyd - Bethan Jenkins, Caryl Daker, Marged Howells, Rebecca Thomas, Angharad Fflur a Mari Wyn Lewis.
Bu Buddug James Jones a Chwmni Licyris Olsorts yn brysur hefyd - yn ogystal â pherfformio yn y Theatr Fach ar y Maes, bu iddynt ennill y drydedd wobr yn y Gystadleuaeth Perfformio drama Fer Agored gyda'r ffars hwyliog 'Dr Arecchino' ac enillodd Buddug gwpan am y cynhyrchydd gorau.
Rhaid peidio ag anghofio'r Jonesiaid o Bow Street a enillodd wobrau cyntaf. Vernon Jones y cywydd, Gareth William Jones ar y nofel i blant oed 7 i 9 oed ac Eddie Jones am gyfansoddi dawns werin i drioedd. Amlygodd Vernon ei hun hefyd wrth gael hwyl ar feirniadu'r llefaru yn ystod yr wythnos.
Cafodd Eddie ei anrhydeddu wrth gael ei urddo yng ngorsedd y beirdd fore dydd Gwener a doedd e dim yn unig yno. Yn gwmni iddo cafodd John o'r Figyn, sef John Hefin o'r Borth a dderbyniodd y wisg wen, a Lona Gogerddan sef Lona Jones o Benrhyncoch, hithau hefyd yn cael ei derbyn i'r orsedd.
Fore Llun yr Urddwyd Bethan Penderyn (Bethan Mair Jenkins, Bow Street) a lwyddodd yn arholiadau Gorsedd y Beridd. Llnogyfarchiadau calonnog i bawb.