91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Tincer
Iger Gofidiau Gweithwyr Gogerddan
Chwefror 2006
Mwy o drafodaeth ynglŷn â dyfodol IGER, cyflogwr pwysicaf ardal Y Tincer.

Yn ddiddadl IGER yw cyflogwr pwysicaf ardal y Tincer, yn cyflogi rhyw 300 o weithwyr a chyda gwariant o ryw £17 miliwn y flwyddyn. Cafodd y gweithle eu hysgwyd, ac yn wir yr ardal, wrth i IGER golli rhyw £2 filiwn o arian gan Defra yn cynnwys adran pori tir glas a chynnyrch da byw. Oblygiadau hynny yw y bydd rhwng deugain a hanner cant o weithwyr yn colli eu swyddi a Chymru yn colli arbenigedd mewn ymchwil sydd wedi ei ddatblygu dros y degawdau diwethaf yn yr orsaf.

Yn ôl Raymond Jones, Pennaeth Adran Systemau Da Byw a Defnydd Tir Integredig: "Bydd gwaith ymchwil ar biff a defaid sy'n ymwneud ag iechyd ac yn enwedig ar ansawdd cig coch yn cael ei ddiddymu. Hefyd gwaith arloesol ar systemau cynnyrch llaeth o ffermydd organig."

Yn ôl a ddeallwn, yn hytrach na rhoi'r pwyslais ar gynnyrch fferm a ffermio mae Defra yn bwriadu rhoi mwy o sylw i'r newidiadau sydd yn digwydd i'n tywydd ac mewn prosiectau sy'n ymwneud a chreu ynni adnewyddol.

Mewn cyfnod o newidiadau amlwg ym myd ffermio, mewn cyfnod felly lle mae gwir angen ymchwil a all roi arweiniad i amaethwyr, anodd iawn gallu deall ymresymu Defra wrth iddynt wneud y toriadau hyn. Dyma'r toriadau llymaf i IGER eu hwynebu ers i'r Athro Pollock ddod yn gyfarwyddwr ddeuddeng mlynedd yn ôl.

Mae ymchwil IGER yn allweddol yng Nghymru gan ei fod yn rhoi'r pwyslais ar dir pori ac ar y systemau o ddefnyddio'r tirwedd hwnnw. Rhaid wrth economi wledig sy'n gallu cynnal yr amaethwyr, sicrhau bwydydd iachus o safon yn ogystal â rhoi pwyslais ar amddiffyn yr amgylchfyd. Gwnaeth yr orsaf waith allweddol yn y meysydd hyn yn ystod y pedwar ugain mlynedd diwethaf.

Gan fod IGER yn derbyn ei arian yn uniongyrchol o Westminster, nid yw'n bosibl i'r Cynulliad roddi arian i'r Sefydliad a fyddai'n gwneud iawn am y golled. Dywedodd Elin Jones Plaid Cymru: "Mae IGER yn cynnig gwasanaeth gwerthfawr i Gymru gyfan ac mae'n warthus bod Adran arall o'r Llywodraeth yn Westminster yn lleihau ar y cyllid a glustnodwyd i orllewin Cymru."

Holodd Raymond Jones: "Beth yw pwrpas datblygu mathau newydd os borfeydd nad ydynt am gael eu defnyddio gan anifeiliaid. Felly, a yw'r dyfodol yn golygu diddymu gwaith IGER yn gyfan gwbl? Nid oes ateb gennyf i hynny."

Yr hyn sydd yn amlwg bod hyn yn newyddion trist iawn ar ddechrau blwyddyn newydd i weithle IGER, tristwch i'r gweithwyr hynny fydd yn gorfod gadael yr ardal i chwilio a waith ac ansicrwydd mawr yng nghalonnau'r gweddill.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý