Parataoodd y cwmni drama dwy ddrama ar gyfer
cystadlu yn y gwyliau drama a'r
Eisteddfod Genedlaethol.
Cyfieithiad Emyr Edwards o
ddrama 'Confusions' gan Alan
Ayckbourn sef 'Y Fam Ddelw'
oedd un gyda Catrin Jenkins,
Gwynant Evans, Janet Roberts
a Siôn Pennant yn y cast.
Yr
ail ddrama fu'n cystadlu oedd
cynhyrchiad o 'Apocalyps', drama
wreiddiol o waith y dramodydd
Emyr Edwards gyda Rhian Evans
a Sion Glyn Saunders Jones yn
y cast.
Mae dyled y cwmni yn
fawr i ymroddiad a gwaith caled
y cynhyrchydd Siôn Pennant,
Bont-goch am roi o'i amser i
gynhyrchu'r dramâu.
Bu'r ddwy ddrama yn cystadlu
yng Ngŵyl Ddrama'r Groeslon
ym mis Ebrill ac yna yng Ngŵyl
Corwen ddechrau Mai ble cipiwyd
y wobr gyntaf gan 'Apocalyps'.
Llongyfarchiadau hefyd i Siôn
Glyn Saunders Jones am gipio
tlws yr actor gorau dan ddeg ar
hugain yng Nghorwen a hynny
am y trydydd tro.
Cofiwch fod
cyfle i weld y ddwy ddrama yn
yr Eisteddfod Genedlaethol yn
y Bala ym mis Awst pan fydd
yr 'Apocalyps' yn cystadlu yng
nghystadleuaeth perfformio
drama fer a'r 'Fam Ddelw' yn
perfformio yn Theatr Fach y Maes.
Dymuniadau gorau a phob lwc i'r
cwmni.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |