Bydd cnydau deuddeg troedfedd o uchder sy'n ymdebygu i fambŵ i'w gweld yn ardal Penrhyn-coch, ond go brin y gwelir eliffant na phanda yn pori'r erwau hynny er mor ddeniadol y byddai'r cnwd hwn iddynt.
Mae gwyddonwyr yn y Fridfa wrthi'n arbrofi gyda'r planhigyn Miscanthus - math ar borfa anferth o'r Dwyrain Pell sydd wedi ennill yr enw poblogaidd Gwair Eliffant Asiaidd. Yn wir bu Dr John Clifton-Brown, sy'n byw ym mhentref Penrhyn-coch, ar daith yn ddiweddar yng ngwledydd China, Japan a Taiwan, gyda chefnogaeth DEFRA, yn casglu enghreifftiau newydd o'r planhigyn, cryn ddau gant a hanner ohonynt, ar gyfer eu datblygu yn ffynhonnell bio-màs er mwyn cynhyrchu egni o gnydau. Bu aelod arall o staff y Fridfa allan yno hefyd yn cyfieithu, sef Lin Huang.
Mae'r arbrofion hyn yn hollbwysig bellach wrth i'r gofid am gynhesu byd-eang gynyddu. Bydd hyn yn gam pwysig yn y gwaith o ddarganfod ffynonellau egni newydd na fydd yn llygru'r amgylchfyd ymhellach drwy gynhyrchu mwy o ddeuocsid carbon.
Rhinwedd fawr Miscanthus yw ei fod yn gnwd gwydn iawn sy'n tyfu'n gyflym, ond ar yr un pryd mae'n ddibynadwy iawn o ran cynhyrchu cynhaeaf llwyddiannus. Gall y coedyn dyfu i uchder o bedwar metr o fewn blwyddyn mewn amrywiaeth o hinsoddau gwahanol. Yn Taiwan daethpwyd o hyd i enghreifftiau o'r gwair hwn yn tyfu rhyw 1800 metr uwchlaw'r môr. Mae'r coedyn yn tyfu o wreiddiau sy'n gynhyrchiol am gyfnodau o ddeg i ddeuddeng mlynedd ac felly ychydig o waith aredig sydd ei angen. Ychydig iawn o angen gwrtaith sydd ar y planhigyn hefyd - y cyfan yn llesol i'r amgylchfyd.
Pwy a ŵyr - cyn bo hir fe all llethrau llwm Pumlumon fod yn frith o blanhigfeydd Miscanthus a'r cyfan yn fodd i ysgafnu'r difrod sy'n digwydd ar hyn o bryd i'r amgylchfyd wrth inni losgi deunydd carbon. Gallai hyn fod yn ffordd arall i ffermwyr lleol arallgyfeirio wrth i'r hen ddulliau o amaethu brofi'n amhroffidiol. DI
|