Yn ystod y Sioe yn Llanelwedd fis Gorffennaf
diwethaf, lansiodd Elin Jones, y Gweinidog
dros Faterion Gwledig, brosiect o'r enw
Pysgota Gwyllt Cymru - prosiect a fyddai yn
helpu'r diwydiant ymwelwyr yng Nghymru.
Arweinir y prosiect gan Asiantaeth yr
Amgylchedd Cymru a chaiff ei ran-ariannu
gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop
trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae'n
rhan o brosiect strategol Cyngor Cefn Gwlad
Cymru 'Cymunedau a Natur'.
Nod y prosiect yw hyrwyddo pysgodfeydd
Cymru gan wella cynefin a gwella cyfleoedd
mynediad - gan gynnwys yr anabl, yr ifanc
a hefyd yr henoed sy'n aml yn ei chael yn
anodd i gyrraedd yr ardaloedd lle ceir yn aml
y pysgod gorau.
Daw nifer dda o ymwelwyr
i Gymru, yn enwedig ym mis Ebrill a mis
Mai ar gyfer pysgota brithyll, Mehefin a
Gorffennaf ar gyfer pysgota sewin a mis Medi
a mis Hydref ar gyfer pysgota eog.
Yn ystod y mis clywodd aelodau
Cymdeithas Pysgota Aberystwyth yn eu
cinio blynyddol gan Mark Sedgwick,Capel
Dewi fod y cynllun a baratowyd ganddo
ef a dau aelod arall o ddalgylch y Tincer
(Alistair Dryburgh, Capel Bangor a Mike
Legget, Dolau) ar gyfer cais i Bysgota Gwyllt
Cymru ar gyfer gwella rhan o'r Afon Rheidol
wedi bod yn llwyddiannus.
Bydd y grant
yn tua £40,000 - a bydd yr arian yn cael ei
ddefnyddio yn ofalus i wella cynefinoedd
pysgod a gwella mynediad mewn lleoliadau ar
hyd y Rheidol.
Credai Alistair y byddai yr arian yn
gymorth i newid yr afon i'r hyn oedd hi yn
"yr hen ddyddiau da". A bydd Mike Legget,
sy'n edrych ar ôl gwefan y Clwb yn cofnodi
y gwaith ar y wefan. Diolchodd Cadeirydd
Cymdeithas Pysgota Aberystwyth - Charles
Webb - yn gynnes i'r tri a llongyfarchodd
hwy ar eu llwyddiant yn sicrhau grant o'r
fath. Roedd yn rhagweld y byddai'r gronfa o
fudd i economi yr ardal.
Dywedodd Mark Sedgewick iddo ef a'i
dîm osod i'w hunan dasg heriol iawn ac
roedd yn falch i'w cynllun datblygu manwl
a chynhwysfawr gael ei dderbyn.
Roedd yr Afon Rheidol yn afon ragorol ac mae'n
boblogaidd gyda thrigolion lleol ac ymwelwyr.
Mae'r ffaith i'r diweddar Malcolm Edwards
ddal mwy na 50 o sewin bwysai dros 10 pwys
yn dangos cystal afon yw'r Rheidol ar gyfer
pysgotwyr.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |