Rhaid bod ffigyrau gwylio Fferm
Ffactor ar deledu'r fro, wedi
neidio i fyny pan gyrhaeddodd
Cefin Evans Rhiwarthen Isaf
y brig, (Cefin Cwmwythig fel
yr adnabyddir) yn un o dri
ymgeisydd yn y prawf terfynol
i ennill y teitl Ffermwr Gorau
Cymru.
Dechreuwyd y daith yn Sioe
Frenhinol Cymru yn Llanelwedd
ble y cynhaliwyd cyfweliadau
ar gyfer yr holl ymgeiswyr.
Dewiswyd deg ohonynt i gwrdd
yng Nglynllifon, Caernarfon
ym mis Awst, i ddechrau ar y
gwahanol dasgau o wythnos i
wythnos. Y beirniaid oedd yr
Athro Wynne Jones o Goleg
Harper Adams, a'r enwog Mr Dai
Jones Llanilar, pryd yr aseswyd a
marciwyd pob unigolyn ar ôl pob
tasg.
Roedd y tasgau yn amrywiol
- cael mochyn i mewn i'w gwt,
ateb cwestiynau yn yr ysgubor,
cydweithio mewn grwpiau i
hongian gât, gyrru tractor, torri
cig oen, llifio coed, dangos dawn
marchnata, hel a didoli defaid,
adnabod y bridiau, cneifio, dôsio
gwartheg ac aredig gyda cheffylau
i enwi rhai ohonynt.
Roedd yr ymgeiswyr a
ddewisiwyd o wahanol oedrannau,
yn fechgyn a merched.
Amlygwyd
y gwahaniaeth rhyngddynt
o wythnos i wythnos wrth
iddynt gwblhau y tasgau, pryd y
galluogwyd y beirniaid i ddewis
pa gystadleuydd oedd i roi
allweddi yr ISUZU (cerbyd 4x4 -
gwobr yr enillydd) yn ôl, a gadael
Fferm Ffactor am byth! (chwedl
Daloni Metcalfe)
Doedd neb ohonynt am fod
allan yr wythnos gyntaf, a
chawsant syrpreis pan ddywedwyd
wrthynt fod pawb yn saff yr
wythnos hynny.
Aeth yr wythnosau a'r tasgau
yn eu blaen, a Cefin yn dal yn y
râs. Teimlwyd fod tasg y cynllun
busness wedi bod yn anodd iawn.
Er i'r tri oedd ar ôl weithio yn
dda gyda'i gilydd, roedd gaddynt
dair barn wahanol a buont yn
anghytuno am oriau maith.
Bu
yn dipyn o straen, ond roedd
yr arbenigwyr wedi eu plesio.
Penderfynwyd fod y tri i fynd
ymlaen i'r Cynulliad am y
dasg olaf, i annerch Elin Jones
Gweinidog Materion Gwledig.
Gwnaeth y tri yn rhagorol iawn,
ond dim ond un ISUZU oedd, ac
un enillydd.
Aled Rees o ardal Aberteifi oedd
hwnnw, Enillydd Fferm Ffactor
2009.
Ac yn glos wrth ei sawdl, ein
Cefin ni! Perfformiad gwych Cef a
llongyfarchiadau mawr i ti.
Dywedodd Cefin yn ei
orchfygiad, fod Aled yn haeddu y
fuddugoliaeth, chwarae teg iddo.
Dywedodd hefyd fod y cyfan
wedi bod yn brofiad anhygoel,
roedd pawb wedi dysgu llawer,
wedi cael llawer o sbort ac wedi
gwneud ffrindiau newydd.
Bu y rhaglen yn addysgiadol
i ninnau y gwylwyr hefyd.
Dysgasom fod raid i ffermwr droi
ei law at lawer o dasgau, i fod yn
fecanic yn ogystal a milfeddyg.
Un o'r pethau doniol
ddywedodd Cefin yn ystod y
rhaglen, pan gafodd ychydig o
anhawster adnabod bridiau y
defaid oedd: O ble death rhain, o'r
lleuad?
Pob dymuniad da i Cefin Evans
a' i deulu yn y dyfodol, a diolch
am ein diddori am lawer wythnos
ar ddiwedd 2009.