Braf oedd cael darllen yn y golofn
hon y mis diwethaf am helyntion fy
hen ffrind, Garmon Ceiro, draw yn
Llydaw.
Magwyd y ddau ohonom
ym mhentre Dolau, ond erbyn hyn
mae e tipyn bellach o gartre.
Yn
wir, 'dwi ddim yn rhy siwr pa mor
gymwys ydw i ar gyfer y golofn
yma mwyach, o ystyried 'mod i
wedi cyrraedd mor bell i ffwrdd
o fro'r Tincer â Stryd y Farchnad,
Aberystwyth!
Cymeraf bod chi darllenwyr yn
weddol gyfarwydd a'r dref honno...
Tebyg felly y fydde'r cyfnod cyn imi
ddychwelyd i Geredigion o fwy o
diddordeb ichi.
Er nad oedd astudio
yn Llundain yr un fath a chyfnod
tramor, roedd hi'n tipyn o newid
byd i symud o bentre o chwedeg i
ddinas o chwe miliwn.
'Doedd hi
ddim fel symud i Loegr, chwaith.
Wedi'r profi ad o astudio MA yn
Efrog, dwi'n argyhoeddedig mai un
o ddinasoedd rhyngwladol y byd yw
Llundain, ac nid dinas Seisnig.
Mae'n
bosib iawn mai dyna'r rheswm imi
fwynhau cymaint! Yn ystod fy ail
fl wyddyn yn y brifysgol, cefais i'r
cyfl e i astudio dramor.
O safbwynt
fy ffrindiau, roedd fy newis o Wlad
Pŵyl yn un od, a rhaid cyfaddef
imi gael ambell bwl o ansicrwydd
wrth feddwl am y delweddau llwm
oedd yn gysylltiedig â Dwyrain
Ewrop.
Fodd bynnag, bu imi
dreulio wyth mis anhygoel yn un
o ddinasoedd perta'r byd. Roedd
cerdded strydoedd hen dre Krakow
fel cerdded nôl i'r Canol Oesoedd.
Rhan o'i chwedloniaeth yw'r hanes
am Gadfridog Almaenig a gafodd
ei orchymyn i ddymchwel y ddinas
wrth i'r Natsiaid encilio o fygythiad
y Fyddin Goch, ar ddiwedd yr Ail
Ryfel Byd.
Llanwyd y dre gyda
deinameit, ond nid oedd ganddo'r
ewyllys i ddinistrio pensaernïaeth
o'r fath brydferthwch.
Mae yna
nifer o ddinasoedd trawiadol eraill,
a thirlun prydferth, sy'n perthyn i'r
wlad honno ac yn destun balchder
i'r Pwyliaid - gwladgarwyr i'r carn
yn fy mhrofiad i.
Tybiaf mae'r
diweithdra a dinistr cymdeithasol
a achoswyd gan y trawsnewidiad i
economi cyfalafol oedd y rheswm
pennaf i gannoedd o fi loedd heidio
o 'na, yn hytrach nag unrhyw
awydd i adael eu Mamwlad.
Profiad gwych arall oedd fy
mlwyddyn i ym Madrid, lle bues i'n
dysgu Saesneg tra'n astudio Sbaeneg.
Mae fel petai'r ddinas honno
yn dal i ddathlu ei rhyddid ar ôl
unbeniaeth Franco, er iddo farw
dros drideg o fl ynyddoedd yn ôl.
Gloddesta tan yr hwyr a chyfeddach
tan y bore - ond trwy bori ar
tapas mae nhw'n gallu mwynhau
tan y bore heb achosi anrhefn a
chwydu pobman!
Agoriad llygad
arall oedd darganfod mwy am
ddiwylliannau gwahanol Sbaen.
Er
fod gen i ryw syniad annelwig am
y cenhedloedd gwahanol fel Gwlad
y Basg a Chatalonia (yn bennaf o
weld clybiau pêl-droed Bilbao, Real
Sociedad a Barcelona ar raglen
Sgorio!), dim ond wedi cyfnod
yno y sylweddolais i faint sydd
gennym ni'r Cymru yn gyffredin
â'r gwledydd hynny (heblaw
arwyddion ffordd dwyieithog).
Fel
pob Cymro arall dramor, roedd e
wastad yn codi fy ngwrychyn pan
fydde tramorwyr yn fy ngalw i'n
Sais, neu'n hollol anwybodus ynglÅ·n
â Chymru, ond efallai y byddai'n
gwneud lles i ni ddysgu rhywfaint
am ddiwylliannau tebyg!
Roedd fy mlwyddyn yn Efrog yn
bleserus iawn ar y cyfan - er imi
ddod i'r casgliad fod trefi plwyfol
Seisnig mor gul eu meddyliau
ag unrhyw fan arall!
Digon yw
dweud mai un o fy hoff atgofion
o'r fl wyddyn honno oedd gweld
Gavin Henson yn hollti'r pyst i
drechu Lloegr o 10 i 9. Ond fy
amser tramor yn hytrach na fan
yna a gafodd fwyaf o ddylanwad
ar fy mhenderfyniad i astudio
doethuriaeth yn ôl yn Aberystwyth.
Roedd byw mewn gwledydd eraill,
gwerthfawrogi eu traddodiadau a'u
diwylliannau, eu tirlun a'u modd
o fyw, yn brofi ad a berodd imi
edrych ar fy Mamwlad a milltir
sgwâr o'r newydd - a chymryd
mwy o ddiddordeb a balchder yn
yr hyn sy'n werthfawr ac unigryw
amdanynt. Cymry gore, Cymry
alltud, efallai; ond dwi'n hapus fy
mod i (bron a bod) gartre.
Mae Huw newydd gwblhau
ei ddoethuriaeth - 'Cyfi awnder
byd-eang' gan ganolbwyntio ar
waith yr athronydd John Rawls,
ac yn disgwyl y canlyniad. Mae
misoedd prysur o'i flaen gan y
bydd yn priodi yn Awst gyda
Rhiannon o Gwm Gwendraeth ac
mae hefyd yn chwilio am waith
gan obeithio dechrau gyrfa yn y
byd academaidd. Dymuniadau
gorau iddo.