Daeth Wyn Evans i fyw i Benrhyn-coch pan oedd tuablwydd oed ym Mawrth 1948
gyda'i rieni, Y Parchg D. Eifion
a Mrs Iris Evans pan ddaeth ei
dad yn reithor Eglwys Sant Ioan.
Buont fel teulu yn rhan o'r ardal
hyd 1957 pan benodwyd ei dad
yn reithor Eglwys Sant Mihangel,
Aberystwyth.
Mae nifer o'r ardalwyr yn ei
gofio yn dda - rhai fel Llinos
Evans, Dolwerdd, Dôl-y-bont a
rannai ddesg gydag ef yn yr ysgol;
cyd-ddisgyblion eraill oedd Elsie
Morgan a Jack Jones. Athrawon yr
ysgol ar y pryd oedd y prifathro
Rhys Jones a Mrs Gwladys
Edwards - sydd erbyn hyn yn 98
oed ac yn byw yn Aberystwyth.
Maent i gyd yn cofio mab y ficer
fel un direidus a hoffus; yn ôl
ei gyn-athrawes roedd yn un a
weithiai yn gyflym a chanddo gof
da am bopeth a meddwl chwim.
Byddai Mrs Edwards yn falch o
gael ail gyfarfod ag ef os daw i
Benrhyn-coch neu Aberystwyth
yn rhinwedd ei swydd.
Cofia Agnes Morgan achlysur
pan oedd criw o blant yn chwarae
y tu allan i dy yn y pentref a'r
perchennog yn cael gair â hwy. Fe
atebodd Wyn Evans - Wyddoch
chi pwy ydw i? Fi yw mab y ficer
ac un diwrnod fe fyddaf yn Esgob.
Daeth ei broffwydoliaeth yn wir!
Dymuniadau gorau iddo yn
y swydd oddi wth bawb ym
Mhenrhyn-coch.
|