Aed ymlaen i gystadlu gyda'r ddwy ddrama yr oedd hi wedi eu dewis ac wedi dechrau eu cynhyrchu cyn ei marwolaeth. Bu'r cwmni yn llwyddiannus mewn amal i ŵyl. Cafodd y ddrama "Gwisga dy ddillad, Clarisse!" yr ail wobr yng ngŵyl ddrama'r Groeslon ym mis Ebrill, yna y wobr gyntaf yng Ngŵyl Corwen ddechrau Mai. Yno hefyd y cipiodd Siôn Pennant wobr y prif actor am ei bortread o Ventroux yn y ddrama. Cafodd y ddrama ei dewis i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe a dod yn ôl gyda'r drydedd wobr.
Yng Nghorwen hefyd y cipiodd Catrin Jenkins wobr y brif actores dan bump ar hugain am ei phortread o Dwynwen yn y ddrama "(Ôl traed yn y tywod". Bu'r ddrama yma hefyd yn llwyddiannus yng Ngŵyl ddrama Pontrhydfendigaid gan gael y drydedd wobr.
Cafodd y cwmni wahoddiad i dalu teyrngcd i Buddug yn yr Eisteddfod
Genedlaethol eleni. Arweiniwyd y deyrnged gan Y Parch W. J. Edwards a chymerwyd rhan gan Aled LlÅ·r a Rhian Evans (aelodau o'r cwmni), ac hefyd Osian Edwards o Aberllefenni (un o ddisgyblion Buddug ym myd y ddrama). Roedd pob sedd yn y Theatr Fach yn llawn.
Os bu i chi fethu a dod i'r Eisteddfod, bydd cyfle i weld y ddrama a'r deyrnged yn Neuadd Rhydypennau Nos Wener Medi 29ain.
Os oes rhywun ag amser ar eu dwylo ac sydd â diddordeb ym myd y ddrama, rydym yn chwilio am gynhyrchydd i gymryd gofal o'r cwmni. Gellir cysylltu â unrhyw un o'r cwmni neu ffonio Bet Evans (01970) 828384.
Buddug James: Colled fawr i fyd y ddrama
|