Do, fe fues i draw yn ninasoedd Beijing a Shenyang am ddeng niwrnod. Roeddwn i draw ar ran y Brifysgol, yn creu cysylltiadau addysgol gydag adrannau prifysgol sy'n dysgu yn yr un maes â mi, sef Astudiaethau Ffilm a Theledu. Gyda mi roedd aelod o staff Adran y Gyfraith ac aelod o'r Ysgol Addysg, ill dau yn datblygu gwahanol gysylltiadau. Rown i'n hynod falch fod cyswllt Prifysgol Aberystwyth yn China, Xuezhe Piao, gyda ni - prin iawn oedd Saesneg y rheini rown i'n ymweld â nhw a phrinach fyth oedd ein gallu ni i gyfathrebu yn eu hiaith nhw! Dyma ran o'r dyddiadur: 14 ac 15 Tachwedd Llwyddo i godi am 5.30 y bore ar gyfer y daith i Fanceinion. Y pedwar ohonom fel cyrff marw yn y tacsi ar y ffordd fyny. Deffro rhywfaint ar ôl cyrraedd diolch i lond bwceidiau o goffi. Y lleill yn hedfan am 11.00 a finnau ar fy mhen fy hunan (diolch i ryw broblem gyda'r tocynnau!) Dim ond hyn a hyn o weithiau fedr rhywun gerdded o amgylch maes awyr. A 'na beth arall... mae'r addurniadau Nadolig ymhobman a hithau'n ganol Tachwedd - nefi wen! O'r diwedd, hedfan am 4.00. Siwrne braf i Copenhagen a rhuthro i newid awyren. Cyrraedd giât 33 jyst mewn pryd! Awyren braf a siwrne gyfforddus iawn (diolch i ddosbarth busnes cwmni Scandinavian Airways). Mwynhau'r siwrne 10 awr mewn gwirionedd. Rhywle dros Rwsia newidiodd y dyddiad ond dwi ddim yn siŵr ymhle. Glanio ym maes awyr Beijing am 11.30 y bore. Diolch byth, roedd y lleill yn aros amdana i ochr draw. I'r gwesty cael cawod ac allan i'r 'Ddinas Waharddedig'. Am le gwych! Adeiladwyd y rhan fwyaf o'r ddinas yn y bymthegfed ganrif a gwaharddwyd y werin rhag mynd mewn i'r lle. I bensaernïaeth yn anhygoel, ac yn well fyth oherwydd y tywydd braf, oer. Profiad rhyfedd, cofiwch. Pawb yn syllu arnom ni, oherwydd prin iawn yw'r ymwelwyr o'r Gorllewin o hyd. O fan 'na i Sgwâr Tiannamen - rhyfeddol. Dyw geiriau ddim yn gallu cyfleu'r teimlad o sefyll ar ganol sgwâr fwya'r byd, a hynny lle digwyddodd un o'r protestiadau democrataidd mwyaf trawiadol yn hanes dyn. Cyngres y Bobl, Y gof -golofn rhyfel, llun anferth o Mao - gwledd i'r llygaid. Swper mewn lle bwyta Tseineaidd 'go iawn' - dim byd tebyg i be' gewch chi yng Nghymru! Yn llwyddo i ddefnyddio'r 'chopsticks' hefyd! Dwi ddim yn siŵr am y gwin reis, cofiwch - 56% alcohol... Rown i wedi blino'n lân ar ôl dychwelyd i'r gwesty. Yfory (dydd Sul) 'dan ni'n mynd i weld Wal Fawr China. 16 Tachwedd Cysgu'n dda neithiwr! Ar ôl brecwast, bant i'r Wal yn Badoling. Wel, am le hollol anhygoel. Am un peth, roedd cannoedd ar gannoedd o bobl yno. Adeiladwyd y Wal yr ydym yn gyfarwydd â hi yn ystod y cyfnod Ming (1368-1644). Mae'n ymestyn trwy saith rhanbarth gogleddol China ac yn rhedeg yn ddi-dor am tua 6000 cilomedr Am orchest! Dechrau cerdded rhywfaint ond yn fuan yn cael bach o ben-dro oherwydd yr uchder (dwi ddim yn dda gydag uchderau) a'r awyr denau. Pwy fase'n meddwl bore Sul a minnau'n cerdded Wal Fawr China yn lle chwarae'r organ ~yn Noddfa! Yr ymweliad drosodd yn rhy gyflym oherwydd 'dan ni'n gorfod hedfan i Shenyang ar gyfer ein cyfarfodydd cyntaf fory. Y peth cyntaf i'n nharo i am y ddinas hon yw'r ffaith nad oes neb yn parchu rheolau'r ffordd fawr! Iesgob - wna i ddim cwyno am yrwyr tacsi Aberystwyth byth eto. A'r bobl. . .dwi erioed wedi gweld cymaint o bobl yn fy mywyd. Mae'n rhaid fod y broblem gor-boblogi yn boen meddwl i'r llywodraeth yma. Cyrraedd y gwesty mewn un darn a gwylio'r gêm rygbi Lloegr-Ffrainc. Ffrainc yn colli 24-7. Allan am fwyd mewn gwesty Korealdd yn y nos (dydyn ni ddim yn bell o ogledd Korea fan hyn). Bwyd sbeislyd a diddorol. Jamie Medhurst
|