Ffaith syfrdanol arall oedd bod y perchennog Ben y Felin neu Benjamin W. Benjamin (a rhoi ei enw llawn iddo) yn cadw 19 o geffylau gwedd. Byddent yn torri coed mewn gelltydd a'u llusgo ar wageni priodol i'r gwaith i'r felin, neu fel y gwelir yn y llun, eu dadlwytho yn stesion Bow Street, lle byddai craen anferth yn eu codi i wageni'r trên. Weithiau byddent yn cael eu cludo ar y trên i'r Trallwm (Sir Drefaldwyn), i felinau Boys and Boden - hen gwmni sy'n dal i weithredu fel masnachwyr coed. Disgrifiai Ben y Felin ei hun fel B.W. Benjamin, Sawyer, Carrier and Miller, Ruel Saw Mills, Bow Street, R.S.O. Melin Ruel erbyn heddiw yw Glyn Rhosyn, sydd wrth ymyl Capel Noddfa. Nid oes sicrwydd erbyn hyn pwy yw pob un o'r dynion a'r plant yn llun a dynnwyd ym 1891. Dywedir mai Charlie Bailey yw'r gwr cyntaf ar y chwith. Trigai yn un o'r tai gyferbyn â'r Black Lion (Welsh Black heddiw). Y gwr barfog gyda ffon yw David Hughes (Dei Hughes, y Crossing, Llandre), tad-cu Eirlys Owen, Maesafallen. Nesaf ato i'r chwith mae Lewis Rees y Stationmaster, sef tad-cu Emlyn Rees, Bodowen. Bu ei fab, tad Emlyn sef David Rees hefyd yn stationmaster yn Bow Street. Y gwr â throwsys golau wrth grwper y ceffyl yw'r bos ei hun sef Ben y Felin, tad-cu Derick Horwood, Tregerddan a hen dad-cu i nifer fawr o fechgyn a merched yn ardal Bow Street. Mae pedwar o fechgyn ifanc ar y boncyff, yr un heb gapan ar ei ben yw Alser Lewis, tad Trefor Lewis, Tregerddan. Credir mai Griff Hughes yw'r gwr â'i draed ar yr acsl, trigai ef yn Glas Fryn, Penrhiw, a bu'n cadw gôl i nifer o dîmau pêl-droed o safon yn y sowth ar un adeg. Tybed a oes rhywun allan yna a all lanw'r bylchau i ni? Claddwyd Ben y Felin ym mynwent Hepzibah ar lôn Tyrabbi, Clarach. Roedd am gael ei gladdu wrth y wal medde fe, fel y gallai estyn ei fraich allan i gydio mewn peint! Cafodd ei ddymuniad - beth bynnag am dorri'r syched. Sylwch ar dy'r orsaf a'r ystafell ddisgwyl. Maent wedi mynd erbyn hyn, a stordy enfawr yn eu Ile. Ond mae'r coed yn dal i gael eu cludo yno. Vernon Jones
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |