Mynychodd nifer o drigolion
ardal y Tincer arddangosfa gyntaf
broffesiynol artist ifanc o'r fro
a leolwyd yng Nghanolfan
Arad Goch, Aberystwyth ganol
fi s Tachwedd.
Effaith gwresogi
byd-eang oedd thema ganolig
arddangosfa "Etifeddiaeth Gudd"
a luniwyd gan Jennifer Hughes,
Bodhywel, Bow Street, merch
Dewi a Nerys Hughes.
Cafwyd
ymateb tra ffafriol a chadarnhaol
i'w gwaith arloesol.
Ym mis Gorffennaf eleni
graddiodd Jenni, yng Ngholeg
Gelf Gorllewin Cymru yng
Nghaerfyrddin wedi dilyn cwrs
yn y Celfyddydau Cain. Mae'n
gyn-ddisgybl Ysgolion Dwyieithog
Y Dderwen, (Caerfyrddin),
Bro Myrddin a Phenweddig
ac yn gyn-fyfyrwraig o Goleg
Ceredigion.
Gyda'i bryd ar yrfa fel artist,
treuliodd Jenni y tri mis o
Awst hyd Dachwedd 2008 yng
Nghanolfan Arad Goch gan
ddefnyddio gofod mae'r Cwmni
Theatr mewn Addysg yn
gobeithio ei ddatblygu fel cyfl e i
artistiaid ifainc feithrin eu doniau
a chreu cyweithiau traws gyfrwng
celfyddydol.
Amlygodd yr arddangosfa y
defnydd o dechnegau arloesol
ac arbrofol aml-gyfrwng i greu
gweithiau trawiadol a lliwgar
iawn yn creu delweddau pwerus
o effaith dynolryw ar yr
amgylchedd.
Dywed Jenni: "Mae dinistr yr
amgylchedd a dirywiad ein planed
o gonsyrn mawr i mi. Rwyf wedi
cynhyrchu cyfres o dirluniau sy'n
cynrychioli anrheolaeth diwydiant
a chymdeithas gan awgrymu'r
canlyniad posibl i'n planed.
Fel arlunydd cain, rwyf
â diddordeb yn y broses a
phriodweddau natur paent a
chyfryngau eraill ac fel y gellir
eu defnyddio mewn modd sy'n
ymestyn ac yn gallu cyfathrebu'r
is destun gwaelodol.
Rwyf wedi
defnyddio cyfuniad o gyfryngau
er mwyn creu delweddau sy'n
weledol hudolus ond eto'n dangos
arwyddion dirywiad.
Gosodwyd haenau o inc a
phaentiau sglein a mat i awgrymu
tirwedd oddi tano sy'n ceulo a
dirywio - nas gwelir a nas ystyrir.
Mae pob cynfas wedi'i drin gyda
chemegyn er mwyn atgynhyrchu
proses dirywiad y Ddaear."
Yn ychwanegol defnyddiwyd
perfformiad a ffi lm i atgyfnerthu'r
delweddau.
Roedd Jenni'n falch o'r cyfl e i
greu ei harddangosfa gyntaf yn
Aberystwyth a gwerthfawrogodd
gefnogaeth cyfeillion a chydnabod
a hefyd gwerthfawrogwyd y cyfl e
o fod yr artist cyntaf i fanteisio ar
gyfl eusterau Cwmni Arad Goch.
Bellach mae Jenni wedi troi
am yr Iwerddon am gyfnod a
dymunir yn dda iddi gyda'i gyrfa.
Os na chawsoch gyfl e i
fynychu'r arddangosfa mae cyfl e
i chwi weld ei gwaith ym mwytai
"Treehouse" yn Stryd y Popty a
hefyd yn "Ground Coffee" yn
Stryd Cambrian, (ar draws y ffordd
i Siop Charlie), Aberystwyth.