Ces i fy ngeni a fy magu yng Nghanada. Pan ro'n i'n blentyn, roedd rhaid i fi ddysgu Ffrangeg, er fy mod i'n byw yng Ngorllewin Canada ble does neb yn siarad Ffrangeg. Felly trwy gydol fy addysg i, ro'n i'n protestio yn erbyn dysgu Ffrangeg. Ni chlywais erioed Ffrangeg ond ar y radio.
Er gwaethaf popeth, hoffais i'r syniad o ddysgu iaith arall. Cafodd fy mam ei geni yn yr Iseldiroedd. Symudodd hi i Ganada pan roedd hi'n naw oed ac wrth gwrs roedd hi'n siarad Iseldireg. Ro'n i'n credu bod hyn yn grêt pan ro'n i'n blentyn.
Ar ôl i fi orffen fy addysg uwchradd, gwnes i radd mewn cerddoriaeth. Ro'n i'n astudio Ffrangeg hefyd ar yr un pryd. Yn 1992, symudais i i Lundain (yn Ontario!) ble treuliais i dair blynedd yn gwneud gradd yn y gyfraith. Eto, astudiais i Ffrangeg pan ro'n i yn y brifysgol yno.
Ar ôl i fi raddio yn 1995, symudais i a fy ngwraig (Toni) i Loegr gyda ein mab cyntaf ni, Nicholas. Gwnaeth Toni radd (Doethur mewn Athroniaeth) mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol yng Nghaergrawnt. Ar yr un pryd, ces i fy hyfforddi fel cyfrifydd siartredig. Cafodd ein ail fab ei eni yn mis Rhagfyr 1999.
Gweithiais i i Ernst & Young LLP yn yr adran dreth gorfforaethol rhwng 2001 a mis Mehefin diwetha. Ond symudon ni i Bow Street yn mis Rhagfyr 2001, ar ôl i fy ngwraig gael ei chyflogi yn y brifysgol yn Aberystwyth yn yr adran Wleidyddiaeth Ryngwladol.
Cyn bo hir ro'n i'n gwybod fy mod i eisiau dysgu siarad Cymraeg. Yn anffoddus, achos ro'n i'n gweithio yng Nghaergrawnt ac yn Birmingham (rhwng 2001 a 2004), dysgais i ddim ond ychydig eiriau Cymraeg ar arwyddion ffordd ac ar fy nhâp i "Instant Welsh"!
Yr haf diwetha, cymrais amser o'r gwaith a gwnes i gwrs dwys WLPAN yn mis Awst. Yn mis Ionawr, dechreuais i swydd newydd yn yr adran gyllid yn yr Ymddiriedolaeth GIG leol. Drws nesa i ysbyty Bron-glais y mae'r swydd dileu hon swyddfa.
Wel 'te, oedd dysgu Ffrangeg yn wastraff llwyr o amser? Mae dysgu Cymraeg yn waith caled iawn, ond dw i'n credu fy mod i'n gallu dysgu'n fwy cyflym ar ôl i fi fod yn dysgu Frangeg. Mae dysgu Cymraeg wedi cyfoethogi fy myd.
Yn Rhagfyr 2004, cenais i ym Mhlygain Penrhyn-coch ac ymunais i â Chôr ABC. Hoffwn i fynd i'r Eisteddfod Genedlaethol eleni am y tro cyntaf. Gobeithio bydda i'n rhugl erbyn hynny!