Erbyn cyrraedd roeddwn yn swp sâl a rhyw wres uchel arnaf ac es i weld meddyg yno a'm cynghorodd i fynd adre, cymryd paracetemol a gorffwys. Y noswaith honno ffoniodd i dy fy ffrind a chyda llais ychydig yn bryderus fe fynnodd fy mod yn mynd yn ôl i'w weld taswn i ddim yn well mhen rhai diwrnodau. Mi roedd newydd glywed am feirws newydd oedd yn lledu o Hong Kong, un oedd yn feirws gwbl ddieithr a newydd.
Erbyn inni gyrraedd yn ôl i Hong Kong roedd yn sioc i ni weld wynebau wedi'u gorchuddio â mwgwd. 'Gwell genni fynd yn sâl â'r feirws na gorfod gwisgo mwgwd, ac edrych fel yna', meddai fy ngwr. Ychydig a wyddai ymhen deng niwmod y byddai ef a'i deulu yn gwisgo mwgwd yr un drwy'r dydd! Roedd sibrydion fod yna ffliw drwg yng Nguangdong, jest dros y ffin i Hong Kong, ers mis Tachwedd, ond sibrydion oedden nhw, ac nid ymddangosodd dim yn y wasg.
Yna, mae'n debyg i feddyg oedd wedi bod yn trin cleifion yno, ac wedi ymweld â Hong Kong, gael ei daro'n wael ei hun, tisian yn lifft y gwesty lle roedd yn aros, a lledaenu'r feirws yn HK a thramor. Yn hwyrach fe'i pasiodd i'r meddygon a'r nyrsus yn yr ysbyty. Dechreuodd ledu, ac a fewn ychydig ddiwrnodau i UDA a Phrydain ymosod ar Iraq, dechreuodd rifau pobl oedd yn diodde a SARS godi o dri y diwrnod, i ddeg, i ugain i fyny ac i fyny. SARS oedd prif benawdau'r newyddion, a'r unig ryddhad o hynny oedd peidio â gorfod dilyn manylion y rhyfel yn Iraq.
Tua'r un pryd dechreuodd Singapore nodi achosion cynta SARS hefyd, ond fe ymatebodd y llywodraeth yn syth, gan fynnu rheolau 'quarantine' llym. Oherwydd hyn, yn siwr, bu rhifau'r rhai a gafodd eu taro'n wael a marw yn llawer is yna nag yn Hang Kong. Nid poblogaeth sydd wedi arfer dilyn rheolau a deddfau i'r fath raddau ydy poblogaeth Hong Kong, ac ymateb 'aros a gweld' oedd gan y llywodraeth yna. Ymhen wythnos dim ond 40% a blant oedd yn mynychu'r ysgolion gan fod y rhieni yn poeni y byddai SARS yn lledu trwy'r ysgolion, felly fe'u caewyd, rhai am yn agos i bum wythnos. Dechreuodd rhai swyddfeydd a chwmniau ganiatau i bobl weithio o'u cartrefi hefyd.
Mae'n cartre ni yn Hong Kong yng nghanol gwyrddni tin a'r ynysaedd, mewn pentref sy'n nythu rhyng llethrau mynydd Phoenix (o gyfieithu'r enw Tsinaeg), mynydd bron mor uchel â'r Wyddfa, a'r môr. Lle gwledig, tawel, ac yno yr aiff Gwenllian a Dwynwen i'r ysgol. Nid lle i boeni yn ormodol am SARS. Ein problem oedd bod rhai tadau a mamau yn teithio i brysurdeb y ddinas bob dydd.
Yn ein hachos ni, bydd Miles, fy ngwr yn mynd i Bolitechnig a'r myfyrwyr yno yn teithio iddi o bob rhan o Hong Kong. Dechreuodd fynd yn hanfodol i wisgo mwgwd (y diferion anweledig wrth disian oedd yn rhannol gyfrifol am ledaenu'r feirws) pan oedd yn mynd i siopa neu deithio ar fysus, a golchi dwylo'n aml, a daeth stop ar gymdeithasu. Y broblem bellach oedd cael gafael ar fwgwd ... roedd y siopau wedi gwerthu ein cyflenwad prin. Cofia i mi fod yn hynod blest â mi fy hun wrth ffeindlo 'hawker' (gwerthwr stryd anghyfreithlon) yn llechu mewn stryd gul a gwerthu masgiau clinigal yn ymddangos fel tase nhw wedi dod yn syth o ryw ysbyty yn China, am grogpris o HK$10 yr tin!
A'r ysgolion wedl cau, a'r sefyllfa'n gwaethygu o ddydd i ddydd, penderfynasom i mi a'r merched ddychwelyd i Gymru, ac i Miles aros. Teithiasom ar awyren KLM o HK i Amsterdam ac yno newid awyren i ddod i Gaerdydd. Can nad oeddwn ar unrhyw gyfri am fod yn gyfrifol am ledu feirws egsotic yng Nghymru, ac yn sicr ddim i'r teulu a chyfeillion yma, penderfynais ar ein 'cwaranteinio' ein hunan mewn gwesty (heb lifft) yn Amsterdam lle doedd yna neb i'n cofleidio, nac i disian yn rhy agos at neb! Pleserau syml oedd ein pleserau y diwrnodau hynny, byw heb fwgwd a byw heb boeni pwy oedd yn eistedd nesa atom ar y bws.
Mae'r sefyllfa erbyn hyn wedi gwella yn Hong Kong a pherygl SARS am y tro wedi pasio, ond beth am China? Does dim rhifau penodedig o gleifion SARS ar gyfer China, a hynny am ei fod mor anodd casglu ystadegau o'r fath mewn gwlad mor anferthol a fawr, a thraddodiad yno a gelu ffeithiau annerbyniol. Nid pawb all fforddio i dalu costau ysbytai a meddygon, ac yng nghefn gwlad nid oes hyd yn oed ysbytai ar gael. A beth sy'n digwydd pan fo SARS yn taro cleifion sydd yn diodde a AIDS (dros 10 miliwn yn China)? Problem HK ydy ei fod yn ffinio â rhan o'r byd nad oes ganddi'r adnoddau i ddelio â SARS. Yn yr achos yma problem China fydd problem Hong Kong.
Erbyn hyn mae'r merched yn hapus ac wedi setlo yma, a'r tro olaf i mi weld Gwenllian yn gwisgo mwgwd oedd tra'n chwarae Twm Siôn Cati yn yr ardd.
Lucy Huws