Ysgol Gerdd Ceredigion yng Nghapel y Morfa, Nos Wener, 31 Mawrth 2006
Dechreuwyd y cyngerdd mewn modd uchelgeisiol iawn gyda dau ddarn digyfeiliant, and profodd y gambl yn llwyddiant, wrth i'r côr osod safon arbennig at weddill y cyngerdd. Roedd purdeb sain y côr, yn enwedig wrth ganu'n unsain, yn ardderchog. Mae Islwyn Evans wedi adeiladu enw da iawn i'r côr dros y blynyddoedd diwethaf hyn ac roedd ei ddylanwad ar y canu yn eglur yn y rheolaeth oedd ganddo dros y sain. Llwyddodd hefyd i asio amrywiaeth eang o aeddfedrwydd lleisiol yn un sain cytun, o'r plant lleiaf i leisiau newydd-doredig y bechgyn hŷn.
Cafwyd y mwyaf o asbri gan y côr wrth ganu 'negro spirituals' fel 'Galw Enw'r Iesu' a 'Fy Fflam Fach i' gyda'r cydbwysedd rhwng y galw a'r ateb, yr unawdydd a'r côr, yn driw i'r arddull. Aeth y
noson i hwyl gyda thair eitem gan y bechgyn hŷn, tair cân sy'n glasuron yn eu meysydd, sef
'Gwin Beaujolais' gan Robat Arwyn, 'Angels' Robbie Williams a 'Delilah' Syr Tom Jones. Roedd hi'n galonogol a braf iawn i weld cystal criw o fechgyn yn amlwg yn mwynhau eu canu ac yn perfformio gyda chymaint o raen, yn enwedig wrth i'r arweinydd ollwng ei faton ac ymuno gyda'r bechgyn.
Prif waith y noson oedd 'Mabinogi', gwaith comisiwn newydd i'r côr gan Mererid Hopwood a Hector MacDonald. Fe'n tywyswyd drwy bedair cainc y Mabinogi gan ddeuddeg cân amrywiol iawn eu harddull, gan bwysleisio bod rhaid i ni gadw cof y genedl yn fyw drwy gofio lle mae gwreiddiau ein diwylliant mewn oes o newid. Roedd amrywiaeth clyfar o ensemblau yn cael eu defnyddio drwy'r darn ar ei hyd, gan arddangos holl gryfderau'r côr a'u gallu i amrywio'r gwead yn
ôl y galw.
Gwnaed defnydd da o'r unawdwyr hefyd i ddod â phrofiad a mwy o aeddfedrwydd lleisiol i rai o'r
caneuon a
chynrychiolwyd ardal y Tincer ymysg y rhain gan lais cyfoethog Pete
Leggett, Dolau. Elin Llwyd oedd y prif unawdydd a chwaraeodd rôl Rhiannon a Branwen yn ystyriol iawn, and rhoddodd ei pherffomiad gorau fel Blodeuwedd gan iddi lwyddo i ddeall y cymeriad i'r dim a mynegi'r holl gymhlethdodau yn ei phersonoliaeth yn y gân sioe gerdd-aidd iawn or un enw.
Roedd cyfeiliant y piano a'r cello yn ddigon syml i heidio tynnu sylw oddi ar yr unawdwyr na'r côr and yn ddigon clyfar i ychwanegu cyffyrddiadau digon effeithiol at y gwaith, er enghraifft cân y drudwy yn y cefndir yn ystod adrodd hanes Branwen a llif tonnau'r môr wrth i Bendigeidfran a'i luoedd deithio ati. Rhoddwyd cyfle i'r plant lleiaf sefyll ar wahan i'r côr yn gerddorol wrth gymryd yr awenau mewn dwy o'r caneuon tuag at ganol y gwaith cyn i'r rhai hŷn lywio at y diwedd, wrth i'r plant iau gymryd hoe haeddiannol fel roedd eu lleisi yn dechrau blino ychydig.
Fe ddaeth y noson i ben gyd holl berfformwyr yn canu'r gân fwyaf cofiadwy yn y gwaith i mi, sef 'Yn Dy Galon Di'.
Cawsom ein hatgoffa mai stori'r Mabinogi yw'r "stori orau i gyd" ond hefyd roedd yna rybudd amserol o bwysigrwydd parhau i ail-adrodd y straeon i gadw o ble daethom er mwyn symud yn hyderus i'r dyfodol.
Erthygl gan Seiriol Hughes
Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i Pete Leggett, sydd yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod, Ceerfyrddin ar gael ei benodi i swydd yn Ysgol Comins-coch - bydd yn dechrau ar ei waith fel athro Blwyddyn 6 fis Medi.