Mae'r Ysgol Gerdd yn sefydliad pwysig a dylanwadol ym mhentref Y Gaiman ym Mhatagonia ac yn ganolbwynt pob math o weithgareddau cerddorol i'r gymdeithas gyfan. Ond gyda'r Ariannin gyfan yn gwingo'n economaidd y dyddiau hyn mae'r ysgol a'i 230 o ddysgwyr hefyd yn teimlo'r wasgfa. Amlwg mewn eisteddfodau Mae myfyrwyr yr ysgol o bob oed, yn blant ac oedolion, ac yn amlwg mewn digwyddiadau fel Eisteddfod Micro-Camwy, Eisteddfod Mini Bethel, Eisteddfod fach Dewi Sant, Eisteddfod Trevelin, Eisteddfod yr Ifanc ac Eisteddfod y Wladfa.
"Wrth ymdrechu i gadw'r iaith 'ar traddodiad Cymreig yn fyw yn Nyffryn Camwy mae gan yr Ysgol bum côr - plant, ifanc, merched, meibion a chymysg - ac mae rhai o'r rhain wedi cael y cyfle yn ystod amser gwell yn y gorffennol i deithio i'r Hen Wlad a dangos ein cariad tuag at Gymru a'i phobol," meddai Mirna Jones o'r ysgol. Angen offerynnau Ar hyn o bryd mae'r ysgol yn wynebu'r her benodol o gasglu U$4.000 i brynu ffidlau, sacso, offerynnau taro a ffliwtiau ac fel y gellid disgwyl dydi hynny ddim yn beth hawdd o ystyried cyflwr economi'r Ariannin y dyddiau hyn. Bydd croeso felly i gyfraniadau o Gymru a gellir trosglwyddo arian yn uniongyrchol at Mirna Iris Jones (dni 12.303.912), Lloyds Bank -Trelew (056), Calle Belgrano, Esquina 9 de Julio, (9100) Trelew, Chubut, Argentina. Os yw unrhyw un yn anfon offeryn dylid ei gyfeirio at: Mirna Iris jones, Escuela de msica de Gaiman, Eugenio tello 384, (9105) Gaiman, Chubut, Argentina. Mae'n bwysyg ysgrifennu yn fawr ar unrhyw barsel y geiriau: "Es material didáctico"
|