Hanesydd yn pwysleisio rhan allweddol Lerpwl yn hanes y Wladfa
Ar brynhawn hyfryd o Fedi 2008 dychwelodd y Mimosa i Lerpwl.
Ac yno yn disgwyl llong gyda'r enwocaf erioed yn hanes Cymru yr oedd Elan Jones.
Yn union fel ag yr oedd ei hen daid, Edwin Cynrig Roberts, yn disgwyl y Mimosa ar draeth unig y Bae Newydd ym Mhatagonia fis Gorffennaf 1865 ag yntau yno i groesawu glaniad y fintai gyntaf o ymfudwyr o Gymru i sefydlu gwladfa yn yr Ariannin.
Wrth gwrs, dim ond model o'r Mimosa wreiddiol a ddadorchuddiwyd gan Elan Jones ddydd Sadwrn Medi 27, 2008, yn Amgueddfa Forwrol Lerpwl - y porthladd yr hwyliodd y Mimosa go iawn ohono ddydd Sul, Mai 28 1865.
Ac fe fydd y model hwnnw yn cael ei arddangos yn yr amgueddfa yn barhaol o hyn allan diolch i weithgarwch Cymdeithas Etifeddiaeth Cymru Glannau Mersi a gomisiynodd y gwaith gan wneuthurwr modelau blaenllaw o Poole, Dorset, Tony Fancy a oedd yno hefyd i weld cynulleidfa o dros 100 o bobl, yn cynnwys aelodau o Gymdeithas Cymru Ariannin, yn rhyfeddu at ei grefftwaith.
Dywedodd Elan, un o Batagonia yn wreiddiol ond sy'n awr y byw yn Lerpwl, ei fod yn un o ddiwrnodau mawr ei bywyd a llongyfarchodd y Gymdeithas Eifeddiaeth a Tony Fancy am eu gwaith.
"Mae'n ddiwrnod arbennig yn fy hanes cael dadorchuddio model o'r llong a gariodd y Cymry cyntaf i'r Wladfa a chan fy mod yn un o blant y Wladfa mae balchder mawr yng fy nghalon," meddai.
Arweiniwyd y gweithgareddau gan gadeirydd y Gymdeithas, Y Parchedig Dr D Ben Rees. Yn bresennol hefyd yr oedd Susan Wilkinson o Toronto Canada, awdur llyfr a gyhoeddwyd am y Mimosa yn 2007 ac yr oedd un o'i hen ewyrthoedd yn feddyg 21 oed ar y llong.
Yn bresennol hefyd yr oedd prif awdurdod presennol Cymru ar hanes Y Wladfa, Elvey MacDonald sydd hefyd, fel Elan Jones, yn un o ddisgynyddion Edwin Cynrig Roberts.
Mewn anerchiad treiddgar olrheiniodd ef y rhan allweddol a fu i Lerpwl yn hanes y Wladfa ym Mhatagonia gan bwysleisio bod llawer iawn mwy i'r cysylltiad hwnnw nag ymadawiad y Mimosa o'r porthladd yn 1865.
"Gellir dweud yn hollol deg mai Lerpwl mewn sawl ystyr ac y anad unman arall oedd y porthladd i'r Wladfa," meddai.
"Ond y gwir trist, wrth gwrs, yw na wŷr y rhan fwyaf o drigolion y ddinas hon ddim oll am ei chysylltiad a hanes cyfoethog y mudiad gwladfaol Cymreig a dyna pam y mae'r weithred a gyflawnwyd y prynhawn yma yn un mor werthfawr a rhaid diolch a llongyfarch Pwyllgor Cymdeithas Etifeddiaeth Cymru Glannau Mersi dan arweiniad penderfynol y Parchedig Dr D Ben Rees am y gamp maen nhw wedi'i chyflawni," meddai.
Dywedodd ei bod "yn deg dweud" mai yn Lerpwl y dechreuwyd o ddifrif ar y gwaith o drefnu gwladychfa ar gyfer y Cymry ymfudol.
"Yn y ddinas hon hefyd y cytunwyd yn derfynol mai Patagonia fyddai'r nod," meddai.
"Yma yn unig y cynhaliwyd trafodaethau ystyrlon gyda chynrychiolwyr llywodraeth yr Ariannin gan osod sylfeini'r cytundeb y byddai Lewis Jones a Love Jones Parry yn ei lofnodi gyda Guillermo Rawson [Gweinidog Gwladol yr Ariannin]," meddai.
Dywedodd hefyd mai aelodau mudiad gwaldychfaol y ddinas hon a orfododd Michael D Jones i symud yn llawer iawn cynt nag a ddymunai i weithredu a sicrhau y byddai'r fintai gyntaf yn gadael pan wnaeth ar y Mimosa.
"Yn ychwanegol, dylid cofio fod nifer o gyn aelodau Pwyllgor Cenedlaethol y Wladychfa yn teithio ar fwrdd y Mimosa a bod mwyafrif aelodau Cyngor y Wladfa, gan gynnwys y llywydd cyntaf Lewis Jones, yr is lywydd Edward Price a'r ail lywydd William Davies yn gyd aelodau o bwyllgor Lerpwl," meddai Mr MacDonald.
Gyda rhan mor allweddol i Lerpwl yn yr hanes dywedodd:
"Mae'n destun llawenydd mawr i mi wybod y caiff y model hardd hwn ei arddangos yn deilwng yn yr amgueddfa ac y gall fod o hyn ymlaen yn gyfrwng i roi cipolwg ar stori y Wladfa i'r miloedd o ymwelwyr a'i gwêl - a phwy a ŵyr ddeffro chwilfrydedd rhywun i ymchwilio i hanes y criw anturus a fentrodd arni i sefydlu gwladfa Gymreig."
Canmolodd y dewis o Elan Jones fel yr un i ddadorchuddio gyda Mr Fancy y model o'r llong:
"Mae'n llawenydd ychwanegol mai Elan Jones un o blant y Wladfa a ddaeth yn un o Gynry Lerpwl ac sydd hefyd yn un o ddisgynyddion Edwin Roberts sydd yn ei dadorchuddio," meddai.
Cymerwyd rhan hefyd gan y Dr Alan Scarth, ceidwad y modelau yn yr Amgueddfa a'r Dr Derek Bruno o'r Archifdy Cenedlaethol yn Llundain.
|