Ymwelwyr o Gymru'n Colli Ffrind - Ionawr 2007
Tybed faint o Gymry sydd wedi cael eu croesawu ym maes awyr Buenos Aires gan Rona Davies?
Hi, â'i gwên gynnes, fyddai'r Gymraes gyntaf i lawer ei chyfarfod ar gyfandir De America.
Bu eraill, dros y blynyddoedd, yn gwneud y gwaith gwerthfawr yma, ond ers tro byd Rona fu wrthi yn cynorthwyo, yn tawelu ofnau ac yn datrys problemau.
Y fath ryddhad oedd ei gweld yno, yn enwedig i'r rhai oedd yn brin eu Sbaeneg.
Wedi'r cyfarfod cyntaf fe wnâi yr hyn yr oedd yr ymwelydd am ei wneud: chwilio am westy, mynd i weld rhyfeddodau'r ddinas, neu aros oriau yn disgwyl yr awyren am y de.
Doedd hi byth yn cwyno ei bod yn brin o amser, doedd hi byth yn rhoi gwybod faint oedd y cyfarfod hwn yn ei gostio mewn amser ac arian, nac yn dannod i neb am faint o'r gloch y bu'n rhaid iddi godi er mwyn cyrraedd mewn pryd i gyfarfod awyren fyddai'n glanio'n anamserol o gynnar.
Na, fe wnai'r cyfan yn siriol a serchus bob tro, fel petai'n ei wneud unwaith mewn oes yn unig!
Llyfrau Cymraeg Ar ôl y wên, yr hyn fyddai'n taro'r ymwelydd oedd ei Chymraeg rhyfeddol. Dyma nhw, yn Gymry Cymraeg, yn cyfarfod Cymraes o Ariannin na fu erioed yng Nghymru ond oedd yn siarad gwell Cymraeg na rhai ohonyn nhw! Sut y gallai hynny fod?
Mae'r ateb, wrth gwrs, yn ei magwraeth cwbl Gymreig yn ardal Bryn Crwn yn Nyffryn Camwy, yn un o deulu mawr Clydfan.
Yno y dysgodd garu llyfrau Cymraeg, y llyfrau fu'n gysur iddi yn ei gwaeledd.
Yn ferch ifanc, aeth oddi yno i'r Ysbyty Prydeinig yn Buenos Aires i ddysgu bod yn nyrs ac yno, yn y Brifddinas, yr arhosodd weddill ei hoes, a dal i nyrsio, ond yn y banc erbyn hynny, nes iddi ymddeol.
Ond Gaiman oedd y cartref o hyd ac yno y deuai bob haf ar ei gwyliau.
Llywio cyfarfodydd Yn Buenos Aires roedd yn un o golofnau'r Gymdeithas Gymraeg ac erys y cof amdani'n llywio'r cyfarfodydd yn dawel urddasol, fel y gwnâi hi bopeth.
Ond nid ceffyl blaen oedd Rona a fyddai hi byth wedi dychmygu y byddai'r geiriau hyn amdani'n ymddangos ar y we!
Gwraig ei chartref a'i ffrindiau oedd hi a bu'r teulu a'r ffrindiau hynny'n eithriadol o driw iddi dros gyfnod maith ei gwaeledd.
Gwerthfawrogai hithau bob ymweliad a galwad ffôn gan geisio ymddangos yn siriol hyd y diwedd.
Cafodd dreulio pythefnos olaf ei hoes yn ei chynefin yn y Gaiman ac yno y claddwyd hi - a'r llu cyfeillion ddaeth i'r gwasanaeth ac i'r fynwent yn dyst o'r cariad a deimlai pawb tuag ati.
Bydd y teulu i gyd, yn chwiorydd ac yn deulu estynedig, yn gweld ei heisiau, a thra byddwn ni, bawb gafodd ei hadnabod, yn llyfu ein briwiau, rydym yn cydymdeimlo ag Alina a Rachel a'r teulu i gyd yn eu colled.
|