Ymweliad: Bydd criw o 25 o ardal Blaenau 'r Cymoedd yn ymweld â Phatagonia ym mis Ebrill gan gychwyn o Ferthyr ar y seithfed gan aros ar y nos Sadwrn, Sul a Llun yn Hotel Golden Tulip Savoy, Buenos Aires.
Dydd Mawrth teithio i Drelew gan aros yn Hotel Tolosa. Dydd Mercher: Teithio ac ymweld â Porth Madryn. Aros yn Hotel Libertador am dair noson. Dydd Sadwrn: Teithio dros y paith i Esquel. Aros pedair noson yn Hotel Tehuelche. Dydd Mercher (19): gadael Esquel am Buenos Aires gan aros yn yr un gwesty ag o'r blaen ar y nos Fercher a nos Iau.
Gall rai hoffai gyfarfod y Cymry hyn gysylltu trwy ebost: Clicio
Eisteddfod Trevelin 2006: Ebrill 28 a 29. Cystadlaethau ar agor i bawb, Y rhaglen ar gael ar y we. Croesewir ffrindiau o'r Gaiman, Trelew, Porth Madryn, Buenos Aires ac ,wrth gwrs, Gymru! Gwefan newydd cyn bo hir! Mwy o wybodaeth Clicio
Gŵyl Dewi yn yr Andes:
Mae wedi bod yn amser prysur iawn yma yn yr Andes gyda chroesawu Clare, yr athrawes o Gymru, yn ôl a dathlu dydd ein nawddsant yn Nhrevelin.
Cynhaliwyd cymanfa ganu nos Sadwrn Mawrth 4 yn nghapel Bethel gyda llond y capel o ganu emynau mewn harmoni.
Yr un noson yn Esquel cynhaliwyd swper yn y ganolfan i ddathlu dydd gŵyl Dewi gyda chyfle i ddysgu mwy am ein nawddsant yn ogystal a llenwi boliau ag empanadas a theisen !
|