Cafodd saith o fyfyrwyr o Batagonia sy'n astudio yng Nghymru eu croesawu gan un o weinidogion y llywodraeth pan oeddan nhw ar ymweliad â'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd.
Dywedodd Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon, fod cymunedau Patagonia yn adlewyrchiad unigryw o le Cymru yn y byd.
"Ac mae'r prosiect iaith," meddai Mr Pugh, yn helpu i feithrin cysylltiadau gwerthfawr iawn sy'n cyfoethogi'r ddwy wlad yn ogystal â datblygu proffil Cymru yn rhyngwladol."
Mae'r saith yn astudio cwrs dwys yn y Gymraeg yn Llanbedr Pont Steffan lle mae o leiaf chwech o ddysgwyr o Batagonia yn cael eu derbyn am ddeufis bob blwyddyn.
Dychwelyd yn diwtoriaid
Yn y gorffennol mae nifer wedi dod yn diwtoriaid y Gymraeg ar ôl dychwelyd adref.
Mae'r cwrs yn Llambed yn rhan o Brosiect yr Iaith Gymraeg ym Mhatagonia - menter unigryw wedi ei chyllido gan y Cynulliad i hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru ym Mhatagonia - ac yn cael ei gefnogi gan Gymdeithas Cymru-Ariannin.
"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r myfyrwyr i Lanbedr Pont Steffan bob blwyddyn ac fel Cymdeithas rydym yn falch o gael talu am eu lle a chostau eraill gyda chyfraniad ariannol o Gronfa Mari a Pryderi ar gyfer Patagonia De America," meddai Ceris Gruffudd, ysgrifennydd Cymdeithas Cymru-Ariannin.
"Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt dros yr wyth wythnos eleni ac rydym yn sicr wedi iddynt ddychwelyd y bydd trigolion Chubut yn elwa ar eu hamser yng Nghymru," ychwanegodd.
Hyrwyddo'r Gymraeg Sefydlwyd y cynllun athrawon Cymraeg ym Mhatagonia yn 1997 dan reolaeth y Cyngor Prydeinig, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd a Chymdeithas Cymru-Ariannin.
Cyn hynny bu nifer o Gymry yn cynnal gwersi yn wirfoddol ym Mhatagonia, rhai fel Cathrin Williams, Gwilym Roberts a Hazel Charles Evans.
Nid oes amheuaeth na fu'r cynllun yn fodd i hyrwyddo'r Gymraeg yn sylweddol yn Y Wladfa gan hyd yn oed godi proffil y Gymraeg ymhlith awdurdodau lleol Chubut a gefnogodd agor yr ysgol ddwyieithog gyntaf yn Nhrelew fis Mawrth 2006.
Meddai Linda Hall, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyngor Prydeinig Cymru:
"Mae'r Cyngor Prydeinig yn hyrwyddo'r iaith Saesneg ledled y byd ond mae hwn yn gyfle unigryw, drwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y Cynulliad, i hyrwyddo'r Gymraeg ar lefel ryngwladol.
"Mae'n adlewyrchu pwrpas y Cyngor Prydeinig wrth iddo feithrin cysylltiadau rhwng y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill sydd o fantais i bawb."
Mae'r cynllun yn cael £105,000 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru rhwng 2006-2009.
Y Myfyrwyr eleni yw: Silvia Williams de Austin, Esquel; Isaías Grandi, Trevelin; Federico Humphreys, Trelew; Valeria Lewis, Trelew; Patricia Ramos, Tir Halen; Mirta Sepúlveda, Gaiman and Ana I. Chiabrando, Trelew.
|