Un o Blant y Paith' yw Geraldine McBurney o'r Gaiman, Patagonia. Ond fel llawer o blant Y Wladfa ym Mhatagonia mae hi'n ymwybodol iawn o'i thras Gymreig - ei hen-daid wedi dod o Gymru a'i mam wedi priodi Cymro. Cymharu Cymru a Phatagonia Ar ail raglen cyfres radio, Plant y Paith, gyda Dafydd Du bu'n sôn am rhai o'r gwahaniaethau rhwng Cymru a Phatagonia. Treuliodd hi ddeunaw mis yng Nghymru, dair blynedd yn ôl - 'roedd hi'n 12 ar y pryd. Mynychodd Ysgol Syr Huw Owen, Caernarfon, ac Ysgol Brynrefail, Llanrug. "Roedd yna wahaniaeth mewn amser ysgol, mynd i'r ysgol erbyn wyth a gorffen tua hanner awr wedi hanner dydd (ym Mhatagonia). "Roedd yr athrawon yn garedig iawn i fi - roeddan nhw'n deall nad oeddwn i'n medru sgrifennu a darllen Cymraeg yn hawdd a rhoi amser i'n helpu i. "Roedd lot o ddiscos ym Mangor a Caernarfon - byddwn i'n mynd efo ffrindiau i Gaernarfon a Bangor. "Does dim felly yn Gaiman ond mae nifer yn Nhrelew (tref fawr rhyw ugain milltir o'r Gaiman). "Mae'r discos yn boblogaidd yno." Yn Y Gaiman ei hun mae pobl ifainc yn mynychu'r dafarn leol ar waelod Stryd Michael D. Jones, Y Dafarn Las, lle mae cerddoriaeth. Yfed yng Nghymru a Phatagonia "Gynta yn Patagonia, rydan ni'n mynd i asado a byddwn ni yno tan tua hanner nos, wedyn mynd i dafarn laeth neu ddisgo - wedyn dod adre tua hanner awr wedi pedwar - chwech, saith, wyth, hwyrach naw hyd yn oed. Mae'n dibynnu. "Llawer hwyrach nag yng Nghymru. "Rydan ni'n yfad diod feddwol fan yma ond ddim fel pobol yng Nghymru. 'Da ni'n yfad tipyn bach yma - ddim yn meddwi. 'Da in mynd allan fwy i gael hwyl efo ffrindia, ddim i yfad ond 'chydig bach. "'Da chi'n mynd allan i yfed, wedyn 'da chi'n syrthio i lawr a gwneud petha allan o'r cyffredin, sy ddim yn beth da," meddai Sgrifennu barddoniaeth Mae Geraldine yn hoff o sgrifennu barddoniaeth ac wedi ennill gwobrau am gerddi ond yn y Sbaeneg, nid y Gymraeg, y bydd hi'n barddoni. Ond mae ei bryd ar fynd i ffwrdd i Buenos Aires i astudio'r gyfraith. "Dwi'n edrych ymlaen at ddarfod yn yr ysgol a mynd i astudio ond dwi'n teimlo bydda i'n colli ffrindia wrth fynd i ffwrdd. "Ar ôl bod yng Nghymru dwi isio mynd yn ôl yno - ond nid i fyw. Mynd am ddau neu dri mis i gael atgofion." Mae Plant y Paith, cyfres o chwech o raglenni, yn cael ei darlledu ar Radio Cymru bob nos Wener am 1810 gydag ail ddarllediad bnawn Sul am 16.00.
|