Yr oedd Archdderwydd Cymru, Dic Jones, yn bresennol mewn cyfarfod o Orsedd Patagfonia Hydref 23 ar drothwy Eisteddfod y Wladfa 2008.
Ar ddiwrnod heulog, braf, heb wynt yn chwythu, daeth nifer ynghyd i wylio'r gweithgareddau a gweld 12 o aelodau newydd yn cael eu derbyn gan gynwnys Dic Jones ei hun.
Y 12 oedd:
Dic Jones ( Dic yr Hendre)
Boris Thomas (Boris ap Dyffryn)
Nora Mary Evans( Meri Fron Deg)
Marcelo Gavirati (Marcelo o´r Bae)
Lidia Barroso de Williams (Martha Maen Gwyn),
Daniel Williams (Daniel ap Salem),
Catrin Angharad Williams(Catrin Geirionydd),
Dyfed Sion (Dyfed o´r dole),
Nadine Laporte (Nadibel Plas Hedd),
Gabriel Restucha (Gabriel y gof),
Rhys Dora de Feldman (Rhys ferch Sabatheg Awstin)
David Williams (Dewi Tan y Castell)
roedd yna llawer o bobl yn bresennol.
Yn 2001 yr ail sefydlwyd Gorsedd y Wladfa gyda'r diweddar Clydwyn ap Aeron Jones yn Llywydd.
Fe'i dilynwyd ef gan ei frawd, Dewi Mefin Jones, a chan Geraint Edmunds eleni.
|