Taith y Côr Ieuenctid i Luis Beltrán Yn 1899, 34 mlynedd ar ôl glaniad y Mimosa, daeth llifogydd mawr i'r Wladfa Gymreig yn Nyffryn Chubut. Dinistriwyd ffermydd a systemau dyfrio a gymerodd flynyddoedd i'w codi. Boddodd anifeiliaid, difethwyd cartrefi a chollodd rhai eu holl eiddo.
Aeth blynyddoedd o lafur diflino yn ofer.
Torrodd rhai eu calonnau a dychwelyd i Gymru. Aeth eraill i chwilio am hinsawdd fwynach yn Nghanada, ond ymfudodd rhai i fan arall ym Mhatagonia ac ar Fedi 24 1902, cyrhaeddodd nifer o Gymry Dyffryn Camwy ynys Choele Choel yn nhalaith Ro Negro.
Ymdrech ddiflino Ar ôl sefydlu eu cartref newydd ar yr ynys yn nhref Luis Beltrán, bu'n rhaid iddynt ymdrechu'n ddiflino unwaith eto i ffrwythloni'r tir, ond gyda chryn ddyfalbarhad, cawsant system ddyfrio lwyddiannus erbyn 1903.
Fodd bynnag, canlyniad eu hymfudiad oedd colli'r Gymraeg a'r diwylliant a oedd bellach wedi bwrw gwreiddiau yn Nyffryn Camwy a Chwm Hyfryd.
O fewn llai na chanrif, roedd pobl wedi anghofio sut i ynganu eu henwau a dywedant enwau fel Hughes a Williams mewn ffordd cwbl Sbaenaidd.
Er hyn, ni wnaethant ymdoddi'n llwyr i blith y Lladinwyr. Roedd rhai o bobl ifanc y dref yn awyddus i wybod mwy am eu hanes a'u gwreiddiau. Ffurfiwyd y Comisin de la Cultura Galesa, ail-gydiwyd yn y cyswllt â Dyffryn Camwy ac, yn 1999, trefnwyd y dathliad cyntaf i goffáu ymfudiad y Cymry i'r ynys.
O hynny ymlaen, bu dathliad ar Fedi 24 bob blwyddyn a'r llynedd bu'r dathliad mwyaf eto yng nghwmni corau a dawnswyr o'r Gaiman, Trelew, Esquel a Threvelin, oherwydd ei bod yn ganmlwyddiant yr ymfudiad.
Ond roedd dathliad 2003 yn bwysig hefyd. Eleni dathlwyd agoriad y ffosydd a fu mor allweddol bwysig i ffyniant ffermydd yr ardal.
Cychwyn yn hwyr Cefais fynd ar daith y côr i Luis Beltrán i gynrychioli Cymdeithas Camwy a hyny'n esgus gwych i gael gweld mwy o Batagonia.
Roedd gen i gwmni da ar y daith hefyd. Ynghyd â'r côr ieuenctid a Mirna yr arweinyddes, roedd y cyfeilyddion Hector Ariel MacDonald a Glory Pugh, a dwy athrawes o Ysgol Gerdd Y Gaiman - Marli Pugh ac Edith MacDonald - i gadw golwg ar y côr.
Cawsant waith hawdd. Nid oedd angen llawer o oruchwyliaeth arnynt roedd eu hymddygiad yn ardderchog drwy'r penwythnos. Er eu bod yn hwyliog ac yn eithaf swnllyd ar brydiau, maent yn bobl ifanc annwyl ac yn syfrdanol o aeddfed o'u cymharu â phobl ifanc yng Nghymru.
Cychwynnodd y bws yn hwyr yn sgil camddealltwriaeth ynglyn â chyflog y gyrrwr. Fel yr aeth y daith yn ei blaen, sylweddolom ei fod yn dipyn o glown (hoffwn ddefnyddio gair cryfach yma!). Rwy'n credu ei fod yn dioddef o'r hyn a eilw'r Sais yn mid-life crisis. Roedd sbectol haul ar ei wyneb hyd yn oed pan fyddai'r haul tu ôl i gwmwl, tunnell o gel ar ei wallt tenau, a siaradai'n ddi-baid am yr holl ferched oedd yn eu ffansio!
Cyrhaeddom am ddau y bore yn hytrach nag 11.00 fel y bwriadwyd ond bu'r daith yn ddigon hwyliog gyda digon o sgwrsio a chanu i gyfeiliant gitâr a charango.
Cawsom groeso cynnes gan Tomás Hughes, trefnydd y dathliad. Roedd yn dipyn iau na'r disgwyl. Pobl ganol oed sy'n trefnu te neu gyngerdd yng Nghymru fel arfer ac anodd yw denu pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau o'r fath ond yn Luis Beltrán mae hi fel arall.
Rhaid i Tomás geisio tynnu pobl hynach i fod yn rhan o'r pwyllgor, gan fod llawer o'r aelodau gwreiddiol wedi mynd i ffwrdd i'r Brifysgol.
Roeddem yn aros mewn llety i fechgyn yr ysgol uwchradd. Gan fod llawer o ddisgyblion yr ysgol yn byw ar ffermydd anghysbell, rhaid iddynt aros yn y llety yn ystod yr wythnos. Roeddwn felly yn cysgu ar bunk bed digon simsan, a Mirna, Marli, Glory ac Edith yn gwmni imi. Ni oedd y bobl gall ac aeddfed ar y daith ond cawsom ddigon o hwyl a theimlwn fel petawn yn Llangrannog eto!
Bisgedi a mate Dydd Sadwrn, bwyto ni frecwast Archentaidd iawn o fisgedi a mate yn ein hystafell. Diod boeth a wneir o lysieuyn y yerba mate yw mate ac mae pawb yn ei yfed o'r un cwpan â bombilla - rhyw fath o 'welltyn' metal, arian.
Roeddwn wedi cael siars i beidio ag ymuno yn y ddefod honno, gan fod pawb yn dioddef o ryw anhwylder neu'i gilydd ar ôl yr Eisteddfod a'r gystadleuaeth gorawl, ond bellach mae'r ddiod chwerw a chorslyd yn ormod o demtasiwn i mi. Dydw i ddim gwaeth beth bynnag!
O gwmpas y dref Wedi hynny, aethom am dro o gwmpas tref Luis Beltrán - tro byr, gan mai ychydig sydd iw weld yn y dref. Yna, cawsom ginio hyfryd o fideos (sbageti) cartref yng nghwmni côr Amuyen a'r grwp dawnsio gwerin, Gwanwyn, o Drelew, a oedd wedi cychwyn ar eu taith am saith y bore hwnnw.
Yn y prynhawn, aethom am wibdaith i dref Choele Choel. Roedd popeth wedi cau gan ei bod yn amser siesta, felly aethom at yr afon y Rio Negro a chael amser braf yn yr awyr iach, yn sgwrsio, yn taflu cerrig i'r afon ac yn mwynhau gwyrddni'r gwanwyn newydd o'n cwmpas.
Amser te Am chwech or gloch, roedd hi'n amser am de yn Ysgol 11 (rhifau ac nid enwau sydd gan ysgolion y llywodraeth). Ar bob bwrdd, roedd baneri bychain - y Ddraig Goch a baner yr Ariannin - a chlychau'r gog. Roedd y lle dan ei sang, a chawsom fara cartref, jam, a theisennod o bob math.Tra'n sglaffio teisennod, cwrddais ag Elfyn Williams, llywydd y Comisin de la Cultura Galesa. Doedd dim dwywaith mai Cymro ydoedd. Ces sioc pan siaradodd yn Sbaeneg â mi, oherwydd gyda'i fochau cochion rhadlon a'i wallt tonnog, cras, roedd un union fel ffermwr o gefn gwlad Cymru. Ychydig o'r henoed yn unig oedd â brith gof o'r Gymraeg.
Rhoddodd Tomás air o groeso i ni a darllenodd negeseuon gan rai na fedrodd ddod. Yna, cawsom ffilm yn adrodd hanes Cymry Choele Choel, a daeth lwmp i fy ngwddw wrth glywed am eu holl ddioddefaint.
Ar y diwedd, rhestrwyd enwau'r holl deuluoedd Cymreig a aeth yno, a ches fy syfrdanu wrth weld cymaint ohonyn nhw - Jones, Humphreys, Jenkins roedd y rhestr yn faith.
Efallai y byddai'r Gymraeg yn gryfach yn y Dyffryn heddiw pe bai'r holl deuluoedd hynny wedi aros, ond eto mae'n siwr ei bod yn anodd teimlo unrhyw ymlyniad at dir mor ddiffrwyth a hinsawdd mor greulon.
Mor braf fyddai i'r Cymry hynny wybod fod pobl yn cofio am eu dyfalbarhad ganrif yn ddiweddarach.
Dawnsio gwerin I gloi y te, perfformiodd Dawnswyr Gwanwyn. Hwn oedd y tro cyntaf i lawer o'r gynulleidfa weld dawnsio gwerin Cymreig, ac roedd y plant bach wrth eu boddau yn dynwared y grwp.
Yna, canodd ymwelwyr Dyffryn Camwy Hen Wlad Fy Nhadau, a chawsom gymeradwyaeth wresog. Roedd pawb eisiau diolch i ni am ddod, i roi blas iddynt o ddiwylliant eu cyndeidiau.
Yn y nos, cynhaliwyd cyngerdd yn Eglwys Gatholig Luis Beltrán.
Roedd swn yr eglwys yn fendigedig, a'r côr fel côr o angylion. Canwyd nifer o ganeuon Cymraeg, a rheiny a gafodd yr ymateb gorau. Roedd y gynulleidfa ar ei thraed ar ddiwedd y perfformiad, yn gweiddi am fwy.
Cafodd Amuyen ymateb gwych hefyd. Roedd eu detholiad nhw yn fwy eclectig, gyda chaneuon ysbrydol pobl dduon yr Amerig, cân o Frasil a chân Gymraeg hefyd - Dyddiau Dyn Sydd Fel Glaswelltyn.
Pizzas, gwin a phop Erbyn hanner nos, roeddem yn ôl yn Ysgol 11 i gael ein swper o pizzas cartref a digon o win a phop i bawb.
Rhythmau hudolus cumbia oedd yn ein disgwyl cerddoriaeth â'i gwreiddiau yng Ngholombia, sy'n hynod boblogaidd ymhlith pobl ifanc yr Ariannin ar hyn o bryd. Ond yna, wrth fwyta'n bwyd, cawsom alwadau i ganu Calon Lân a Sosban Fach (yn cynnwys y trydydd pennill sy'n unigryw ir Wladfa).
Canwyd rhai ffefrynnau Archentaidd, hefyd, a phan oedd pawb wedi bwyta llond eu boliau, dechreuodd y twmpath. Javier Brunt Patterson oedd yn arwain dyn ifanc brwdfrydig sydd newydd dreulio blwyddyn yng Nghymru yn astudio'r Gymraeg.
Cyn cychwyn am y Gaiman ddydd Sul, aethom draw am y tro olaf i Ysgol 11 am ein brecwast o goffi cryf a gweddillion teisennod y diwrnod cynt. Sgwrsiais yno â Tomás, a threfnwyd y bydd ef ac aelodau eraill y pwyllgor yn dod i'r Gaiman am ddosbarth Cymraeg cyn hir.
Creodd pobl Luis Beltran argraff arbennig arnaf ac rwy'n edrych ymlaen at eu croesawu i'r Dyffryn. Maent wedi cael blas ar ddiwylliant eu cyndeidiau, a da o beth fydd iddynt gael dysgu tipyn o'u hiaith yn awr.
|