Cyri'r Andes: Bu penwythnos lwyddiannus yn yr Andes ganol Mehefin 2006.
Nos Sadwrn bu'r noson gyri gyntaf yn yr ardal gyda 47 o bobl yn ddod at ei gilydd i brofi pleserau beth sydd nawr bron a bod yn un o fwydydd traddodiadol Cymru!
Roedd cwis bach wedyn ar Gwpan y Byd a raffl lle baner y Ddraig Goch yn un o'r gwobrau - diolch i bobl Culturenet! Ac yn barod ar gyfer mynd i Borth MAdryn i weld Cymru v Los Pumas y penwythnos wedyn!
Y cwestiwn oedd pryd mae`r nesaf ac roedd 47 o blatiau glân - felly dw i`n amau mai llwyddiant oedd y noson!
Ar y Sul cynhaliwyd te Cymreig ac er y tywydd oer daeth tua 60 o bobl at ei gilydd er mwyn bwyta te traddodiadol gydag amrywiaeth eang
o deisennau, bara cartref, sgons a digon o de!
Codwyd dros fil o pesos at yr ysgol.
Llongyfarchiadau i bawb am weithio mor galed - roedd yn bleser gweld y
Ganolfan yn llawn dwywaith mewn penwythnos!
Clare Whitehouse
Rhaglenni teledu: Mae cwmni teledu Fflic yn paratoi i gynhyrchu rhaglen arbennig awr o hyd o Batagonia yn ystod mis Hydref 2006.
Bydd yn gyfuniad o dair cyfres sy'n cael eu gweld ar deledu yng Nghymru: 04 Wal - cyfres sy'n edrych ar bobl a'u tai; Y Ty Cymreig - cyfres sy'n edrych ar bensaerniaeth frodorol a Cwpwrdd Dillad - cyfres sy'n edrych ar bobl a'u dillad.
Ar gyfer y rhaglen mae'r cwmni yn chwilio am dai sy'n arddangos pensaerniaeth frodorol Patagonia ynghyd a'r dylanwadau Cymreig. Mae hefyd yn chwilio am dai sydd wedi cael eu haddurno'n ddiddorol ac am am bobl sydd â chasgliadau diddorol o ddillad.
Gellir ebostio Fflic trwy glicio yma
|