Yng nghyfarfod blynyddol 2006 Cymdeithas Cymru Ariannin ar faes Eisteddfod Genedlaethol Abertawe bu merch ifanc o' Buenos Aires yn sôn sut y daeth y Gymraeg yn rhan o'i bywyd hi.
Dyma oedd gan Geraldine Lublin i'w ddweud:
Gofynnwyd i mi siarad am sut es i ati i ddysgu Cymraeg ac ymchwilio yng Nghymru a'r Wladfa. Hoffwn ddweud i mi ddysgu'r iaith ar yr aelwyd, achos bod nain a thaid yn siarad Cymraeg. Neu hoffwn i ddweud i mi benderfynu dysgu Cymraeg ar ôl cwympo mewn cariad â'r iaith pan oeddwn i ar wyliau yng Nghymru neu ym Mhatagonia.
Buasai hynny'n rhamantus, a buasai'r esboniad hwnnw efallai'n cyfateb i ddisgwyliadau'r gynulleidfa.
Ond fyddai o ddim yn wir!
O Buenos Aires Mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod i'n dod o Fuenos Aires, prifddinas yr Ariannin, ble ces i fy ngeni a fy magu, a does gen i ddim diferyn o waed Cymreig.
Dw i'n hoffi dweud nad oes gen i deulu Cymreig ar hyn o bryd, ond dw i'n siwr y bydd maes o law, gan fy mod i wedi priodi Archentwr o'r Wladfa, Walter Ariel Brooks o Comodoro Rivadavia.
A dyna sut dechreuodd popeth. Do'n i ddim yn gallu deall gair pan ddes i Gaerdydd y tro cyntaf ym 1999 ond ar ôl aros gyda Gwilym Roberts am dridiau, o'n i wedi dysgu Bore Da, diolch a tipyn bach -a oedd yn ddefnyddiol iawn pan oedd gwleddoedd traddodiadol Gwilym ar y bwrdd!
Dw i'n cofio hefyd ymweld â fy ngŵr -fy nghariad bryd hynny- pan oedd e'n dilyn cwrs Wlpan Llambed 1999.
Roedd e, yn ddi-os, wedi cwympo mewn cariad â'r iaith, ac yn anadlu Cymraeg ddydd a nos.
Dw i wastad yn meddwl am gwrs Wlpan Llambed fel rhyw fath o raglen Brawd Mawr - neu Gran Hermano - ond heb y camerâu.
A bod yn onest, dw i'n cofio edrych ar fyfyrwyr y cwrs yn mynychu gwersi drwy'r dydd a meddwl eu bod nhw'n siŵr o fod mewn rhyw fath o gwlt - neu secta .
Bob bore Sadwrn Ond des i, i mewn i'r cwlt fy hunan, yn araf deg.
Dechreuais i ddysgu yn anffurfiol ar ddiwedd y flwyddyn 2001, ar ôl mynd yn ôl i'r Ariannin.
Yn sgil awgrymiad Vali James de Irianni, roedd fy ngŵr wedi cytuno i ddysgu Cymraeg i oedolion ym Muenos Aires, a buon ni'n cwrdd bob bore Sadwrn yng Nghanolfan y Chubutenses yn y brifddinas am ryw bum mis.
Doedd hi ddim yn bosibl mynd yn gyflym yn ystod y gwersi hynny ond roedden ni'n cael llawer o hwyl yn canu ac ymarfer -a bwyta pethau blasus, wrth gwrs!
Es i ati o ddifri i ddysgu'r iaith ar ôl symud i Gaerdydd ym mis Mawrth 2002.
Drwy garedigrwydd yr Athro Robert Owen Jones a Helen Prosser, dechreuais i gwrs Wlpan tri mis yng Nghanolfan Dysgu Cymraeg Prifysgol Caerdydd y flwyddyn honno, a daliais ati nes i mi sefyll Arholiad Defnyddio'r Gymraeg Uwch - sef, Lefel A i Oedolion - ym mis Mehefin 2004.
Ers hynny, dw i wedi bod yn gweithio'n galed i anghofio'r holl ramadeg o'n i wedi ei hastudio.
Ymarferol yn hytrach na rhamantus A dweud y gwir, dw i wedi dysgu Cymraeg am resymau cwbwl ymarferol yn hytrach na rhai rhamantus neu deuluol.
Roedd fy ngŵr yn mwynhau siarad yr iaith mor aml â phosibl a do'n i ddim eisiau ei atal rhag gwneud hynny.
Hefyd, o'n i wedi cael digon ar beidio â deall a theimlo allan ohoni.
Ar ôl dod yma, roedd y ffaith bod ffrindiau yn gorfod newid iaith a siarad Saesneg er mwyn i mi ddeall yn codi cywilydd arnaf i.
Cymaint o bethau gwych Heblaw am hynny, o'n i eisiau manteisio gant y cant ar y profiad o fyw yng Nghymru ac o'n i'n awyddus iawn i ddarganfod y byd diwylliannol Cymreig sydd ar gael hyd yn oed mewn dinas fel Caerdydd.
A, beth bynnag fydd yn digwydd yn y dyfodol, fydda i byth yn difaru fy mod i wedi dysgu Cymraeg gan fod cymaint o bethau gwych yn aros yn y cysgodion os nad ydych chi'n deall yr iaith.
Dyn ni wastad yn dweud bod ein profiad ni fel siaradwyr Cymraeg yn hollol wahanol i brofiadau rhai o'n ffrindiau sydd ddim yn siarad yr iaith, ac sydd yn colli, felly, ran bwysig iawn o fywyd diwylliannol Cymru.
Mae'r Eisteddfod ei hun yn ddigwyddiad anhygoel, ac mae'n bleser gweld sut mae cymaint o bethau'n dod at ei gilydd mewn achlysur tebyg. Yn anffodus, mae gormod o'n ffrindiau di-Gymraeg yn meddwl mai rygbi a chwrw yn unig sydd yn cynrychioli diwylliant Cymru.
Yn y Brifysgol A dyma fi ar ôl pedair blynedd a hanner, yn dechrau ar y flwyddyn olaf o fy noethuriaeth yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, o dan gyfarwyddiad y Dr Angharad Price, y Dr Dylan Foster-Evans a'r Athro Colin Williams. "Wel wel, pwy fasai'n meddwl?" fyddai Gwilym Roberts yn ei ddweud.
A, gwir i chi, Gwilym, pwy fasai'n meddwl?
Ar ôl treulio cymaint o amser yn cadw cwmni i fy ngŵr wrth iddo holi pobl ynglŷn â'r Wladfa neu chwilio am wybodaeth mewn archifau, des i ddeall mwy am Batagonia.
Ro'n i'n mwynhau gwrando ar y bobl a dysgu mwy am hanes yr ardal. Ac, wel, cyn i mi sylweddoli, roedd gen i syniad am brosiect ymchwil.
Penderfynais geisio am ysgoloriaeth i fyfyrwyr tramor, a diolch i'r ysgoloriaeth honno ces i gyfle i wireddu fy mhrosiect.
Gwrando ar leisiau'r tir Ar y dechrau, ro'n i eisiau archwilio'r hunaniaeth Batagonaidd sydd wedi bod yn datblygu yn y rhanbarth.
Dyn ni i gyd wedi clywed am gyfrolau Charles Darwin, Bruce Chatwin a llwythi o lyfrau sydd yn trafod Patagonia 'o'r tu allan', fel petai - gwyddonwyr, teithwyr a llenorion yn disgrifio a chatalogio'r pethau a'r bobl maen nhw'n eu gweld ac yn y blaen.
Ond ro'n i eisiau gwrando ar leisiau'r tir, ar y bobl leol, i weld beth oedd ganddyn nhw i'w ddweud. Ro'n i eisiau gweld sut oedd hanes a diwylliant unigryw Patagonia yn magu synnwyr o hunaniaeth ranbarthol.
Yr ymchwil Er mwyn gwneud hynny, o'n i wedi dewis deunaw cyfrol hunangofiannol a ysgrifennwyd yn nhalaith Chubut yn ystod yr ugeinfed ganrif gan bobl o bob cefndir.
Ond wedyn sylweddolais fod gormod ar fy mhlât ac felly penderfynais ganolbwyntio ar y pedwar awdur o dras Gymreig a oedd gen i ar y rhestr, Fred Green, Valmai Jones, Carlos Luis Williams a Juan Daniel Moreteau.
Bydd fy nhraethawd ymchwil yn trafod hunaniaeth disgynyddion y Cymry ym Mhatagonia yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Mae fy ngwaith yn seiliedig ar bedwar hunangofiant a gyhoeddwyd yng Nghymru ac yn yr Ariannin rhwng 1984 a 1997, a'r syniad yw gweld sut mae hunaniaeth yr awduron hyn yn cael ei hadlewyrchu yn eu llyfrau.
Er mwyn i chi gael gwybod am bwy dw i'n son, dyma dipyn bach amdanyn nhw.
Gaucho'r paith ac eicon Cymreig Yn gyntaf, Pethau Patagonia (1984) a olygwyd gan Marian Elias ar sail cyfres o gyfweliadau gyda Fred Green yn ystod yr wythdegau cynnar.
Ganwyd ef ym 1913 yn y Gaiman, yn fab i'r Sais, John Charles Green, a Chymraes-Archentaidd, Gwenonwy Jones Berwyn - ac felly yn wyr i'r enwog R. J. Berwyn.
Symudodd Fred o Ddrofa Dulog i beithdir Rhyd yr Indiaid ac wedyn i Drefelin er mwyn i'w wraig a'r plant fyw o fewn cymdeithas.
Yn ei lyfr, mae Cadfridog cyntaf yr Urdd ym Mhatagonia - yn y Tridegau cynnar - yn ymddangos fel gaucho'r paith ac yn eicon o Gymreictod ar yr un pryd.
Merch o'r Gaiman Yn ail, mae llyfr Atgofion am y Wladfa (1985), gan Valmai Jones, yn rhoi persbectif merch o'r Gaiman a symudodd i Fuenos Aires yn gyntaf, ac wedyn i ardal Wrecsam yn 1955 ar ôl priodi Cymro o'r enw Harold Jones.
Ganwyd Valmai yng Nghydweli ym 1910, pan oedd ei thad yn astudio yng Ngholeg Diwinyddol Caerfyrddin.
Roedd hi'n ferch i Lizzie Rebecca Maliphant a David Iâl Jones.
Eto, mae Valmai yn bersonoliaeth gyfarwydd i chi fel cyn-Lywydd Cymdeithas Cymru-Ariannin.
Er bod Valmai yn ymlynu wrth ei Chymreictod, a hyd yn oed yn Brydeingar, dydy hi ddim yn datgelu perthynas agos at yr Ariannin.
Heb ddysgu Cymraeg Enw'r trydydd llyfr dw i'n ei ddadansoddi yw Puerto Madryn y el triunfo de mis padres: El Amor - Porth Madryn a llwyddiant fy rhieni: Cariad (1987) - gan Carlos Luis Williams.
Ganwyd Carlos Luis ym 1953 ym Mhorth Madryn, yn fab i Ilid Lloyd Jones Dolavon, ac Elved Williams Lle Cul, wedyn Gaiman.
Carlos Luis ydy'r ieuengaf o'r pedwar awdur ac mae e'n cynrychioli'r genhedlaeth na ddysgodd Gymraeg ar yr aelwyd oherwydd dirywiad y Gymraeg yn y Wladfa yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Serch hynny, mae'r llyfr yn cyflwyno ei awdur fel Archentwr sydd wedi cadw etifeddiaeth grefyddol a cherddorol y gwladwyr o Gymru, ac mae Carlos Luis yn gorfoleddu yn niwylliant ei rieni.
Etifeddiaeth Ffrengig Ac, yn olaf, Juan Daniel Moreteau a'i lyfr Tres etapas de una vida - Tri chyfnod mewn bywyd (1997).
Ganwyd Moreteau yn ardal Treorci ym 1915 yn fab i Elizabeth Ann Roberts a'r Ffrancwr Jean Joany Moreteau.
Toedd Moreteau y tad yn beiriannydd blaenllaw yn yr ardal, ac roedd fferm y Moreteaus yn adnabyddus iawn am amrywiaeth ac ansawdd ei chynnyrch.
Plentyn priodas gymysg yw Juan Daniel Moreteau, a beth sydd yn ddiddorol amdano yw ei fod e'n ochri â'i etifeddiaeth Ffrengig ac Archentaidd yn fwy na dim, a phrin mae e'n adnabod ei wreiddiau Cymreig.
Hefyd, mae'r ffaith bod ei fam wedi priodi rhywun y tu allan i'r gymdeithas Gymreig mor gynnar â 1909 yn anarferol ac, o'r herwydd, yn ddiddorol iawn o safbwynt cymdeithasol.
Gwahanol ffyrdd Gan fod amser yn brin, alla i ddim ymhelaethu ar destun fy ngwaith ymchwil ym mhellach ond, yn fras, mae'r pedwar awdur yn cyfleu gwahanol ffyrdd o ymdrin â'u hetifeddiaeth Gymreig.
Drwy edrych ar sut y maen nhw'n trin a thrafod eu perthynas a'r gymuned Archentaidd (neu Batagonaidd) yn gyffredinol, a sut maen nhw'n ymdrin â beth dw i'n ei alw yn "bileri traddodiadol Cymreictod y Wladfa" - sef, y Gymraeg, y capeli, yr Eisteddfod, y canu - mae'n bosibl darganfod sut mae pob unigolyn yn adeiladu ei hunaniaeth fel rhyw fath o collage.
A dyna un o brif bwyntiau fy mhrosiect. Fel academydd, galla i geisio trawsblannu'r model hwnnw i gymunedau diasporic eraill ar draws y byd, gan fod cymaint o ymfudwyr mewn sefyllfaoedd tebyg.
Ond, yn bwysicach, dw i'n gallu uniaethu â phroses adeiladu hunaniaeth yr awduron fel unigolyn. Dyn ni i gyd, i ryw raddau, wrthi yn llunio'n collage ein hunain.
Yn agoriad llygaid Yn ogystal â dysgu amdanaf i fy hun, mae'r profiad o wneud gwaith maes yn Chubut wedi bod yn agoriad llygad i mi.
Wrth chwilio am wybodaeth am hanes y Wladfa Gymreig, ces i bersbectif hollol wahanol ar yr hanes o'n i wedi ei ddysgu yn yr ysgol.
Pan ydych chi'n dysgu hanes yr Ariannin ym Muenos Aires, mae'r ffaith bod y brifddinas yn cael y flaenoriaeth trwy'r amser yn teimlo'n naturiol.
Ond dim ond wrth edrych ar yr un ffeithiau o safbwynt arall ydych chi'n dod i sylweddoli pa mor bell ydy'r brifddinas a pha mor annheg yw'r drefn i gyd.
Atgofion melysach Heblaw am y cynnydd deallusol, fel petai, mae ymchwilio'r gymuned Gymreig yn Chubut wedi bod o les i mi yn bersonol.
Drwy wneud ymchwil, dw i wedi dod i nabod llwyth o bobl ddiddorol dros ben, yma yng Nghymru ac yn y Wladfa, ac wedi mwynhau pob munud.
Mae strydoedd y Gaiman, bryniau'r dyffryn a mynyddoedd Trevelin ac Esquel yn rhan o'm hatgofion melysach a dylwn i fod yn ddiolchgar i'r Gymraeg am agor drysau'r byd hwnnw i mi.
Mwy na dysgu iaith . . . Mae'n amlwg nad wedi dysgu iaith yn unig ydw i, ond hefyd dw i wedi dod i nabod diwylliant godidog sydd wedi fy nghyfoethogi i.
I gloi, hoffwn i ddweud fy mod i wedi mwynhau'r profiad o ddysgu am iaith a diwylliant Cymru -ac yn dal i wneud, wrth gwrs - er nad ydw i'n ddisgynnydd i'r gwladfawyr.
Mewn ffordd, felly, does dim angen esgus teuluol i fynd ati i fwynhau'r 'Pethe', a dw i mor falch fy mod i wedi gwneud hynny.
|