Ymgasglodd llu o blant a phobl ifanc yn gimnasio'r Gaiman i gymryd rhan yn Eisteddfod y Bobl Ifanc.
Cafwyd cystadlaethau adrodd, cydadrodd, a chanu yn y Gymraeg a'r Sbaeneg a dawsfeydd traddodiadol o'r Ariannin yn ogystal â dawnsio gwerin o Gymru.
Megis yn Eisteddfod yr Urdd, rhoddwyd llwyfan i ddoniau'r bobl ifanc mewn dathliad o ddiwylliant Cymreig ond rhoddwyd lle amlwg hefyd i'r diwylliant Archentaidd.
Eleni, gwnaethpwyd ymdrech arbennig i gadw'r rhai uniaith Sbaeneg yn hapus. Rhoddwyd cyfieithiadau o'r holl adroddiadau a braslun o eiriau pob cân Gymraeg ar sgrîn ger y llwyfan, a chyfieithwyd pob beirniadaeth Gymraeg i'r Sbaeneg.
Beirniadu'r adrodd Cawsom adloniant o'r safon uchaf nos Wener a dydd Sadwrn, ond ni chefais eistedd yn ôl i'w fwynhau. Roedd yn rhaid i mi weithio gan mai fi oedd yn beirniadu'r adrodd yn Gymraeg.
Fe'm gosodwyd ar fwrdd yng nghanol y neuadd gyda beirniad yr eitemau cerddorol Cymraeg, Nesta Davies (athrawes Gymraeg yr Andes), a'n cyfieithwyr o bobtu i ni.
Wrth inni roi'r beirniadaethau, roedd camera yn ein ffilmio gan ddangos ein hwynebau yn fawr ar y sgrîn.
Roedd yn system slic a phroffesiynol, ond ar brydiau byddai'r camera'n troi atom ar adegau anffodus, megis pan oeddwn yn baglu dros eiriau anthem genedlaethol yr Ariannin, neu pan oedd Nesta yn tynnu gwm cnoi o'i cheg!
Athrawon, rhieni, neiniau a theidiau Tasg go anodd oedd beirniadu ar brydiau. Bu athrawon, rhieni, neiniau a theidiau yn hyfforddi rhai o'r plantos ers misoedd, a chafwyd safon eithriadol o uchel ym mhob cystadleuaeth.
Peth cas oedd gorfod dewis rhyngddynt, ond ceisiais ddweud rhywbeth calonogol wrthynt oll. Wedi dweud hynny, cafodd Nesta dasg tipyn anos na mi gan fod llawer mwy o gystadlaethau canu nag adrodd.
Bu wrthi'n ddi-baid tan ddiwedd y noson, yn llawn brwdfrydedd ac egni. Mae hi'n berson rhyfeddol mae hi dros ddwywaith fy oedran i ond yn aml yn gwneud i mi deimlo fel hen gant!
Dros fil o filltiroedd Fel arfer, dim ond cystadleuwyr o Esquel a Threvelin sy'n teithio'n bell i'r Eisteddfod, ond eleni teithiodd côr o Brifysgol La Plata dros fil o filltiroedd mewn bws.
Mae Prifysgol La Plata, talaith Buenos Aires, yn un o Brifysgolion pwysicaf yr Ariannin, a'i hadran gerddoriaeth yn un uchel iawn ei pharch. Daethant yma dan arweinyddiaeth Milton Del Real, bachgen o'r Gaiman sy'n astudio i fod yn arweinydd côr.
Bu Milton yn mynychu dosbarthiadau Cymraeg pan oedd yn ei arddegau, ac ymwelodd â Chymru gyda Chôr Ieuenctid y Gaiman, felly gallodd hyfforddi ei gôr i ynganu'r geiriau Cymraeg yn berffaith.
Teimlwn edmygedd mawr wrth feddwl am eu gwaith caled, yn enwedig gan fod y mwyafrif heb unrhyw gefndir Cymraeg.
Yn y diwedd, Côr Gaiman a orfu, ond cafodd aelodau côr La Plata amser wrth eu boddau, a bod yn rhan o gystadleuaeth o safon uchel.
Erbyn hyn, mae enwogrwydd Eisteddfodau Chubut wedi lledu, a gwŷr arweinyddion corau y cânt her a chystadleuaeth dda. Mae'n debyg y bydd corau o fannau pellach fyth yn dod i Eisteddfod y Wladfa ym mis Hydref am y rheswm hwnnw.
Hoff o seremoniau Rwyf wedi sylwi fod yr Archentwyr yn hoff iawn o seremoniau (neu actos, fel y'u gelwir yn Sbaeneg).
Ceir acto i ddathlu neu goffáu pob math o bethau. Bm mewn acto yng Ngholeg Camwy echddoe i ddathlu'r Diwrnod Heddwch Rhyngwladol, a chafwyd acto yr wythnos diwethaf i ddathlu Diwrnod yr Athro.
Seremoni'r Fedal Felly, roedd tipyn o steil yn perthyn i Seremoni'r Fedal Lenyddiaeth ( i wobrwyo cerdd Sbaeneg) er ei bod yn dilyn patrwm y seremoni Gymreig.
Wrth i'r llywydd alw am y bardd i godi ar ei draed, ni symudodd neb am hydoedd. Roedd pawb ar bigau'r drain a'r tensiwn yn anioddefol (mae'r Archentwyr yn tueddu i fod yn fwy dramatig na'r Cymry hefyd).
Yna, yn sydyn, teimlais bawb yn cipio'u hanadl mewn syndod roedd Geraldine MacBurney Jones wedi codi ar ei thraed. Mae Geraldine bellach yn byw yn Llandudno, a doedd neb yn gwybod ei bod wedi cyrraedd y Gaiman ers dydd Gwener.
Rhoddwyd lluniau ohoni'n blentyn ar y sgrin fawr, a chlywsom dipyn o'i hanes cyn cael dawns flodau draddodiadol.
Dan deimlad Roedd Geraldine dan deimlad pan ddarllenwyd ei cherdd, gan mai teyrnged i'r Gaiman ac i Delyth, ei nain, oedd hi.
Roedd y rhes y tu ôl i mi yn eu dagrau. (Mae'r Archentwyr hefyd yn fwy parod i ddangos eu hemosiynau na'r Cymry).
Oriau mân y bore Un peth Archentaidd iawn am yr Eisteddfod oedd ei hamser. Yma yn yr Ariannin, mae pawb yn bwyta yn hwyrach ac yn cymdeithasu yn oriau mân y bore, felly nid oedd disgwyl i noson yr Eisteddfod fod yn wahanol.
Ni orffennodd yr Eisteddfod tan 12.30 nos Wener. Cychwynnodd tua 2.30 ddydd Sadwrn, a gorffennodd ddeuddeng awr yn ddiweddarach, am 2.30 fore Sul!
Erbyn cael y bwffe, roedd hi'n hwyr arna i'n mynd i glwydo, ac roedd codi mewn pryd at Gymanfa Ganu'r Eisteddfod yn dipyn o gamp.
O edrych ar wynebau gwelwon rhai o aelodau eraill y gynulleidfa, gallwn weld eu bod nhw'n teimlo fel fi.
Mam yn dwrdio Trwy gydol fy nyddiau ysgol, cystadlwn yn frwd mewn eisteddfodau ond daeth hynny i ben pan es i'r Brifysgol. Tan y penwythnos hwn, roeddwn wedi anghofio cymaint ro'n i'n mwynhau eisteddfota.
Er bod Eisteddfod y Bobl Ifanc yn Chubut yn wahanol iawn i Eisteddfod yr Urdd yng Nghymru, teimlais yr un wefr wrth weld plant a phobl ifanc ddawnus yn mynd trwy'u pethau, a'r un nerfusrwydd wrth aros am ganlyniadau.
Llifodd atgofion lu yn ôl wrth gael cip ar fam yn dwrdio'i mab am fethu a chael llwyfan ar yr adrodd, ac wrth weld rhai o'r plant lleiaf yn rhewi wrth wynebu'r gynulleidfa fawr.
Ond roedd awyrgylch yr Eisteddfod yn bendant yn wahanol i eisteddfod yng Nghymru, a'r Archentwyr wedi newid sawl peth er gwell.
Mwynhau'r diwrnod ac nid ennill oedd nod y cystadleuwyr (a mam y bachgen aflwyddiannus druan yn eithriad).
Roedd pawb yn ymlacio heb unrhyw arwydd o nerfusrwydd, ac ni theimlais fod cymaint o gythraul canu yno ag mewn Eisteddfodau yng Nghymru. Sgwrsiai cystadleuwyr yn braf gyda'i gilydd, ac roeddent yn awyddus i longyfarch pob cystadleuydd buddugol.
Prifddinas canu corawl Wrth ddod i mewn i'r Gaiman, fe welwch chi arwydd yn eich croesawu i brifddinas y canu corawl'.
Mae hwnnw'n sicr yn deitl haeddiannol - mae canu a cherddoriaeth yn eithriadol o bwysig i'r dref.
Ar ôl holl brysurdeb y penwythnos, bu rhai wrthi'n ymarfer canu eto nos Sul gan fod cystadleuaeth gorawl ryngwladol yn cael ei chynnal yn Nhrelew yr wythnos hon.
Ac wedi i honno ddod i ben, bydd yn rhaid dechrau meddwl am Eisteddfod y Wladfa y mis nesaf.
|